Hyderus o ran Anabledd

Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd rydym yn gwirfoddoli i sicrhau ein bod yn cyflawni'r camau canlynol bob amser. Denu a recriwtio pobl anabl Mynd ati i geisio denu a recriwtio pobl anablDarparu proses recriwtio gwbl gynhwysol a hygyrchCynnig ...

Hyderus o ran Anabledd

Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd rydym yn gwirfoddoli i sicrhau ein bod yn cyflawni’r camau canlynol bob amser.

Denu a recriwtio pobl anabl

  • Mynd ati i geisio denu a recriwtio pobl anabl
  • Darparu proses recriwtio gwbl gynhwysol a hygyrch
  • Cynnig cyfweliad i bobl anabl sy’n bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd
  • Dangos hyblygrwydd wrth asesu pobl fel y gall ymgeiswyr sydd ag anabledd gael y cyfle gorau i ddangos eu bod yn gallu gwneud y gwaith
  • Cynnig a gwneud addasiadau rhesymol yn ôl yr angen
  • Annog ein cyflenwyr a’n sefydliadau partner i fod yn Hyderus o ran Anabledd
  • Sicrhau bod gan weithwyr ymwybyddiaeth briodol o gydraddoldeb anabledd

Cadw a datblygu gweithwyr anabl

  • Hyrwyddo diwylliant o fod yn Hyderus o ran Anabledd
  • Cefnogi gweithwyr i reoli eu hanableddau neu eu cyflyrau iechyd
  • Sicrhau nad oes unrhyw rwystrau o ran datblygiad a chynnydd staff anabl
  • Sicrhau bod rheolwyr yn ymwybodol o sut y gallant gefnogi staff sy’n sâl neu’n absennol o’r gwaith
  • Gwerthfawrogi a gwrando ar adborth gan staff anabl
  • Adolygu’r hunan-asesiad ar gyfer Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn rheolaidd