Mae ein tîm Adnoddau Dynol yn ein cefnogi i ddenu, datblygu a chadw’r bobl orau, sy’n gymwys i ddarparu gwasanaethau o’r safon uchaf i bobl Ceredigion yn awr ac yn y dyfodol. Mae’r tîm Adnoddau Dynol wrth wraidd ein llwyddiant.

Mae ein rolau sy’n gysylltiedig ag Adnoddau Dynol yn rhan o’r Gwasanaeth Pobl a Threfniadaeth. Mae gan y gwasanaeth hwn ystod o rolau Adnoddau Dynol sy’n cynnig gyrfa ddiddorol ac amrywiol. Mae rolau lefel mynediad yn cynnwys Cynorthwyydd Adnoddau Dynol a Phrentisiaeth Adnoddau Dynol, gyda chyfleoedd i symud ymlaen i rôl ymgynghorol neu ddatblygu.

Os oes gennych chi agwedd arloesol sy’n canolbwyntio ar ddatrys problemau ac os yw darparu’r gwasanaeth gorau posibl yn eich cymell, yna mae’n bosib mai ein tîm Adnoddau Dynol yw’r lle delfrydol i chi.

 

Straeon Gweithwyr

Mae fy rôl fel Uwch Gynorthwyydd Adnoddau Dynol yng Nghyngor Sir Ceredigion yn rhoi boddhad mawr imi, nid yn unig o ganlyniad i'r pecyn buddion rhagorol sy’n rhan o’r cynlluniau Ceri+,ond hefyd oherwydd rwy'n medru gweithio'n hyblyg i gyd-fynd â gofal plant. Mae'r swydd hefyd yn fy ngalluogi i gael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.

Gemma Cook, Swyddog Adnoddau Dynol
Darllenwch y stori lawn