Gwerthfawrogir sgiliau ariannol da mewn sawl rôl sydd ar gael gyda ni. Fodd bynnag, os hoffech arbenigo yna ein gwasanaeth Cyllid a Chaffael yw’r lle i chi!

Mae’r gweithwyr yn ein gwasanaeth Cyllid a Chaffael yn darparu cymorth hollbwysig i’r sefydliad cyfan. Maent yn sicrhau ein bod yn parhau i fod yn gadarn yn ariannol ac ein bod yn cael y gwerth gorau o’n hadnoddau ariannol.

Mae’r gwasanaeth yn cynnwys y timau allweddol canlynol:
Cyllid Craidd
Caffael a Thaliadau
Refeniw ac Asesiadau a Budd-daliadau Cymorth Treth
Cyllid Gwasanaethau

Mae’r timau hyn yn darparu pob math o swyddi ac felly’n cynnig dilyniant gyrfa gwych.

Swyddi Gwag Cyfredol

Rheolwr Cronfa Ffyniant Cyffredin Canolbarth Cymru

Canolfan Rheidol, Aberystwyth

43,421 - 45,441

37 awr / Cyfnod Penodedig

Dyddiad Cau: 23/04/2024