Rydym yn teimlo’n angerddol dros ein sir, eiharfordir a’i chefn gwlad trawiadol a’i threfi a’i phentrefi bywiog. Mae ein timau sy’n gysylltiedig â ffyrdd, gwastraff a’r amgylchedd yn sicrhau bod ein sir y gorau y gall fod i bobl Ceredigion a’r llu o dwristiaid sy’n ymweld â hi.

Mae llawer o gyfleoedd sy’n gysylltiedig â ffyrdd, gwastraff a’r amgylchedd ar gael o fewn y tîm Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol. Rhennir y gwasanaeth yn dimau allweddol fel a ganlyn:

Datblygiadau Priffyrdd
Cynnal a Chadw Priffyrdd
Trafnidiaeth
Amgylchedd Lleol

Mae’r timau hyn yn darparu ystod o swyddi gan gynnwys peirianwyr, arolygwyr priffyrdd a ffitwyr cerbydau, gyrwyr a swyddogion rheoli gwastraff a llawer mwy.