Mae gwasanaeth wrth wraidd popeth a wnawn yng Ngheredigion. Mae gan weithwyr ein gwasanaethau cwsmeriaid gyfle i gael effaith wirioneddol ar safon y gwasanaeth a ddarparwn. Bob dydd, mae’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau yn dibynnu arnynt i’w helpu gyda phob math o faterion, gan gynnwys materion fel casglu gwastraff, tai, treth cyngor neu gofrestru gydag ysgol.

Mae nifer o swyddi sy’n gysylltiedig â gwasanaethau cwsmeriaid yn rhan o dîm Gwasanaethau Cwsmeriaid Corfforaethol. Mae’r tim hyn yn cynnwys llawer o swyddi amrywiol, gan gynnwys Derbynwyr, Ymgynghorwyr Canolfannau Cyswllt a Chysylltwyr Cymunedol. Os ydych chi’n gallu cyfathrebu’n dda ac yn mwynhau helpu pobl yna gallai gyrfa ym maes gwasanaethau cwsmeriaid fod yn ddelfrydol i chi.