Mae ein staff clerigol a gweinyddol yn darparu cymorth gwerthfawr ledled ein swyddfeydd. Maent yn helpu i sicrhau bod olwynion y Cyngor yn parhau i droi gyda’u sgiliau trefnu, eu sgiliau cyfathrebu a’u sgiliau TG rhagorol.

Mae sawl swydd clerigol a gweinyddol yn y Cyngor sy’n cynnig digon o gyfleoedd dyrchafu i’r rhai sy’n awyddus i ddringo’r ysgol. Bydd ein cyfleoedd dysgu a datblygu rhagorol yn eich helpu i gyflawni eich nodau.

Os hoffech ddechrau gyrfa yn y maes hwn ond nid oes gennych y sgiliau na’r profiad i wneud hynny ar hyn o bryd, cymerwch olwg ar ein tudalennau gyrfaoedd cynnar i weld sut y gallwn eich helpu i ddechrau arni.

Swyddi Gwag Cyfredol

Cynorthwyydd Tai – Y Gofrestr Tai

Canolfan Rheidol, Aberystwyth

24,294 - 25,545

37 awr / Cyfnod Penodedig

Dyddiad Cau: 26/04/2024
Datblygwr Deallusrwydd Busnes

Penmorfa, Aberaeron

29,269 - 31,364

37 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 29/04/2024
Gweinyddydd Cymorth ir Gwasanaethau/Derbynydd

Aberystwyth

23,114

37 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 24/04/2024

Straeon Gweithwyr

Mae fy rôl fel Uwch Gynorthwyydd Adnoddau Dynol yng Nghyngor Sir Ceredigion yn rhoi boddhad mawr imi, nid yn unig o ganlyniad i'r pecyn buddion rhagorol sy’n rhan o’r cynlluniau Ceri+,ond hefyd oherwydd rwy'n medru gweithio'n hyblyg i gyd-fynd â gofal plant. Mae'r swydd hefyd yn fy ngalluogi i gael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.

Gemma Cook, Swyddog Adnoddau Dynol
Darllenwch y stori lawn