Mae ein hamgueddfa, ein harchifdy a’n llyfrgelloedd yn rhoi gwerth unigryw i Geredigion. Maent wrth wraidd ein cymunedau ac mae’r bobl o bob oed sy’n eu defnyddio yn ymddiried ynddynt ac yn eu parchu.

Mae ein hamgueddfa a’n harchifdy wedi’u lleoli yn Aberystwyth. Mae gennym lyfrgelloedd yn Aberystwyth, Aberaeron, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth llyfrgell symudol. Felly mae cyfleoedd ar draws y sir.

Straeon Gweithwyr

Mewn awdurdod bach mae rhywun yn dod i adnabod nifer o gydweithwyr ac mae perthynas waith dda yn cael ei chreu.  Yn fy mhrofiad i, nid yw fel rhyw fusnes mawr ac amhersonol – mae’n gymuned o unigolion sy’n defnyddio eu sgiliau a’u hintegriti i ddarparu gwasanaethau da i bobl y sir hon.

Helen Palmer, Archifydd y Sir / Rheolwr Gwybodaeth a Chofnodion
Darllenwch y stori lawn