Cymunedau am Waith +

Wy ti'n ddi-waith? Efallai gall Cymunedau am Waith + dy helpu.

Cymunedau am Waith +

Cymunedau am Waith +

Mae Cymunedau am Waith + (CaW+) yn brosiect sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i redeg gan Gyngor Sir Ceredigion. Mae cefnogaeth gan CaW+ ar gael ar gyfer pobol dros 16 mlwydd oed sy’n yn byw yng Nghymru nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Er hyn, ein ffocws pennaf ddylai i gefnogi’r rheiny sydd â’r risg mwyaf o fod o dan anfantais.

Mae mentoriaid yn darparu cefnogaeth 1:1 i’r cyfranogwyr gan helpu i ysgrifennu’r cais am swydd ddelfrydol a CV, cefnogaeth wrth chwilio am swydd, cynnal cyfweliadau ffug, datblygu sgiliau cyfweliad, meithrin hyder, uwchsgilio ac ariannu amrywiaeth eang o hyfforddiant.

Mae cyrsiau hyfforddiant yn amrywio o gymwysterau Cymorth Cyntaf, manwerthu neu iechyd, cerdyn diogelwch mewn adeiladwaith, trwydded diogelwch a llawer mwy.

Os ydych yn credu y gall y prosiect hwn eich helpu chi neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm ar 01970 633 422 neu e-bostiwch TCC-EST@ceredigion.gov.uk.

Yn ychwanegol at hyn, cysylltwch â ni os ydych yn gyflogwr ac yn medru cynnig cyfleoedd i’r cyfranogwyr i gael profiad gwaith neu gyfle am waith cyflogedig (wedi’i ariannu gan Cymunedau am Waith +).

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma