Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 01/02/2023
Cyfeirnod: REQ104125
7.4 awr / Parhaol
27,344 - 29,439 *
Aberystwyth
Mae Dysgu Gydol Oes a Sgiliau am benodi unigolyn deinamig a brwdfrydig i ddarparu hyfforddiant ac asesu, o ansawdd uchel o fewn y maes Plymio. Chwiliwn am frwdfrydedd i hyrwyddo dulliau dysgu, cyrhaeddiad a chyflawniad ein dysgwyr/myfyrwyr.
Prif ddyletswyddau deiliad y swydd bydd:
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch diddordeb, cynigiwn y cyfle i weithio mewn sefydliad blaengar ac uchelgeisiol mewn ardal sy’n nodedig am ei thirwedd a’i thraethau hyfryd. Ar ben hynny, bydd gennych:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Karen Bulman ar 07967278986.
Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn oedolion mewn perygl a phlant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi oedolion mewn perygl, plant a phobl ifanc er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod eu hawl i gael eu diogelu a byddant yn cymryd camau i ddiogelu eu lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn, a bydd arnom angen Gwiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), y Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt cyn penodi i’r swydd hon.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn darparu gwasanaethau cymorth, atal ac ymyrraeth gynnar i ystod o grwpiau ac unigolion ledled y Sir. Ein nod yw adnabod angen a chynnig cefnogaeth cyn i faterion a phryderon gwaethygu a bod angen ymyrraeth fwy ffurfiol. Mae ein swyddogaethau yn cynnwys: