Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 01/01/2024
Cyfeirnod: REQ104213
Achlysurol
28,866 - 44,450 *
O fewn a thu allan i Geredigion
Ym mis Ionawr 2021, comisiynwyd e-sgol gan Lywodraeth Cymru i gynnal cyfres o sesiynau adolygu byw ar gyfer myfyrwyr TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch. Cynhelir yr holl sesiynau ar ôl oriau ysgol a chânt eu recordio hefyd, er mwyn i fyfyrwyr allu ailymweld â hwy ar unrhyw adeg. Mae Carlam Cymru yn parhau yn ystod 2022/23, gyda sesiynau byw ar gael i fyfyrwyr yn ystod tymor yr Hydref 2022 a Gwanwyn 2023.
Nod y sesiynau yw cyfoethogi gwybodaeth y myfyrwyr mewn gwahanol bynciau ac i gynnig cymorth pellach i’r gwaith anhygoel mae’r athrawon yn eu cyflawni yn eu hysgolion. Mae’r sesiynau adolygu byw AM DDIM ac ar gael i bob myfyriwr ledled Cymru a thu hwnt.
Mae e-sgol yn edrych i benodi ymarferwyr profiadol o bob rhan o Gymru i gyflwyno a/neu hwyluso digwyddiadau byw ar-lein a fydd yn cael eu rhannu ag ysgolion ledled Cymru. Bydd y sesiynau yn cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu ymhellach eu dealltwriaeth o wahanol destunau/unedau o fewn pynciau amrywiol.
Noder: Cedwir yr hawl i ddiwygio’r dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu’u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: