Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 19/09/2024
Cyfeirnod: REQ105532
37 awr / Parhaol
40,221 - 42,403 *
Llanbedr Pont Steffan
Rydym yn chwilio am Reolwr Cofrestredig ar gyfer Cartref Gofal Hafan Deg, Llambed a hynny yn barhaol ag yn llawn-amser, gan weithio shifftiau dros gyfnodau o saith niwrnod.
Mae Cartref Hafan Deg yn cynnig 18 o leoliadau preswyl gan gynnwys rhai tymor byr, dros dro a parhaol.
Fel Rheolwr Cofrestredig byddwch yn bennaf gyfrifol am wasanaethau’r cartref gan sicrhau bod ymrwymiad llwyr i ddarparu gwasanaeth o safon sy’n canolbwyntio ar y cleientiaid yn unol â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru).
O ddydd i ddydd byddwch yn:
Rydym yn awyddus i recriwtio unigolyn sydd â phrofiad goruchwylio/rheoli blaenorol ac â’r gallu i ddatblygu gwasanaethau arloesol i bobl hwn gan roi pwyslais ar y cleientiaid. Bydd gan ein hymgeisydd delfrydol NVQ 4/QCF 5 mewn Rheoli Gofal neu bydd yn astudio tuag at y cymhwyster hwnnw, a bydd yn gallu dangos bod ganddo/ganddi brofiad o’r canlynol:
Yn ogystal â’r nodweddion uchod, rydym yn chwilio am berson sydd â Chymraeg eitha rhugl. Bydd ymgeisydd llwyddiannus sydd heb y sgiliau gofynnol o ran y Gymraeg yn cael cefnogaeth lawn i gyrraedd y safon a ddymunir o fewn dwy flynedd i’r penodiad.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig amrywiaeth o fuddion gwaith i chi gan gynnwys lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun hael o ran cyfraniadau pensiwn. Mae rhagor o wybodaeth am ein amrywiaeth eang o fuddion i weithwyr i’w gweld yma.
Hefyd, rydym yn ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i’ch galluogi i berchenogi meysydd cyfrifoldeb y rôl hon yn sydyn ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym yn ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn ichi fedru datblygu eich gyrfa gyda ni.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Gareth W Hughes Rheolwr Tîm Gwasanaethau Preswyl a Darparwyr trwy ebost gareth.hughes@ceredigion.gov.uk neu ar rhif ffôn 01545 572672
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol. Ein prif swyddogaethau yw: