Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Gweithiwr Gofal a Chymorth x 4

Dyddiad Cau: 10/09/2024

Cyfeirnod: REQ105534

35 awr / Parhaol

24,294 - 25,545 *

O fewn Ceredigion

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Ydych chi’n angerddol am hawl pobl i gadw eu hannibyniaeth? A oes gennych y sgiliau i ddarparu gofal a chymorth ymarferol i unigolion yn eu cartref gyda gweithgareddau fel hylendid personol, paratoi prydau bwyd, anghenion diwylliannol a domestig? A oes gennych chi gar gydag yswiriant defnydd busnes? Yna hoffem glywed gennych!

Ar hyn o bryd rydym am recriwtio nifer o Weithwyr Gofal a Chymorth i gefnogi cleientiaid ar draws de Ceredigion (Llandysul/Aberteifi). Er y byddai profiad gofal blaenorol o fantais, nid yw’n hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu. Yr hyn sy’n bwysig i ni yw mai chi yw’r math o berson a fydd yn sicrhau cysur, urddas a hunan-barch ein cleientiaid.

Ynglwn â rôl Gweithiwr Gofal a Chymorth

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio 35 awr yr wythnos, ar batrwm sifft hollt rhwng 7am a 10pm, ar batrwm rota treigl 4 ymlaen, 4 i ffwrdd. Darperir tâl uwch am unrhyw waith a wneir ar benwythnosau ar ôl 9pm neu ar wyliau banc. Bydd ceisiadau i weithio 21 awr yr wythnos hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer unrhyw un sy’n ffafrio llai o oriau.

Fel Gweithiwr Gofal a Chymorth, eich tasgau allweddol fydd darparu cefnogaeth ac anogaeth i gleientiaid i adennill sgiliau neu ddefnyddio offer i gynorthwyo:

  • ymdrochi/Gofal personol
  • gwisgo a dadwisgo
  • symudedd a throsglwyddiadau
  • sgiliau cegin
  • rhaglenni ymarfer corff ar gyfer adsefydlu a datblygu dan gyfarwyddyd Ffisiotherapydd neu Therapydd Galwedigaethol os oes angen
  • meddyginiaeth

Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn cefnogol ymuno â thîm cyfeillgar ac ymroddedig a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Ein cynnig i chi

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch diddordeb, byddwn yn cynnig amrywiaeth o fuddion cyflogeion yn gyfnewid, gan gynnwys:

  • o 27 hyd at 34 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (ynghyd ag 8 o wyliau cyhoeddus) ar sail pro rata
  • cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol hael (cyfradd cyfraniad y cyflogwr wedi’i osod ar 15.8%)
  • tâl uwch am absenoldeb teuluol a salwch (hyd y gwasanaeth yn berthnasol)
  • cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys y cynllun Beicio i’r Gwaith, Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol a Phrydlesu Ceir
  • cyfleoedd dysgu a datblygu
  • mentrau iechyd a lles gan gynnwys aelodaeth ddisgowntedig i’n canolfannau hamdden lleol
  • cerdyn Disgownt Siopa (Vectis)

Cyflwyno cais

Rydym wedi symleiddio ein ffurflen gais ar-lein i’w gwneud yn haws i chi wneud cais. Fodd bynnag, os oes angen cymorth arnoch i’w gwblhau, mae croeso i chi gysylltu â humanresources@ceredigion.gov.uk

Gwybodaeth Ychwanegol

Gellir dod o hyd i fanylion ychwanegol am y rôl a manyleb y person trwy’r ddolen ganlynol:

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Dawn James ar 01545 574092.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Gofal – Gwasanaethau Ymyrraeth wedi’u Targedu

Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol. Ein prif swyddogaethau yw:

  • Tîm Derbyn a Brysbennu Porth Ceredigion
  • Gwasanaethau Ymyrraeth wedi’i Thargedu
  • Gwasanaethau Maethu
  • Gwasanaethau Preswyl a Gofal Dydd
  • Gwasanaethau Tai
  • Storfeydd Cyfarpar Cymunedol Integredig
  • Tîm Dyletswydd Argyfwng