Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 08/09/2024
Cyfeirnod: REQ105558
Achlysurol
22,737 *
Llanbedr Pont Steffan
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych i apwyntio 2 x Cynorthwyydd Gweithrediadau achlysurol yng Nghanolfan Lles Llambed.
Fel prif wasanaeth y Cyngor Sir o ran darpariaeth chwaraeon a hamdden byddwch yn gweithio yn agos gyda’r tim rheoli er mwyn darparu cyfleon i unigolion y Sir er mwyn gwella iechyd a lles ein trigolion.
Mae’r gwasanaeth yn cychwyn ar daith gyffrous wrth i ni trawsnewid i Canolfannau Lles, felly os oes gennych y sgiliau a’r awydd i fod yn rhan o’r daith yma byddem yn croesawi derbyn cais gennych.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am drafodaeth anffurfiol ynglwn â’r rôl cysylltwch â Rhidian Harries ar e-bost: Rhidian.Harries@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn darparu gwasanaethau cymorth, atal ac ymyrraeth gynnar i ystod o grwpiau ac unigolion ledled y Sir. Ein nod yw adnabod angen a chynnig cefnogaeth cyn i faterion a phryderon gwaethygu a bod angen ymyrraeth fwy ffurfiol. Mae ein swyddogaethau yn cynnwys: