Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Achubwr Bywydau / Cynorthwyydd Gweithrediadau Canolfannau Lles x 2

Dyddiad Cau: 15/09/2024

Cyfeirnod: REQ105559

Achlysurol

22,737 *

Llanbedr Pont Steffan

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu cynnig cyfleusterau hamdden traddodiadol i greu hwb lles ehangach? Ydych chi’n drefnus, yn llawn cymhelliant ac yn mwynhau gweithio gyda phob oedran a gallu? Ydych chi’n angerddol am ddarparu cyfleoedd cynhwysol a all gyfrannu at wella lles trigolion Ceredigion? Os ydych chi wedyn, darllenwch ymlaen.

Rydym yn awyddus i recriwtio 2 x Achubwr Bywydau Achlysurol i ymuno â’n Gwasanaeth Canolfannau Lles sy’n ehangu. Fel prif wasanaeth y cyngor ar gyfer darparu a datblygu cyfleoedd gweithgarwch corfforol, byddwch yn gweithio’n agos gyda’r tîm rheoli i sicrhau bod y gwasanaeth yn gwneud y mwyaf o’i gyfraniad at wella iechyd a lles trigolion y sir.

Byddwch yn helpu ein darpariaeth bresennol fel ein rhaglen Dysgu Nofio, Nofio am ddim a’n rhaglen Nofio Ysgolion. Bydd eich rôl hefyd yn cynnwys cefnogi ein staff i ddarparu profiad rhagorol i gwsmeriaid.

Rydym am ddarparu cyfleoedd sy’n annog trigolion Ceredigion i fod yn iach ac yn egnïol ac i ymgorffori’r egwyddorion hynny yn eu bywydau bob dydd. Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Cydlynydd Canolfannau Lles, Hyfforddwr Nofio a’n Swyddogion Dyletswydd i gyflawni hyn.

Rydym yn chwilio am unigolyn egnïol sydd â’r gallu, y wybodaeth a’r rhinweddau personol i fod yn aelod allweddol o’n Gwasanaeth Canolfannau Lles. Os ydych yn chwilio am y cyfle i fod yn rhan o ddatblygu Hybiau Lles, yna gallai hon fod yn rôl i chi!

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Sylwch, ar ôl ei gyflwyno, y bydd pob cais yn destun gwiriadau cymhwysedd. Cwblheir hyn gan ddefnyddio’r wybodaeth a ddarparwyd gennych ar eich ffurflen gais. Sicrhewch eich bod yn llenwi’ch ffurflen gais yn llawn ac yn darllen y disgrifiad swydd a manyleb y person yn drylwyr, yn ogystal â’r Cwestiynau Cyffredin ar ein tudalen gyrfaoedd cynnar ar y we i wirio’r gofynion cymhwysedd.

Am drafodaeth anffurfiol ynglwn â’r rôl cysylltwch â Rhidian Harries e-bost: Rhidian.harries@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Cymorth Cynnar – Llesiant Cymunedol a Dysgu

Rydym yn darparu gwasanaethau cymorth, atal ac ymyrraeth gynnar i ystod o grwpiau ac unigolion ledled y Sir. Ein nod yw adnabod angen a chynnig cefnogaeth cyn i faterion a phryderon gwaethygu a bod angen ymyrraeth fwy ffurfiol. Mae ein swyddogaethau yn cynnwys: