Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Cyfreithiwr – Dadleuol (Gorfodaeth Cynllunio)

Dyddiad Cau: 30/11/2025

Cyfeirnod: REQ106199

37 awr / Parhaol

42,839 - 45,091 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Rydym am recriwtio Cyfreithiwr – Dadleuol i ymuno â’n gwasanaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu.

Ynglŷn â’r rôl

Cynorthwyo Gwasanaethau Cyfreithiol y Cyngor i ddarparu Gwasanaeth Cyfreithiol cynhwysfawr ac effeithiol i Brif Swyddogion, Aelodau a meysydd gwasanaeth cleientiaid y Cyngor mewn perthynas â’i swyddogaethau ac i ymgymryd â gwaith sy’n canolbwyntio ar Orfodaeth Cynllunio ac Ymholiadau Cynllunio.

Ynglŷn â’r ymgeisydd

Cyfreithiwr cymwysedig neu Weithredwr Cyfreithiol gyda thystysgrif gyfredol cyfreithiwr neu gyfwerth.

Profiad ymarferol mewn materion dadleuol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Ymholiadau Cynllunio
  • Gorfodaeth Cynllunio
  • Apeliadau/Gwrandawiadau Cynllunio

Oherwydd gofynion y rôl, rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â lefel o ruglder yn y Gymraeg adeg ei benodi. Gweler manyleb y person am fanylion pellach.

Ein cynnig i chi

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn rhoi cymorth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus, ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig amrywiaeth o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans cystadleuol o ran gwyliau blynyddol, buddion teuluol gwell, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles gweithwyr.

Credwn fod cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn bwysig iawn. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:

  • Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, cewch ddewis gweithio gartref neu mewn lleoliad swyddfa.
  • Amser hyblyg: gellir gweithio oriau o fewn ystod ddiffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion y gwasanaeth.

    Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am ein buddion eang i weithwyr ar ein gwefan gyrfaoedd.

    Cyfweliadau

    Cynhelir cyfweliadau ar 21.11.2025. Er mwyn tarfu llai ar ymgeiswyr, cynhelir cyfweliadau o bell.

    Gwybodaeth Ychwanegol

    Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

    Cysylltwch â ni

    Am fwy o wybodaeth a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, cysylltwch â Patricia Armstrong ar 01545 572091 neu e-bostiwch patricia.armstrong@ceredigion.gov.uk

    Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

    Yr hyn a gynigwn

    Cydbwysedd bywyd a gwaith

    Cynllun cynilo ffordd o fyw

    Cynllun pensiwn cyflogwr hael

    Cynllun beicio i'r gwaith

    Dysgu a datblygu

    Lle byddwch yn gweithio

    Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu

    Rydym yn sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu mewn ffordd gyfrifol a thryloyw drwy ddarparu cyngor cyfreithiol corfforaethol a gweithredol, archwilio, sicrwydd gwrthrychol a chymorth ar draws pob maes gwasanaeth sy’n golygu bod lles a rhwymedigaethau cyfreithiol y Cyngor yn cael eu cadarnhau, a darparu sicrwydd ar lywodraethu, risg a rheolaethau mewnol.

    • Gwasanaethau Cyfreithiol
    • Archwilio Mewnol: Gwasanaeth ymgynghori; Sicrwydd annibynnol.
    • Rolau Statudol: Swyddog Monitro.
    • Gwasanaethau crwner
    • Llywodraethu Corfforaethol:Pwyllgor Archwilio; Rheoleiddwyr allanol; Cyfansoddiad; Llywodraethu; Ymddygiad.
    Penmorfa
    Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
    Darllen mwy
    Aberaeron
    Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
    Darllen mwy