Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 13/11/2025
Cyfeirnod: REQ106248
37 awr / Parhaol
35,412 - 40,777 *
Canolfan Rheidol, Aberystwyth
Rydym yn buddsoddi yn ein Gwasanaeth Caffael, gan symud i Wasanaeth Rheolwr Categori Caffael ac rydym yn awyddus i recriwtio Rheolwr Categori Caffael i ymuno â’n tîm i cefnogi caffael gwasanaethau corfforaethol a TGaCh.
Mae’n bosibl y bydd y swydd ar gael fel Rheolwr Categori dan Hyfforddai ar gyfer ymgeiswyr heb gymwysterau CIPS.
O ddydd i ddydd, bydd y Rheolwr Categori Caffael:
Mae’r swydd yn allweddol wrth sicrhau y darperir gwasanaeth caffael effeithiol ac effeithlon i’r Cyngor.
Rydym am recriwtio unigolion gyda:
Rydym yn croesawu ceisiadau gan y di-Gymraeg. Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus sydd angen cymorth i ddysgu/gwella eu sgiliau iaith Gymraeg yn cael cynnig gwersi wedi’u hariannu, yn ystod amser gwaith, i helpu i gyrraedd y safon a ddymunir.
Ein cynnig i chi
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr yma.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Hyfforddai)
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon cysylltwch â Jeanette Jones jeanette.jones2@ceredigion.gov.uk neu George Ryley george.ryley2@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn sicrhau bod y Cyngor yn parhau i fod yn gadarn yn ariannol drwy fonitro arian yn ofalus ac yn gyfrifol, caffael corfforaethol effeithiol, talu’n brydlon ac yn gywir o ran asesiadau ariannol / credydwyr a chasglu dyledion / trethiant lleol yn brydlon.