Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2 x 2 – Cartref Gofal Preswyl Hafan Deg

Dyddiad Cau: 21/11/2025

Cyfeirnod: REQ106264

30 awr / Parhaol

25,583 - 25,989 *

Llanbedr Pont Steffan

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Ydych chi wedi ystyried gweithio ym maes Gofal Preswyl i Oedolion? Rydym am tyfu ein tîm! 

Ydych chi’n mwynhau gofalu am eraill neu a ydych chi’n chwilio am her newydd? Ymunwch â’n tîm gweithgar, cyfeillgar a chefnogol yng Nghartref Gofal Preswyl Hafan Deg i weld y gwahaniaeth gwirioneddol y gallwch ei wneud.

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio 2 x Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2 i ymuno â Chartref Gofal Preswyl Hafan Deg, Lampeter yn barhaol.  Nid yw profiad blaenorol o weithio mewn cartref gofal yn hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei darparu. Cyn belled â bod gennych garedigrwydd, amynedd, parch a gwytnwch – gallwn ddysgu’r gweddill i chi! 

Am y rôl

Nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath yn y rôl amrywiol a gwerth chweil hon. Fel canllaw cyffredinol, gall eich dyletswyddau dyddiol gynnwys:

  • darparu gofal cyflawn i gleientiaid yn unol â’r drefn ddyddiol fel yr amlinellir yn y cynlluniau gofal 
  • darparu cymorth emosiynol a sicrwydd i gleientiaid, yn enwedig pan fydd angen iddynt addasu i newid/a/neu argyfwng teuluol
  • rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn, gan gynnwys cyffuriau rheoledig, yn unol â pholisi a gweithdrefn
  • hebrwng cleientiaid allan o’r sefydliad, e.e. teithiau hamdden
  • cwblhau cofnodion dyddiol
  • cynnal gwasanaeth glanhau, golchi dillad ac ystafell fwyta. 

            Ein cynnig i chi

            Mae cyfraniad ein gweithwyr i iechyd, diogelwch a llesiant preswylwyr ein cartrefi gofal yn amhrisiadwy. Rydym felly am sicrhau bod ein Gweithwyr Gofal a Chymorth yn gweld gweithio i Geredigion yn brofiad gwerth chweil.

            Gyda hynny mewn golwg, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddion gweithwyr, gan gynnwys:

            • hyd at 34 diwrnod o wyliau blynyddol
            • mentrau iechyd a lles gan gynnwys cymorth am ddim o ran ffordd o fyw a chwnsela
            • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
            • tâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth uwch
            • Cerdyn disgownt Vectis ar gyfer arbedion ar frandiau enwau mawr a chyda busnesau lleol cofrestredig
            • cyfleoedd dysgu a datblygu i gefnogi dilyniant gyrfa
            • cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys y cynllun Beicio i’r Gwaith 

                        I gael rhagor o wybodaeth am ein buddion cyflogeion cliciwch yma.

                        Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn gofalgar a thosturiol ymuno â thîm cyfeillgar ac ymroddedig a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. 

                        Cyflwyno cais 

                        Rydym wedi ei gwneud yn haws I chi wneud cais drwy symleiddio ein ffurflen gais.Mae cyflwyno cais nawr yn haws nag erioed.

                        Os bydd angen Cymorth arnoch I gwblhau eich cais,mae croeso I chi gysylltu a 01970 6333949 neu e-bostio adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk 

                        Gwybodaeth ychwanegol 

                        Mae’r rol hon yn cynnwys gweithio ar benwythnosau fel rhan o wythnos waith arferol neu rota. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hawl I’r tal canlynol: 

                        • Dydd Sadwrn – Amser a chwarter 
                        • Dydd Sul – Amser a hanner 

                          Disgrifiad Swydd a Manyleb Person.

                          Cysylltwch â ni 

                          Am ragor o wybodaeth a sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â Chloe Williams-Lawless ar: Chloe.Williams-Lawless@ceredigion.gov.uk

                          Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

                          Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

                          Yr hyn a gynigwn

                          Cydbwysedd bywyd a gwaith

                          Cynllun cynilo ffordd o fyw

                          Cynllun pensiwn cyflogwr hael

                          Cynllun beicio i'r gwaith

                          Dysgu a datblygu

                          Lle byddwch yn gweithio

                          Porth Gofal – Gwasanaethau Ymyrraeth wedi’u Targedu

                          Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol. Ein prif swyddogaethau yw:

                          • Tîm Derbyn a Brysbennu Porth Ceredigion
                          • Gwasanaethau Ymyrraeth wedi’i Thargedu
                          • Gwasanaethau Maethu
                          • Gwasanaethau Preswyl a Gofal Dydd
                          • Gwasanaethau Tai
                          • Storfeydd Cyfarpar Cymunedol Integredig
                          • Tîm Dyletswydd Argyfwng