Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Swyddog Gorfodi Cynllunio x 3

Dyddiad Cau: 09/11/2025

Cyfeirnod: REQ106291

37 awr / Parhaol

39,152 - 40,777 *

Neuadd y Dref, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Rydym yn edrych i recriwtio unigolyn llawn cymhelliant a brwdfrydedd i ymuno â Thîm Gorfodi Cynllunio newydd y Cyngor ar sail barhaol, llawn amser.

Gan ffurfio rhan o’r Gwasanaeth Rheoli Datblygu, sy’n delio â dyletswyddau a gofynion statudol o dan y Deddfau Cynllunio Tref a Sir a deddfwriaeth gysylltiedig arall, byddai’r deiliad swydd yn chwarae rôl allweddol wrth fonitro a rheoleiddio datblygiadau ar draws y sir.

Mae hwn yn gyfnod arbennig o gyffrous i ymuno â’r Gwasanaeth gan ein bod wrthi’n tyfu’r tîm gorfodi cynllunio fel y gallwn ddelio’n well â thorri rheolaeth gynllunio ledled y Sir, felly beth am ymuno â ni fel rhan o’r bennod newydd hon?

Mae’r cyfrifoldebau o ddydd i ddydd yn cynnwys: 

  • Helpu i ddarparu gwasanaeth gorfodi effeithiol, effeithlon, ymatebol ac o ansawdd uchel.  
  • Ymgymryd ag ymchwiliad effeithlon ac effeithiol i dorri rheolaeth gynllunio o fewn y Sir a defnyddio ymyriadau gorfodi priodol yn ôl yr angen

a; 

  • Darparu cefnogaeth i’r Gwasanaeth Rheoli Datblygu ehangach. 

    Efallai y bydd cyfle hefyd i’r deiliad swydd ymdrin ag ymholiadau cyn ymgeisio a cheisiadau cynllunio sy’n deillio o achosion gorfodi, er y byddai’r rhan fwyaf o lwyth achosion deiliad y swydd yn cynnwys ymchwiliadau gorfodi cynllunio.  

    Rydym yn edrych i recriwtio unigolyn: 

    • Gyda gradd neu gyfwerth mewn Cynllunio Gwlad a Thref (neu ddisgyblaeth gysylltiedig) neu gyda chyfuniad cyfatebol o wybodaeth a phrofiad o gynllunio neu orfodi’r gyfraith.
    • Gyda’r gallu i gyfathrebu’n ddiduedd, yn broffesiynol ac yn effeithiol gydag ystod eang o bobl ar wahanol lefelau.
    • Gyda’r gallu i weithio gyda goruchwyliaeth gyfyngedig ac i weithio i ddyddiadau cau tynn.
    • Gyda’r gallu i reoli eu llwyth achosion eu hunain o ymchwiliadau gorfodi yn effeithiol; a
    • Gydag ymrwymiad cryf i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i’r cyhoedd ac ymrwymiad cryf i foddhad cwsmeriaid. 

    Mae’r swydd yn gofyn am rywfaint o ruglder yn yr iaith Gymraeg. Sylwch y bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgiliau Cymraeg angenrheidiol yn cael cefnogaeth lawn i gyrraedd y safon ofynnol o fewn dwy flynedd ar ôl ei benodi. 

    Mae Ceredigion yn cael ei chydnabod fel un o’r lleoedd mwyaf diogel i fyw a gweithio, gyda diwylliant bywiog, ysgolion ardderchog ac arfordiroedd hardd a chefn gwlad godidog. Dysgwch fwy am yr hyn sydd gan Gyngor Sir Ceredigion i’w gynnig yma.

    Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

    Pecyn Gwybodaeth Recriwtio

    Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Catrin Newbold (Rheolwr Gwasanaeth – Rheoli Datblygu) dros y ffôn: (01545) 572131.

    Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

    Yr hyn a gynigwn

    Cydbwysedd bywyd a gwaith

    Cynllun cynilo ffordd o fyw

    Cynllun pensiwn cyflogwr hael

    Cynllun beicio i'r gwaith

    Dysgu a datblygu

    Lle byddwch yn gweithio

    Economi ac Adfywio

    Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflawni un o brif amcanion Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, sef ceisio rhoi hwb i economi’r Sir a Chanolbarth Cymru. Rydym wedi ein trefnu yn dair prif adran: Gwasanaethau Economi, Cynllunio ac Eiddo.  Ein prif swyddogaethau yw:

    • Twf a Menter: Cefnogi twf ac adfywiad economaidd yn lleol ac ar draws y rhanbarth; Tyfu Canolbarth Cymru; yr Ystâd Gorfforaethol a Chyfleoedd Datblygu; Cefnogaeth Prosiect; Cyllid Ewropeaidd a lleol; Canolfan Fwyd Cymru a chefnogi datblygiad Bwyd-Amaeth; Hyrwyddo a datblygu twristiaeth; Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid; Arfordir a Chefn Gwlad
    • Gwasanaethau Cynllunio: Cefnogi twf trwy’r Gwasanaethau Cynllunio a Rheoli Adeiladu; Polisi Cynllunio Defnydd Tir Strategol a Lleol; Rheoli Datblygu; Rheoli Adeiladu; a Chwiliadau Tir.
    • Gwasanaethau Eiddo: Cefnogi rhaglen y Cyngor trwy Reoli Prosiectau; Cynnal a Chadw Eiddo ac Adeiladau; Rheoli Cyfleusterau; Rheoli Carbon; a’r Defnydd Effeithlon o Eiddo’r Cyngor.
    Aberaeron
    Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
    Darllen mwy