Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Uwch Swyddog Gorfodaeth Cynllunio

Dyddiad Cau: 02/02/2026

Cyfeirnod: REQ106370

37 awr / Parhaol

42,839 - 45,091 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Rydym am recriwtio unigolyn brwdfrydig ac uchel ei gymhelliant i ymuno â Thîm Gorfodaeth Cynllunio newydd y Cyngor yn barhaol, llawn amser.

Wrth ffurfio rhan o’r Gwasanaeth Rheoli Datblygu, sy’n delio â dyletswyddau a gofynion statudol o dan y Deddfau Cynllunio Gwlad a Thref a deddfwriaeth gysylltiedig arall, byddai deiliad y swydd yn chwarae rôl allweddol wrth fonitro a rheoleiddio datblygiadau ar draws y sir.

Mae hwn yn gyfnod arbennig o gyffrous i ymuno â’r Gwasanaeth gan ein bod wrthi’n tyfu’r tîm gorfodaeth cynllunio ar hyn o bryd fel y gallwn ddelio’n well ag achosion o dorri rheolaeth gynllunio ledled y Sir, felly beth am ymuno â ni fel rhan o’r bennod newydd hon?

O ddydd i ddydd, byddwch yn:

  • helpu i ddarparu gwasanaeth gorfodi effeithiol, effeithlon, ymatebol ac o ansawdd uchel
  • ymgymryd ag ymchwiliad effeithlon ac effeithiol i achosion o dorri rheolaeth gynllunio yn y Sir (gan arbenigo mewn achosion proffil uchel, heriol a / neu gymhleth) a defnyddio ymyriadau gorfodi priodol yn ôl yr angen a;
  • rhoi arweiniad a chymorth i’r Swyddogion Gorfodaeth Cynllunio, Cynorthwywyr Gorfodaeth Cynllunio a hefyd i’r Gwasanaeth Rheoli Datblygu ehangach, bob dydd

    Efallai y bydd cyfle hefyd i ddeiliad y swydd ymdrin ag ymholiadau cyn ymgeisio a cheisiadau cynllunio sy’n deillio o achosion gorfodi, er y byddai’r rhan fwyaf o lwyth achosion deiliad y swydd yn cynnwys ymchwiliadau gorfodaeth cynllunio.

    Rydym am recriwtio unigolyn:

    • gyda gradd neu gyfwerth mewn Cynllunio Gwlad a Thref (neu ddisgyblaeth gysylltiedig) ac sy’n meddu ar wybodaeth a phrofiad manwl o gynllunio neu orfodi’r gyfraith
    • gyda’r gallu i gynnig arweiniad, cymorth a chyngor arbenigol i aelodau eraill o’r tîm
    • gyda’r gallu i gyfathrebu’n ddiduedd, yn broffesiynol ac yn effeithiol gydag ystod eang o bobl ar wahanol lefelau
    • gyda’r gallu i weithio gyda goruchwyliaeth gyfyngedig ac i weithio yn ôl dyddiadau cau tynn
    • gyda’r gallu i reoli eu llwyth achosion eu hunain o ymchwiliadau gorfodi yn effeithiol; a
    • gydag ymrwymiad cryf i roi gwasanaeth o ansawdd uchel i’r cyhoedd ac ymrwymiad cryf i foddhad cwsmeriaid

    Mae’r swydd yn gofyn am rywfaint o ruglder yn y Gymraeg. Noder y bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgiliau Cymraeg angenrheidiol yn cael ei gefnogi’n llawn i gyrraedd y safon ofynnol o fewn dwy flynedd i’w benodi.

    Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:

    • Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o’ch cartref neu mewn swyddfa.
    • Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.

    Efallai y dewch chi hefyd o hyd i fwy o wybodaeth ddefnyddiol ar ein gwefan gyrfaoedd. Yma fe gewch chi fanylion mewn perthynas â’r hyn y gallwn ei gynnig a pha fath o ffordd o fyw y gallwch ei ddisgwyl. Yn wir, mae Ceredigion yn cael ei chydnabod fel un o’r lleoedd mwyaf diogel i fyw a gweithio, gyda diwylliant bywiog, ysgolion ardderchog ac arfordiroedd hardd a chefn gwlad tonnog.

    Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

    Y Gwasanaeth Cynllunio

    Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Catrin Newbold (Rheolwr Gwasanaeth – Rheoli Datblygu) ar Ffôn: (01545) 572131.

    Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

    Yr hyn a gynigwn

    Cydbwysedd bywyd a gwaith

    Cynllun cynilo ffordd o fyw

    Cynllun pensiwn cyflogwr hael

    Cynllun beicio i'r gwaith

    Dysgu a datblygu

    Lle byddwch yn gweithio

    Economi ac Adfywio

    Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflawni un o brif amcanion Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, sef ceisio rhoi hwb i economi’r Sir a Chanolbarth Cymru. Rydym wedi ein trefnu yn dair prif adran: Gwasanaethau Economi, Cynllunio ac Eiddo.  Ein prif swyddogaethau yw:

    • Twf a Menter: Cefnogi twf ac adfywiad economaidd yn lleol ac ar draws y rhanbarth; Tyfu Canolbarth Cymru; yr Ystâd Gorfforaethol a Chyfleoedd Datblygu; Cefnogaeth Prosiect; Cyllid Ewropeaidd a lleol; Canolfan Fwyd Cymru a chefnogi datblygiad Bwyd-Amaeth; Hyrwyddo a datblygu twristiaeth; Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid; Arfordir a Chefn Gwlad
    • Gwasanaethau Cynllunio: Cefnogi twf trwy’r Gwasanaethau Cynllunio a Rheoli Adeiladu; Polisi Cynllunio Defnydd Tir Strategol a Lleol; Rheoli Datblygu; Rheoli Adeiladu; a Chwiliadau Tir.
    • Gwasanaethau Eiddo: Cefnogi rhaglen y Cyngor trwy Reoli Prosiectau; Cynnal a Chadw Eiddo ac Adeiladau; Rheoli Cyfleusterau; Rheoli Carbon; a’r Defnydd Effeithlon o Eiddo’r Cyngor.
    Penmorfa
    Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
    Darllen mwy
    Aberaeron
    Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
    Darllen mwy