Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Gweithiwr Cymdeithasol – Tim Anableddau

Dyddiad Cau: 01/02/2026

Cyfeirnod: REQ106391

37 awr / Parhaol

35,412 - 40,777 *

Penmorfa, Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Gymhwyso yn dechrau ar radd 9 cyn symud ymlaen i radd 10 ar ôl 2 flynedd yn y swydd. Bydd gweithwyr cymdeithasol profiadol yn dechrau ar radd 10. Gellir cael mynediad i’r ddau ddisgrifiad swydd Gradd 9 cyn symud ymlaen i radd 10 ar ôl 2 flynedd yn y swydd. 

Mae’r swydd hon yn gymwys ar gyfer taliad atodol marchnad o £200 y mis. Nodwch y bydd y taliad ychwanegol hwn yn cael ei adolygu ar 31 Mawrth 2026. 

Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnir oherwydd adleoli i Geredigion. Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a’r ffordd o fyw ragorol y mae’n ei gynnig, cliciwch yma.

Am y Rôl

Fel Gweithiwr Cymdeithasol, byddwch yn:

  • Darparu arbenigedd gwaith cymdeithasol ar draws pob grŵp oedran i unigolion ag anableddau.
  • Arwain ar waith achos cymhleth, gan sicrhau canlyniadau o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
  • Cynnig arweiniad proffesiynol a helpu i ddatblygu arferion gorau.
  • Gweithio ar y cyd â theuluoedd, gofalwyr a phartneriaid amlasiantaethol i hyrwyddo annibyniaeth a lles.

Amdanoch Chi

Rydym yn chwilio am rywun sydd:

  • Yn Weithiwr Cymdeithasol cymwys a chofrestredig.
  • Yn meddu ar wybodaeth am ddeddfwriaeth ac arfer gorau mewn gwasanaethau anabledd.
  • Yn dangos sgiliau cyfathrebu a datrys problemau da.
  • Yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo hawliau unigolion.

Ein Dull

Mae Ceredigion wedi ymrwymo i wreiddio Fframwaith Arferion Arwyddion Diogelwch a Lles. Rydym yn buddsoddi mewn trawsnewid ein prosesau ac mewn hyfforddi ein staff i adnabod ac i reoli risg o niwed yn ddiogel, gan adeiladu gwydnwch pobl i gynyddu diogelwch a lles.

Pan fo’n bosibl, rydym yn chwilio am unigolion sydd â gradd o hyfedredd yn y Gymraeg. Fodd bynnag, bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgiliau iaith angenrheidiol yn cael cefnogaeth lawn i gyrraedd y safon dymunol o fewn 2 flynedd i’w benodiad.

Ein Cynnig i Chi

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn yn darparu:

  • Cefnogaeth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o brif feysydd cyfrifoldeb y rôl hon.
  • Cyfleoedd ar gyfer datblygiad parhaus er mwyn i chi allu symud ymlaen yn eich gyrfa gyda ni.

Yn gyfnewid am eich sgiliau ac ymrwymiad, rydym yn cynnig ystod o fuddion:

  • Trefniadau gweithio hyblyg.
  • Lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol.
  • Cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%.
  • Buddion teulu gwell.
  • Cynilion ar ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles gweithwyr.

Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr yma.

Cydbwysedd Gwaith-Bywyd

Er mwyn eich cefnogi i gyflawni cydbwysedd gwaith-bywyd iach, bydd gennych fynediad at:

  • Gweithio Hybrid: Yn amodol ar rai amodau, gallwch ddewis gweithio gartref neu mewn lleoliad swyddfa.
  • Amser Hyblyg: Gellir gweithio oriau o fewn band eang diffiniedig, Llun i Gwener, yn amodol ar anghenion y gwasanaeth.

Noder: Ni allwn dderbyn ceisiadau dro ar ôl tro gan ymgeiswyr a wnaeth gais am y swydd hon o fewn y 3 mis diwethaf.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Newydd Gymhwyso)

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Cymhwyso)

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am fwy o fanylion cysylltwch a: Claire.james@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Cynnal – Gwasanaethau Arbenigol

Rydym yn darparu ystod o wasanaethau cymorth arbenigol gydol oes i bobl Ceredigion. Ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt er mwyn iddynt allu byw bywydau diogel, iach a gwydn. Ein prif swyddogaethau yw:

Penmorfa
Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli. 
Darllen mwy
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy