{"id":22370,"date":"2022-08-19T16:00:22","date_gmt":"2022-08-19T15:00:22","guid":{"rendered":"http:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/?page_id=22370"},"modified":"2022-08-22T17:42:48","modified_gmt":"2022-08-22T16:42:48","slug":"wellbeing-care-support-services-a-through-age-and-wellbeing-model","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/bywyd-ceredigion\/ynglyn-ar-cyngor\/wellbeing-care-support-services-a-through-age-and-wellbeing-model\/","title":{"rendered":"Model Gydol Oes a Llesiant"},"content":{"rendered":"\n<p>Yng Nghyngor Sir Ceredigion rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn gallu cael cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt.<\/p>\n\n\n\n<p>Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pobl yn gallu cael gafael yn hwylus ar wasanaethau cyffredinol a phenodol i ddatblygu&#8217;r sgiliau a&#8217;r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddilyn bywydau llawn ac i gyflawni eu nod.&nbsp; Rydym yn ceisio grymuso unigolion yn yr <em>hyn sy\u2019n bwysig iddyn nhw<\/em> a gweithio gydag asiantaethau partner i gryfhau annibyniaeth pobl, sicrhau diogelwch a hybu lles.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ein strategaeth Gydol Oes a Llesiant yn disgrifio sut y byddwn yn datblygu gweithlu medrus ac arloesol a fydd yn darparu gwasanaethau gydol oes sy\u2019n canolbwyntio ar gymorth ataliol ac ymyriadau cynnar gyda mynediad hwylus i wybodaeth, cyngor a chymorth. Hefyd, yn asesu angen a gofal yn briodol a darparu cynlluniau cymorth i\u2019r rheiny sydd angen cymorth mwy hirdymor.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l gwrando ar ein trigolion, gwyddom fod darparu cymorth yn gynnar yn atal yr angen am wasanaethau mwy arbenigol ac yn osgoi argyfwng. Mae pobl am gael mynediad i&#8217;r <em>gwasanaeth iawn ar yr adeg iawn<\/em> a chael dewis a rheolaeth lle bo\u2019n bosib, boed ar gyfer eu hunain, y teulu, gofalwyr neu&#8217;r gymuned.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ein model gwasanaeth gydol oes yn cynnwys pedwar maes sy\u2019n ymwneud \u00e2 lles, cymorth a gofal:<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-9d6595d7 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<h4 class=\"has-text-align-center wp-block-heading\">Clic<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\">Gwasanaethau cymorth ar-lein a thros y ff\u00f4n sy&#8217;n cynnig mynediad at wybodaeth a chymorth asesu.<\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<h4 class=\"has-text-align-center wp-block-heading\">Porth Cymorth Cynnar<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\">Ein t\u00eem ar gyfer cymorth cynnar gan gynnig mynediad gydol oes i wasanaethau lles cyffredinol a phenodol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\">Mae Porth Cymorth Cynnar yn darparu cymorth, gwybodaeth, cyngor ac ymyrraeth gynnar a phenodol a hynny drwy ddull gydol oes ac integredig. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\">Nod y Gwasanaeth yw gwella elfennau o les personol, cymdeithasol, addysgol, corfforol, meddyliol ac emosiynol unigolyn a hynny drwy hyrwyddo gwytnwch, gallu ac annibyniaeth yr unigolyn a\u2019r teulu. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\">Mae&#8217;r Gwasanaeth yn darparu cyngor a chymorth hwylus a phenodol. Mae&#8217;r Gwasanaeth hefyd yn gwella&#8217;r ddarpariaeth ar gyfer gweithgarwch corfforol yng Ngheredigion gan gryfhau a chynyddu sgiliau a gwybodaeth unigolion a hynny drwy gyfleoedd i wneud profiad gwaith a gwirfoddoli.<\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-9d6595d7 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<h4 class=\"has-text-align-center wp-block-heading\">Porth Gofal<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\">Ein porth i ofal gan gynnig cyfleusterau asesu gydol oes a chymesur ar y cyd \u00e2 gwasanaethau gofal a chymorth penodol a byr-dymor.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\">Bydd Porth Gofal, drwy d\u00eem integredig Gwasanaethau Brysbennu ac Asesu, yn gweithredu fel porth ar gyfer pob ymholiad gofal a ddaw o Clic, sef Canolfan Gyswllt Gwasanaethau Cwsmeriaid y Cyngor. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\">Os oes pryderon diogelu yn amlwg bydd y rhain yn cael eu neilltuo i Borth Cynnal. Yn ogystal, mae&#8217;r Gwasanaeth hefyd yn rhoi cymorth gydol oes ar ffurf gwasanaethau gofal wedi&#8217;u rheoleiddio, taliadau uniongyrchol, offer gofal cymunedol, maethu, gofal dydd, gofal preswyl a gwasanaethau tai. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\">Mae\u2019r gwasanaeth yn cynnwys y timau canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Gwasanaethau Integredig Brysbennu ac Asesu: T\u00eem Derbyn a Gweithrediadau Integredig; T\u00eem Asesu Integredig; T\u00eem Brysbennu Integredig, gan gynnwys Therapi Galwedigaethol; T\u00eem Dyletswydd Brys<\/li><li>Gwasanaethau wedi&#8217;u Targedu a Thymor Byr: T\u00eem Taliadau Uniongyrchol; T\u00eem Logisteg a Gweithrediadau CILC; T\u00eem Gwasanaeth Gofal a Galluogi wedi&#8217;i Dargedu<\/li><li>Gwasanaethau Uniongyrchol: T\u00eem Gwasanaethau Maethu; T\u00eem Gwasanaethau Gofal Dydd; a Thimau Gofal Preswyl<\/li><li>Gwasanaethau Tai: Y Sector Rhentu Preifat a&#8217;r T\u00eem Tai Fforddiadwy; Opsiynau Tai a&#8217;r T\u00eem Cefnogi&nbsp;&nbsp;<\/li><\/ul>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<h4 class=\"has-text-align-center wp-block-heading\">Porth Cynnal<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\">Ein t\u00eem ar gyfer cymorth mwy hirdymor gan gynnig gwasanaethau gofal dwys ac arbenigol, gydol oes, a gwasanaethau cymorth i unigolion a theuluoedd ag anghenion cymhleth y model.&nbsp; <\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\">Mae Porth Cynnal yn darparu gwasanaethau asesu a gofalu dwys ac arbenigol, gydol oes, i&#8217;r rhai sydd angen gofal a chymorth hirdymor neu gymhleth. Mae\u2019n cynnwys gwiriadau sicrhau ansawdd ac ymyriadau statudol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\">Mae&#8217;r gwasanaeth yn cynnwys y timau canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong>Gofal wedi&#8217;i Gynllunio<\/strong>: Timau Gofal a Chymorth i Oedolion a Phlant a Th\u00eem Ymyriadau Statudol<\/li><li><strong>Cymorth Estynedig<\/strong>: T\u00eem Anabledd Oedolion a Phlant a Th\u00eem Cymorth Arbenigol Galluedd Meddyliol<\/li><li><strong>Camddefnyddio Sylweddau:<\/strong> T\u00eem Camddefnyddio Sylweddau, T\u00eem Statudol Cyfiawnder Ieuenctid a Th\u00eem y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd\/Ar Ffiniau Gofal<\/li><li><strong>Lles Meddyliol<\/strong>: T\u00eem Iechyd Meddwl a Gweithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy, T\u00eem Cwnsela Ysgolion &nbsp;<\/li><li><strong>Diogelu a Gwella Ansawdd<\/strong>: &nbsp;T\u00eem Diogelu Oedolion a Phlant, T\u00eem Adolygu Annibynnol a Sicrhau Ansawdd<\/li><\/ul>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<p>Mae dull Arwyddion Diogelwch yn sail i\u2019r holl waith o ddarparu gwasanaethau ledled y model.&nbsp; Mae&#8217;n rhoi pwyslais ar feithrin cryfderau unigolion, teuluoedd a chymunedau, ac eglurder wrth nodi risgiau a niwed, gan asesu\u2019r hyn sy&#8217;n bwysig i&#8217;r unigolyn er mwyn nodi amcanion clir o ran diogelu a lles.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yng Nghyngor Sir Ceredigion rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn gallu cael cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt. Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pobl yn gallu cael gafael yn hwylus ar wasanaethau cyffredinol a phenodol i ddatblygu&#8217;r sgiliau a&#8217;r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddilyn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":22385,"parent":4601,"menu_order":3,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-templates\/template-early-careers.php","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-22370","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/22370","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=22370"}],"version-history":[{"count":18,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/22370\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":22881,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/22370\/revisions\/22881"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4601"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/22385"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=22370"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=22370"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=22370"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}