{"id":22457,"date":"2022-08-22T10:25:12","date_gmt":"2022-08-22T09:25:12","guid":{"rendered":"http:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/?page_id=22457"},"modified":"2022-08-22T11:27:10","modified_gmt":"2022-08-22T10:27:10","slug":"tim-lles-meddyliol","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/bywyd-ceredigion\/ynglyn-ar-cyngor\/wellbeing-care-support-services-a-through-age-and-wellbeing-model\/tim-lles-meddyliol\/","title":{"rendered":"T\u00eem Lles Meddyliol"},"content":{"rendered":"\n<p>Yng Nghyngor Sir Ceredigion rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn gallu cael cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt.<\/p>\n\n\n\n<p>Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pobl yn gallu cael gafael yn hwylus ar wasanaethau cyffredinol a phenodol i ddatblygu&#8217;r sgiliau a&#8217;r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddilyn bywydau llawn ac i gyflawni eu nod.\u00a0 Rydym yn ceisio grymuso unigolion yn yr <em>hyn sy\u2019n bwysig iddyn nhw<\/em> a gweithio gydag asiantaethau partner i gryfhau annibyniaeth pobl, sicrhau diogelwch a hybu lles.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ein strategaeth Gydol Oes a Llesiant yn disgrifio sut y byddwn yn datblygu gweithlu medrus ac arloesol a fydd yn darparu gwasanaethau gydol oes sy\u2019n canolbwyntio ar gymorth ataliol ac ymyriadau cynnar gyda mynediad hwylus i wybodaeth, cyngor a chymorth. Hefyd, yn asesu angen a gofal yn briodol a darparu cynlluniau cymorth i\u2019r rheiny sydd angen cymorth mwy hirdymor.<\/p>\n\n\n\n<p>Dysgwch fwy am ein Model Gydol Oes a Llesiant a sut mae&#8217;r timau wedi&#8217;u strwythuro ynddo <a href=\"http:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/bywyd-ceredigion\/ynglyn-ar-cyngor\/wellbeing-care-support-services-a-through-age-and-wellbeing-model\/\" data-type=\"page\" data-id=\"22370\">yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"has-text-align-center wp-block-heading\"><strong>Braslun o\u2019r T\u00eem Lles Meddyliol<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r T\u00eem Lles Meddyliol yn cydweithio&#8217;n agos gyda gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd ac asiantaethau partner eraill o ran anghenion oedolion a phlant am gymorth yn unol a\u2019n dyletswyddau o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a\u2019r Ddeddf Iechyd Meddwl.<\/p>\n\n\n\n<p>Rolau o dan y Rheolwr T\u00eem:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Uwch Ymarferydd<\/li><li>Gweithiwr Cymdeithasol<\/li><li>Gweithiwr Cymorth<\/li><li>Ymarferydd Lles Emosiynol<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r <strong>Uwch Ymarferydd<\/strong> gwaith cymdeithasol yn weithiwr iechyd meddwl proffesiynol profiadol gyda chymhwyster Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy (AMHP). Mae&#8217;n gweithio gyda llwyth achosion bach ond cymhleth ac \u00e2 dyletswyddau goruchwyliwr gwaith cymdeithasol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Gweithwyr Cymdeithasol yn meddu ar gymhwyster AMHP neu maen nhw\u2019n gweithio tuag ato. Mae&#8217;n ofynnol eu bod yn helpu i gyflawni dyletswyddau AMHP a&#8217;r ystod gyfan o swyddogaethau gwaith cymdeithasol statudol a geir yn Neddf Iechyd Meddwl 1983 (fel y&#8217;i diwygiwyd yn 2007). Mae angen deall Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn dda a gallu cynnal asesiadau capasiti a chyfarfodydd lles pennaf.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae <strong>Gweithwyr Cymorth<\/strong> yn meddu ar ddealltwriaeth dda o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 a&#8217;i pherthynas \u00e2&#8217;r Ddeddf Iechyd Meddwl, gan gweithio ar draws y t\u00eem i sicrhau&#8217;r canlyniadau gorau i\u2019r cleientiaid.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r <strong>Ymarferydd Lles Emosiynol<\/strong> hefyd yn gweithio&#8217;n agos gydag unigolion bregus a chyda theuluoedd, gofalwyr a rhwydweithiau, gan ddeall y ddeddfwriaeth uchod.&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yng Nghyngor Sir Ceredigion rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn gallu cael cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt. Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pobl yn gallu cael gafael yn hwylus ar wasanaethau cyffredinol a phenodol i ddatblygu&#8217;r sgiliau a&#8217;r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddilyn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":22451,"parent":22370,"menu_order":12,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-templates\/template-featured-career.php","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-22457","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/22457","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=22457"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/22457\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":22488,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/22457\/revisions\/22488"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/22370"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/22451"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=22457"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=22457"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=22457"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}