{"id":22498,"date":"2022-08-22T11:45:35","date_gmt":"2022-08-22T10:45:35","guid":{"rendered":"http:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/?page_id=22498"},"modified":"2022-08-22T11:46:02","modified_gmt":"2022-08-22T10:46:02","slug":"gofal-wedii-gynllunio-plant-ac-oedolion","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/bywyd-ceredigion\/ynglyn-ar-cyngor\/wellbeing-care-support-services-a-through-age-and-wellbeing-model\/gofal-wedii-gynllunio-plant-ac-oedolion\/","title":{"rendered":"Gofal wedi\u2019i Gynllunio \u2013 Plant ac Oedolion"},"content":{"rendered":"\n<p>Yng Nghyngor Sir Ceredigion rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn gallu cael cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt.<\/p>\n\n\n\n<p>Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pobl yn gallu cael gafael yn hwylus ar wasanaethau cyffredinol a phenodol i ddatblygu\u2019r sgiliau a\u2019r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddilyn bywydau llawn ac i gyflawni eu nod.&nbsp; Rydym yn ceisio grymuso unigolion yn yr&nbsp;<em>hyn sy\u2019n bwysig iddyn nhw<\/em>&nbsp;a gweithio gydag asiantaethau partner i gryfhau annibyniaeth pobl, sicrhau diogelwch a hybu lles.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ein strategaeth Gydol Oes a Llesiant yn disgrifio sut y byddwn yn datblygu gweithlu medrus ac arloesol a fydd yn darparu gwasanaethau gydol oes sy\u2019n canolbwyntio ar gymorth ataliol ac ymyriadau cynnar gyda mynediad hwylus i wybodaeth, cyngor a chymorth. Hefyd, yn asesu angen a gofal yn briodol a darparu cynlluniau cymorth i\u2019r rheiny sydd angen cymorth mwy hirdymor.<\/p>\n\n\n\n<p>Dysgwch fwy am ein Model Gydol Oes a Llesiant a sut mae\u2019r timau wedi\u2019u strwythuro ynddo&nbsp;<a href=\"http:\/\/careers.ceredigion.gov.uk\/cy\/bywyd-ceredigion\/ynglyn-ar-cyngor\/wellbeing-care-support-services-a-through-age-and-wellbeing-model\/\">yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"has-text-align-center wp-block-heading\">Braslun o\u2019r T\u00eem Gofal wedi\u2019i Gynllunio \u2013 Plant ac Oedolion<\/h4>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-left has-medium-font-size\"><strong><strong>T\u00eem Plant<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae T\u00eem Plant y Gwasanaeth Gofal wedi\u2019i Gynllunio yn cydweithio&#8217;n agos gydag asiantaethau sy\u2019n bartneriaid i gefnogi plant a phobl ifanc sydd \u00e2 chynlluniau gofal, cymorth a diogelu. Mae hyn yn cynnwys plant sydd angen gofal a chymorth, amddiffyn plant, plant sy&#8217;n derbyn gofal\/gyda phrofiad o ofal, rhai sy&#8217;n gadael gofal a&#8217;r rhai sydd \u00e2 chynlluniau sefydlog i aros gydag aelodau o&#8217;r teulu neu i gael eu mabwysiadu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r gwasanaeth hwn yn cynnwys<a> <\/a>Rheolwr T\u00eem:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Uwch Ymarferwyr<\/li><li>Gweithwyr Cymdeithasol<\/li><li>Gweithwyr Cymdeithasol Mabwysiadu<\/li><li>Ymgynghorwyr Personol<\/li><li>Gweithiwr NEET<\/li><li>Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol<\/li><li>Gweithiwr Addysg<\/li><li>Uwch-weithiwr Cyswllt<\/li><li>Cydlynydd Gweithgareddau<\/li><li>Gweithiwr Cymorth Cyswllt Teuluoedd<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r <strong>Uwch Ymarferydd<\/strong> gwaith cymdeithasol yn weithiwr cymdeithasol profiadol sy&#8217;n gweithio gyda llwyth achosion bach ond cymhleth ac \u00e2 dyletswyddau goruchwyliwr gwaith cymdeithasol.<\/p>\n\n\n\n<p>Disgwylir i <strong>Weithwyr Cymdeithasol<\/strong> ymgymryd \u00e2\u2019r dyletswyddau statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a deddfau allweddol eraill i sicrhau canlyniadau da i blant a theuluoedd. Mae hyn yn cynnwys gwaith llys pan fo angen.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd <strong>Gweithwyr Cymdeithasol Mabwysiadu<\/strong> yn Weithwyr Cymdeithasol arbenigol sy&#8217;n ymgymryd \u00e2\u2019r dyletswyddau statudol o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fel rhan o Wasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol.<\/p>\n\n\n\n<p>R\u00f4l yr <strong>Ymgynghorydd Personol <\/strong>yw rhoi cymorth i&#8217;r rhai cymwys sy&#8217;n gadael gofal a chyflawni dyletswyddau parthed Rheoliadau Ymadawyr Gofal (Cymru) 2015<\/p>\n\n\n\n<p>R\u00f4l y <strong>Gweithiwr NEET<\/strong> yw rhoi cymorth i blant sy&#8217;n derbyn gofal a&#8217;r rhai sy&#8217;n gadael gofal ac sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, er mwyn cael mynediad i gyfleoedd cadarnhaol<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd <strong>Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol<\/strong> yn cyflawni swyddogaethau cymorth ar y cyd \u00e2 Gweithwyr Cymdeithasol y t\u00eem a byddant yn gallu mynd am gyfleoedd i gael cymhwyster gwaith cymdeithasol os dymunant.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y <strong>Gweithiwr Addysg<\/strong> yn gweithio&#8217;n agos gydag ysgolion i gefnogi anghenion addysgol a chynlluniau statudol y plant sy&#8217;n derbyn gofal.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y <strong>Cydlynydd Gweithgareddau<\/strong> yn helpu gyda gweithgareddau wedi&#8217;u targedu ar gyfer plant sy&#8217;n derbyn gofal ac eraill, i gefnogi eu lles a sefydlogrwydd eu lleoliadau.<\/p>\n\n\n\n<p>R\u00f4l yr <strong>Uwch-weithiwr Cyswllt Teulu<\/strong> yw cydlynu a darparu trefniadau cyswllt &#8211; dan oruchwyliaeth neu \u00e2 chymorth &#8211; ar gyfer plant mewn gofal.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd <strong>Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd<\/strong> yn cynnal sesiynau cyswllt \u00e2 theuluoedd &#8211; dan oruchwyliaeth neu \u00e2 chymorth &#8211; ac yn cyflawni rolau cymorth uniongyrchol eraill gyda phlant a phobl ifanc a theuluoedd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-medium-font-size\"><strong><strong>T\u00eem Oedolion<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Prif r\u00f4l T\u00eem Oedolion y Gwasanaeth Gofal wedi\u2019i Gynllunio yw gweithio gydag oedolion h\u0177n a\u2019u gofalwyr, gan eu cefnogi nhw i gyflawni eu canlyniadau llesiant yn unol \u00e2\u2019r dyletswyddau statudol o dan Ran 3 a 4, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r r\u00f4l yn cynnwys cyflawni asesiadau cynhwysfawr o angen, gwneud asesiadau gofalwyr, rheoli gofal, adolygu cynlluniau gofal a darparu gwasanaethau i\u2019r rheiny y mae asesiad yn nodi bod angen cynllun gofal a chymorth arnynt. Hefyd, bydd y staff yn cynorthwyo unigolion i ddatrys anawsterau mawr, gwella eu sgiliau ar gyfer ymdopi a chryfhau eu gwytnwch a\u2019u hannibyniaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd gofyn i\u2019r staff weithio yn unol \u00e2\u2019r ddeddfwriaeth a\u2019r canllawiau statudol cyfredol, yn ogystal \u00e2 pholis\u00efau, gweithdrefnau ac arferion y sir, i asesu, comisiynu ac adolygu gwasanaethau cymorth ac ymyriadau sydd wedi\u2019u cynllunio ar gyfer y rheiny sydd mewn perygl neu sy\u2019n agored i niwed.<\/p>\n\n\n\n<p>Hefyd, mae\u2019n ofynnol i\u2019r staff gydweithio \u00e2\u2019u cymheiriaid yn y sector statudol a\u2019r sector annibynnol i sicrhau ansawdd y gwasanaethau a dull amlasiantaethol o rymuso defnyddwyr gwasanaeth i siarad drostynt eu hunain gan sicrhau ar yr un pryd eu bod yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd staff sydd \u00e2 chymwysterau addas yn cydymffurfio \u00e2\u2019r gofynion statudol a chyfreithiol gan ddilyn y fframweithiau a nodir ym mholis\u00efau a gweithdrefnau\u2019r asiantaeth ynghyd \u00e2\u2019r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a\u2019r Ddeddf Galluedd Meddyliol. Fel rhan o\u2019r r\u00f4l, bydd gofyn i chi wneud penderfyniadau er lles pennaf unigolion a chefnogi oedolion nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i ymdrin \u00e2 phob agwedd ar eu heiddo personol a\u2019u materion ariannol yn unol \u00e2 rheoliadau\u2019r Ddeddf Galluedd Meddyliol. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r gwasanaeth hwn yn cynnwys Rheolwr T\u00eem:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Uwch Ymarferwyr<\/li><li>Gweithwyr Cymdeithasol<\/li><li>Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r <strong>Uwch Ymarferydd<\/strong> gwaith cymdeithasol yn weithiwr cymdeithasol profiadol sy&#8217;n gweithio gyda llwyth achosion bach ond cymhleth ac \u00e2 dyletswyddau goruchwyliwr gwaith cymdeithasol.<\/p>\n\n\n\n<p>Disgwylir i <strong>Weithwyr Cymdeithasol<\/strong> ymgymryd \u00e2\u2019r dyletswyddau statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a deddfau allweddol eraill i sicrhau canlyniadau da i blant a theuluoedd. Mae hyn yn cynnwys gwaith llys pan fo angen.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd <strong>Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol<\/strong> yn cyflawni swyddogaethau cymorth ar y cyd \u00e2 Gweithwyr Cymdeithasol y t\u00eem a byddant yn gallu mynd am gyfleoedd i gael cymhwyster gwaith cymdeithasol os dymunant.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yng Nghyngor Sir Ceredigion rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn gallu cael cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt. Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pobl yn gallu cael gafael yn hwylus ar wasanaethau cyffredinol a phenodol i ddatblygu\u2019r sgiliau a\u2019r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddilyn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":22495,"parent":22370,"menu_order":8,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-templates\/template-featured-career.php","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-22498","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/22498","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=22498"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/22498\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":22500,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/22498\/revisions\/22500"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/22370"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/22495"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=22498"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=22498"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=22498"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}