{"id":22670,"date":"2022-08-22T14:03:08","date_gmt":"2022-08-22T13:03:08","guid":{"rendered":"http:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/?page_id=22670"},"modified":"2022-08-24T12:41:04","modified_gmt":"2022-08-24T11:41:04","slug":"tim-cymorth-ac-atal","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/bywyd-ceredigion\/ynglyn-ar-cyngor\/wellbeing-care-support-services-a-through-age-and-wellbeing-model\/tim-cymorth-ac-atal\/","title":{"rendered":"T\u00eem Cymorth ac Atal"},"content":{"rendered":"\n<p>Yng Nghyngor Sir Ceredigion rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn gallu cael cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt.<\/p>\n\n\n\n<p>Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pobl yn gallu cael gafael yn hwylus ar wasanaethau cyffredinol a phenodol i ddatblygu\u2019r sgiliau a\u2019r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddilyn bywydau llawn ac i gyflawni eu nod.&nbsp; Rydym yn ceisio grymuso unigolion yn yr&nbsp;<em>hyn sy\u2019n bwysig iddyn nhw<\/em>&nbsp;a gweithio gydag asiantaethau partner i gryfhau annibyniaeth pobl, sicrhau diogelwch a hybu lles.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ein strategaeth Gydol Oes a Llesiant yn disgrifio sut y byddwn yn datblygu gweithlu medrus ac arloesol a fydd yn darparu gwasanaethau gydol oes sy\u2019n canolbwyntio ar gymorth ataliol ac ymyriadau cynnar gyda mynediad hwylus i wybodaeth, cyngor a chymorth. Hefyd, yn asesu angen a gofal yn briodol a darparu cynlluniau cymorth i\u2019r rheiny sydd angen cymorth mwy hirdymor.<\/p>\n\n\n\n<p>Dysgwch fwy am ein Model Gydol Oes a Llesiant a sut mae\u2019r timau wedi\u2019u strwythuro ynddo&nbsp;<a href=\"http:\/\/careers.ceredigion.gov.uk\/cy\/bywyd-ceredigion\/ynglyn-ar-cyngor\/wellbeing-care-support-services-a-through-age-and-wellbeing-model\/\">yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Braslun o\u2019r T\u00eem Cymorth ac Atal <\/h4>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r Gwasanaeth Cymorth ac Atal yn cynnwys timau aml-ddisgyblaeth, gyda&#8217;r nod cyffredinol o alluogi plant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau ehangach i gael eu grymuso, i gyflawni, i ddatblygu&#8217;n bersonol, yn emosiynol, yn gymdeithasol a bod y gorau y gallant fod. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau&#8217;r Plentyn (CCUHP) ac Arwyddion Diogelwch yn sail i bopeth a wnawn. Mae ein timau&#8217;n darparu cefnogaeth gyffredinol a phenodol sy&#8217;n cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong>Gwaith Ieuenctid ac Ymgysylltu<\/strong>; Gwaith ieuenctid mewn ysgolion, cynnydd addysgol, dysgu achrededig a chyfranogi<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae Gweithwyr Ieuenctid sydd wedi\u2019u lleoli mewn ysgolion yn ymgysylltu \u00e2 phobl ifanc 11 \u2013 18 oed mewn cyd-destunau cyffredinol a phenodol. Mae Gweithwyr Ieuenctid yn ceisio adeiladu a chynnal perthynas ystyrlon \u00e2 phob disgybl ysgol gan gynnwys disgyblion a gyfeiriwyd ac a ystyrir mewn perygl o ymbellh\u00e1u o addysg brif ffrwd o achos un neu lu o resymau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Gweithwyr Ieuenctid yn creu perthynas yn seiliedig ar ymwneud gwirfoddol. Drwy gymryd rhan gydag unigolion, gall Gweithwyr Ieuenctid ddylunio cynllun wedi&#8217;i deilwra sy&#8217;n cynnig cymorth ar sail anghenion personol, cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol yr unigolyn. Gellir darparu hyn o fewn a thu allan i amgylchedd yr ysgol, a gall fod yn benodol neu\u2019n gyffredinol.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong>Cymorth a Chyrhaeddiad<\/strong>;Mentora cynradd\/ uwchradd, pontio, lles emosiynol, meithrin a gwaith allgymorth<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae Mentoriaid Sgiliau Plant a Phobl Ifanc yn cefnogi plant a phobl ifanc sy\u2019n gallu ymddwyn yn heriol o ganlyniad i&#8217;w profiadau cymdeithasol ac emosiynol. Mae mentoriaid yn rhoi cymorth i blant a phobl ifanc mewn Ysgolion Cynradd ac Uwchradd, a lleoliadau addysgol eraill.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae mentoriaid yn hyrwyddo dull cyfannol sy\u2019n seiliedig ar gryfderau a hynny er mwyn deall yn well y rhesymau pam mae plant yn canfod eu hamgylchedd presennol yn heriol. Gwneir hyn ar ffurf un-i-un ac mewn grwpiau bach. Mae hyn er mwyn helpu i reoli eu hemosiynau gan sianelu eu hegni&#8217;n gadarnhaol i ganolbwyntio ar lwyddo, yn addysgol ac yn bersonol.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong>Gwaith Ieuenctid Cymunedol ac Atal<\/strong>; cymorth oed 16-24, gwaith allgymorth cymunedol, canolfannau ieuenctid, darpariaeth benodol a chyffredinol.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae ein t\u00eem Gwaith ac Atal Ieuenctid Cymunedol yn darparu ymyriadau wedi&#8217;u targedu a chyffredinol gyda&#8217;r nod o daclo a lleihau ffactorau risg posib neu faterion sylfaenol megis materion teuluol, cymdeithasol, personol, addysgol, neu iechyd meddwl ac emosiynol, Mae\u2019r rhain yn gallu digwydd a rhoi\u2019r bobl mewn mwy o beryg o droseddu ac aildroseddu. Hefyd, eu hatal rhag gorfod cael ymyrraeth statudol bellach megis gwasanaethau iechyd meddwl proffesiynol, ymyrraeth feddygol a hyd yn oed cymorth tai, er enghraifft.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r darpariaethau&#8217;n amrywio o weithgareddau allgymorth, symudol ac ar wah\u00e2n, canolfannau ieuenctid a chlybiau, a rhaglenni a phrosiectau ar y cyd, wedi&#8217;u targedu.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong>Llwybrau Cymorth<\/strong>; Ymyriadau gydol oed, dyraniadau, sgrinio, sicrhau ansawdd, dadansoddi data a pherfformiad, cymorth adnoddau<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Y t\u00eem Llwybrau Cymorth yw&#8217;r porth i bawb sy&#8217;n cael eu cyfeirio at Borth Cymorth Cynnar a&#8217;i wasanaethau p\u2019un \u00e2 ydynt yn dod o Clic neu yn cael eu brysbennu gan Borth Gofal. Mae&#8217;r t\u00eem yn darparu cymorth uniongyrchol i bob gwasanaeth ym Mhorth Cymorth Cynnar i nodi, dyrannu, monitro a gwerthuso ymyriadau neu gymorth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r t\u00eem yn cefnogi&#8217;r protocolau \u2018camu i fyny a chamu i lawr\u2019 drwy weithio gyda Phorth Cynnal a Phorth Gofal er mwyn sicrhau cymorth amserol ac effeithiol i blant\/pobl ifanc, oedolion ac i deuluoedd\/gofalwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r t\u00eem hefyd yn helpu i oruchwylio data a phrosesau sicrhau ansawdd gwasanaethau Porth Cymorth Cynnar, gan sicrhau ein bod yn gallu diwallu anghenion dinasyddion mor effeithlon ac effeithiol \u00e2 phosib.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gofynion:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gradd 7 &gt; 10<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Addysg i lefel gradd mewn pwnc perthnasol e.e. Gwaith Ieuenctid a Chymunedol, Blynyddoedd Cynnar, Addysg, Hamdden neu 5 mlynedd (cyfwerth) o brofiad, o leiaf, o weithio gyda phlant, pobl ifanc a&#8217;u teuluoedd.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Gradd 6<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>5 TGAU Gradd C neu uwch gan gynnwys cymwysterau Mathemateg a Chymraeg neu Saesneg, neu gymhwyster cyfatebol.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Aelodaeth o gorff proffesiynol priodol e.e. Cyngor y Gweithlu Addysg.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd gofyn i chi ymgymryd \u00e2&#8217;r cyrsiau e-ddysgu gorfodol canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Diogelu Plant ac Oedolion sy\u2019n wynebu risg \u2013 Lefel 1<\/li><li>Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)<\/li><li>Chwythu&#8217;r Chwiban<\/li><li>Deddf Llesiant Cenedlaethau&#8217;r Dyfodol<\/li><li>Cydraddoldeb ac Amrywiaeth<\/li><li>Diogelu Data<\/li><li>Ymwybyddiaeth o&#8217;r Gymraeg<\/li><li>Iechyd a Diogelwch<\/li><li>Diogelwch Gwybodaeth<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Hefyd mae\u2019n bosib y bydd gofyn i chi ymgymryd \u00e2 chyrsiau hyfforddiant eraill sy&#8217;n berthnasol i&#8217;r r\u00f4l hon megis:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Modiwl Diogelu<\/li><li>Rheoli sefyllfaoedd heriol<\/li><li>Team Teach a \/ neu Reoli Ymddygiad Positif<\/li><li>Hyfforddiant atodiad<\/li><li>Gwaith Uniongyrchol mewn grwpiau neu 1-1<\/li><li>Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 &#8211; Ymwybyddiaeth gyffredinol<\/li><li>Arwyddion Diogelwch a Lles<\/li><li>Cymorth Cyntaf<\/li><li>Cymhwyster asesu rhianta<\/li><li>Dadansoddi a myfyrio wrth asesu<\/li><li>Hyfforddiant MIDAS<\/li><\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yng Nghyngor Sir Ceredigion rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn gallu cael cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt. Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pobl yn gallu cael gafael yn hwylus ar wasanaethau cyffredinol a phenodol i ddatblygu\u2019r sgiliau a\u2019r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddilyn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":22667,"parent":22370,"menu_order":1,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-templates\/template-featured-career.php","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-22670","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/22670","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=22670"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/22670\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":22672,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/22670\/revisions\/22672"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/22370"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/22667"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=22670"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=22670"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=22670"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}