{"id":22673,"date":"2022-08-22T14:16:15","date_gmt":"2022-08-22T13:16:15","guid":{"rendered":"http:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/?page_id=22673"},"modified":"2022-08-24T12:41:19","modified_gmt":"2022-08-24T11:41:19","slug":"ceredigion-pupil-referral-unit","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/bywyd-ceredigion\/ynglyn-ar-cyngor\/wellbeing-care-support-services-a-through-age-and-wellbeing-model\/ceredigion-pupil-referral-unit\/","title":{"rendered":"Uned Cyfeirio Disgyblion Ceredigion"},"content":{"rendered":"\n<p>Yng Nghyngor Sir Ceredigion rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn gallu cael cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt.<\/p>\n\n\n\n<p>Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pobl yn gallu cael gafael yn hwylus ar wasanaethau cyffredinol a phenodol i ddatblygu\u2019r sgiliau a\u2019r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddilyn bywydau llawn ac i gyflawni eu nod.&nbsp; Rydym yn ceisio grymuso unigolion yn yr&nbsp;<em>hyn sy\u2019n bwysig iddyn nhw<\/em>&nbsp;a gweithio gydag asiantaethau partner i gryfhau annibyniaeth pobl, sicrhau diogelwch a hybu lles.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ein strategaeth Gydol Oes a Llesiant yn disgrifio sut y byddwn yn datblygu gweithlu medrus ac arloesol a fydd yn darparu gwasanaethau gydol oes sy\u2019n canolbwyntio ar gymorth ataliol ac ymyriadau cynnar gyda mynediad hwylus i wybodaeth, cyngor a chymorth. Hefyd, yn asesu angen a gofal yn briodol a darparu cynlluniau cymorth i\u2019r rheiny sydd angen cymorth mwy hirdymor.<\/p>\n\n\n\n<p>Dysgwch fwy am ein Model Gydol Oes a Llesiant a sut mae\u2019r timau wedi\u2019u strwythuro ynddo&nbsp;<a href=\"http:\/\/careers.ceredigion.gov.uk\/cy\/bywyd-ceredigion\/ynglyn-ar-cyngor\/wellbeing-care-support-services-a-through-age-and-wellbeing-model\/\">yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"has-text-align-center wp-block-heading\">Braslun o\u2019r T\u00eem Uned Cyfeirio Disgyblion Ceredigion<\/h4>\n\n\n\n<p>Rydym yn browd o\u2019n hysgol, ei phobl ifanc a\u2019r hyn maen nhw\u2019n ei gyflawni. Yr hyn na fyddwch yn gallu ei brofi ar ein gwefan yw&#8217;r ethos cynhwysol a chadarnhaol a safon uchel y dysgu sy\u2019n rhywbeth y mae llawer o&#8217;n hymwelwyr yn sylwi arno. Mae ein staff medrus ac ymroddgar yn cynnig dull personol i ddiwallu anghenion pob disgybl unigol gan eu hannog i ddod yn ddysgwyr gydol oes a fydd yn gallu cyfrannu&#8217;n gadarnhaol i&#8217;w cymunedau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Uned Cyfeirio Disgyblion Ceredigion yn ymfalch\u00efo mewn datblygu a chynnal partneriaethau rhagorol gydag amrywiaeth o asiantaethau ac aelodau\u2019r gymuned ehangach. Mae hyn yn cyfoethogi\u2019r cwriwcwlwm a\u2019r cymorth personol y mae ein disgyblion yn ei dderbyn. Mae\u2019r rhain yn cynnwys partneriaethau gyda Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol, T\u00eem Teulu, Cyfiawnder Ieuenctid, Cwnselwyr, CHOICES, Swyddogion Addysg yr Heddlu, Gwasanaeth Seicoleg Addysgol, Gwasanaeth Cynghori ADY, Darparwyr y Cwricwlwm Amgen, HCT, Gyrfa Cymru a chyflogwyr lleol, Ysgolion Prif Ffrwd a grwpiau cymunedol lleol. Rydym hefyd yn ymfalch\u00efo yn y berthynas gadarnhaol a ddatblygwn gyda&#8217;n rhieni a&#8217;n teuluoedd sy&#8217;n sicrhau ein bod yn gwella iechyd a lles ein disgyblion.<\/p>\n\n\n\n<p>Ein hamcanion craidd:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\" type=\"1\"><li>Cefnogi iechyd corfforol a meddyliol, lles a hapusrwydd ein disgyblion drwy ddarparu amgylchedd cefnogol a chymorth arbenigol i unigolion.<\/li><li>Darparu cwricwlwm deniadol, ysgogol, cynhwysol a phersonol ar gyfer pob disgybl yn ein gofal, a fydd yn sicrhau cynnydd parhaus ym mhob agwedd ar ddysgu.<\/li><li>Datblygu sgiliau allweddol ein disgyblion mewn Llythrennedd, Rhifedd a sgiliau Digidol.<\/li><li>Defnyddio ystod o strategaethau a fydd yn galluogi ein disgyblion i ail-integreiddio mewn lleoliad prif ffrwd, a fydd yn eu hysgogi ymhellach i ddysgu a chyflawni.<\/li><li>Cefnogi datblygiad cymdeithasol, emosiynol, ymddygiadol, moesol, ysbrydol a diwylliannol pob disgybl a fydd yn eu galluogi i gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu gweithredoedd eu hunain.<\/li><li>Nodi ac ymarfer strategaethau a sgiliau ar gyfer eu haddysg ac am oes, a fydd yn sicrhau eu hannibyniaeth ac yn helpu ein disgyblion i wneud y dewisiadau cywir.<\/li><li>Rhoi amrywiaeth o gyfleoedd i&#8217;n disgyblion ennill achrediad a gydnabyddir yn genedlaethol.<\/li><\/ol>\n\n\n\n<p><strong>Gofynion y Staff<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Athrawon \u2013 &nbsp;Gradd\/TAR neu gymhwyster cyfatebol<\/p>\n\n\n\n<p>Mentoriaid \u2013 &nbsp;CYPSM, Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel Uwch, HLTA, NVQ, Ymarfer Effeithiol ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid &#8211; Lefel 4 neu gyfwerth<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yng Nghyngor Sir Ceredigion rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn gallu cael cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt. Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pobl yn gallu cael gafael yn hwylus ar wasanaethau cyffredinol a phenodol i ddatblygu\u2019r sgiliau a\u2019r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddilyn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":22674,"parent":22370,"menu_order":5,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-templates\/template-featured-career.php","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-22673","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/22673","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=22673"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/22673\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":22829,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/22673\/revisions\/22829"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/22370"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/22674"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=22673"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=22673"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=22673"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}