{"id":22847,"date":"2022-08-22T17:17:49","date_gmt":"2022-08-22T16:17:49","guid":{"rendered":"http:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/?page_id=22847"},"modified":"2022-08-22T17:20:09","modified_gmt":"2022-08-22T16:20:09","slug":"gwasanaethau-wediu-targedu-a-thymor-byr","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/bywyd-ceredigion\/ynglyn-ar-cyngor\/wellbeing-care-support-services-a-through-age-and-wellbeing-model\/gwasanaethau-wediu-targedu-a-thymor-byr\/","title":{"rendered":"Gwasanaethau wedi&#8217;u Targedu a Thymor Byr"},"content":{"rendered":"\n<p>Yng Nghyngor Sir Ceredigion rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn gallu cael cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt.<\/p>\n\n\n\n<p>Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pobl yn gallu cael gafael yn hwylus ar wasanaethau cyffredinol a phenodol i ddatblygu\u2019r sgiliau a\u2019r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddilyn bywydau llawn ac i gyflawni eu nod.&nbsp; Rydym yn ceisio grymuso unigolion yn yr&nbsp;<em>hyn sy\u2019n bwysig iddyn nhw<\/em>&nbsp;a gweithio gydag asiantaethau partner i gryfhau annibyniaeth pobl, sicrhau diogelwch a hybu lles.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ein strategaeth Gydol Oes a Llesiant yn disgrifio sut y byddwn yn datblygu gweithlu medrus ac arloesol a fydd yn darparu gwasanaethau gydol oes sy\u2019n canolbwyntio ar gymorth ataliol ac ymyriadau cynnar gyda mynediad hwylus i wybodaeth, cyngor a chymorth. Hefyd, yn asesu angen a gofal yn briodol a darparu cynlluniau cymorth i\u2019r rheiny sydd angen cymorth mwy hirdymor.<\/p>\n\n\n\n<p>Dysgwch fwy am ein Model Gydol Oes a Llesiant a sut mae\u2019r timau wedi\u2019u strwythuro ynddo\u00a0<a href=\"http:\/\/careers.ceredigion.gov.uk\/cy\/bywyd-ceredigion\/ynglyn-ar-cyngor\/wellbeing-care-support-services-a-through-age-and-wellbeing-model\/\">yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"has-text-align-center wp-block-heading\"><strong>Braslun o Wasanaethau wedi&#8217;u Targedu a Thymor Byr<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r Gwasanaethau wedi&#8217;u Targedu a Thymor Byr yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><strong>Gwasanaeth Gofal a Galluogi <\/strong>wedi&#8217;i Dargedu sy&#8217;n darparu gwasanaethau gofal wedi&#8217;u rheoleiddio<\/li><li>Y <strong>Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol <\/strong>sy&#8217;n rhoi cymorth ac arweiniad i unigolion sy&#8217;n dewis derbyn taliadau uniongyrchol a defnyddio&#8217;r arian i gyflogi Cynorthwywyr Personol, neu gomisiynu gwasanaethau gofal sy&#8217;n cyd-fynd \u00e2&#8217;u hamcanion penodol a\u2019u ffordd o fyw<\/li><li><strong>Logisteg a Gweithrediadau y Ganolfan Byw\u2019n Annibynnol (CILC)<\/strong> gan gynnwys Gwasanaeth Integredig Offer Cymunedol, Hwb PPE a Gwasanaethau Synhwyraidd a Gofal wedi\u2019i alluogi gan Dechnoleg.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r rhain yn dwyn ynghyd ystod o wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedol eraill sy&#8217;n canolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar i gadw pobl yn iach ac yn annibynnol. Gwneir hyn drwy roi&#8217;r gofal cywir yn y cartref neu yn y gymuned, darparu offer a defnyddio technoleg gynorthwyol, ac opsiynau o ran gwasanaethau sy&#8217;n cynnwys adsefydlu, ailalluogi, taliadau uniongyrchol, a darpariaeth gofal cartref fwy estynedig.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center has-medium-font-size\"><strong>Gwasanaeth Gofal a Galluogi wedi&#8217;i Dargedu<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r Gwasanaeth Gofal a Galluogi wedi&#8217;i Dargedu yn cynnig ystod gynhwysfawr o wasanaethau gofal a galluogi personol ac ymarferol i oedolion Ceredigion, i&#8217;w galluogi i barhau i fyw yn y gymuned yn unol \u00e2&#8217;u ffordd o fyw, yn annibynnol, yn ddiogel, gydag urddas a pharch.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Ein nod yw helpu pobl i aros gartref a bod mor annibynnol ac actif \u00e2 phosib, atal ymweliad diangen \u00e2\u2019r ysbyty, cefnogi i\u2019w rhyddhau&#8217;n brydlon o&#8217;r ysbyty, ac atal mynediad diangen i gartref gofal a chynorthwyo pobl i ddychwelyd i&#8217;w cartref o ofal preswyl. Y prif amcan yw gwella ansawdd bywyd a lleddfu&#8217;r straen ar unigolion sydd \u00e2 llai o annibyniaeth yn eu cartref eu hunain o ganlyniad i anabledd, salwch neu oed, a chynnig gwasanaeth galluogi drwy ddarparu staff gofal cymdeithasol cofrestredig a chymwys i sicrhau&#8217;r annibyniaeth fwyaf iddynt, gan hyrwyddo ethos &#8220;gwneud ar y cyd&#8221; yn hytrach na &#8220;gwneud ar gyfer&#8221;.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r gwasanaeth yn gweithredu ledled y sir ar sail ardal leol yn y rhwydwaith cymunedol. Rydym yn darparu:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Darpariaeth tymor byr Galluogi<\/li><li>Gwasanaeth pontio ar gyfer y pecynnau o gymorth gofal hirdymor a gedwir yn y gwasanaeth tra byddwn yn ceisio am gymorth gofal hirdymor<\/li><li>Y gwasanaeth pontio er mwyn i atgyfeiriadau D2RA ddychwelyd adref o&#8217;r ysbyty<\/li><li>Cyswllt dydd i ddydd \u00e2&#8217;n darparwyr gofal cartref a gomisiynir i roi gofal hirdymor i unigolion yn eu cartref eu hunain<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae gennym d\u00eem o Weithwyr Gofal a Chymorth sy&#8217;n arbenigo mewn cefnogaeth alluogi a hynny am hyd at chwe wythnos i\u2019w cynorthwyo i adennill sgiliau ac annibyniaeth wrth eu gweithgareddau dyddiol. Hefyd defnyddio offer i gynorthwyo gydag ymdrochi, gwisgo a dadwisgo, symud a hebrwng, sgiliau cegin, cefnogaeth\/anogaeth, neu raglenni ymarfer corff ar gyfer adsefydlu a datblygu o dan gyfarwyddyd Ffisiotherapydd neu Therapydd Galwedigaethol.<\/p>\n\n\n\n<p>Cyflawnir hyn drwy ymyrraeth ddwys tymor byr ar \u00f4l cyfnod o salwch neu ddamwain. Maen nhw hefyd yn darparu gofal cartref i&#8217;r rheiny sydd angen help ychwanegol gyda gofal personol neu orchwylion y cartref er mwyn aros yng nghysur eu cartref eu hunain. Mae ein gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd yn ymgymryd \u00e2 thasgau iechyd ychwanegol megis arsylwi unigolion yn ddyddiol i fonitro arwyddion o salwch neu adfer o salwch.<\/p>\n\n\n\n<p>O bryd i&#8217;w gilydd efallai y gofynnir i&#8217;n staff ymgymryd \u00e2 thasgau mwy arbenigol. Gellir cyflawni&#8217;r tasgau hyn yn dilyn asesiadau risg priodol a dim ond ar \u00f4l cael hyfforddiant penodol. Mae pob aelod o staff yn cael hyfforddiant trwyadl yn y meysydd canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Fframwaith cynefino Cymru Gyfan<\/li><li>QCF Lefel 2,3,4 a 5 (Diploma) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol penodol<\/li><li>Cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru<\/li><li>Deilydd Pasbort Cymru Gyfan &#8211; Codi a Chario<\/li><li>Asesydd Cymeradwy Lefel 2 a 3<\/li><li>Rhoi meddyginiaeth<\/li><li>Iechyd a Diogelwch<\/li><li>Atal a Rheoli Heintiau<\/li><li>Amrywiaeth o hyfforddiant penodol sy\u2019n ymwneud ag anghenion y defnyddwyr gwasanaethau<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center has-medium-font-size\"><strong>Y <\/strong><strong>Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol yn rhoi cymorth ac arweiniad i unigolion sy&#8217;n dewis derbyn taliadau uniongyrchol a defnyddio&#8217;r arian i gyflogi Cynorthwywyr Personol, neu gomisiynu gwasanaethau gofal sy&#8217;n cyd-fynd \u00e2&#8217;u hamcanion penodol a\u2019u ffordd o fyw.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r gwasanaeth yn cefnogi pobl ym mhob gr\u0175p gwasanaeth ledled Ceredigion gan ddarparu gwybodaeth ac arweiniad i oedolion a rhieni plant a phobl ifanc sydd ag anghenion gofal wedi&#8217;u nodi. Gall hyn gynnwys cynrychiolwyr, gofalwyr di-d\u00e2l a gweithwyr proffesiynol sydd ynghlwm \u00e2 chefnogi&#8217;r person a ddymunai dderbyn Taliad Uniongyrchol at y diben o ddiwallu ei anghenion gofal a chymorth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r Swyddogion Cymorth yn hwyluso gwasanaeth yn y gymuned sy&#8217;n ymwneud ag unigolion, yn eu hannog ac yn darparu gwybodaeth fedrus ac arbenigol i rymuso pobl sydd wedi dewis Taliad Uniongyrchol i gymryd rheolaeth o&#8217;u hanghenion gofal a chymorth.&nbsp; Mae hyn yn cynnwys rheoli achosion cymhleth, cydweithio \u00e2 swyddogion gofal cymdeithasol, maes archwilio, cyllid a swyddogaethau corfforaethol, a chwmn\u00efau allanol a mudiadau gwirfoddol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r t\u00eem yn cynnig cymorth arbenigol a gwybodaeth:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Fframwaith Gwasanaethau\u2019r Taliadau Uniongyrchol<\/li><li>Gwasanaeth Recriwtio a Chymorth Cyflogaeth<\/li><li>Gwasanaethau\u2019r Gyflogres<\/li><li>Gwybodaeth, Cyngor, Cynllunio Cymorth<\/li><li>Cyfrifon a Reolir &#8211; Taliadau Uniongyrchol<\/li><li>Hwb Cynorthwywyr Personol Taliadau Uniongyrchol a Phorth Recriwtio<\/li><li>Ymgysylltu, Cymorth a Llesiant y Cynorthwywyr Personol<\/li><li>Hyfforddi\u2019r Cynorthwywyr Personol a\u2019r gweithlu Taliadau Uniongyrchol<\/li><li>Datblygu Marchnad y Taliadau Uniongyrchol<\/li><li>Ymgysylltu \u00e2\u2019r gymuned<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae T\u00eem y Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol yn cael hyfforddiant arbenigol yn y meysydd canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Deddfwriaeth a rheoliadau\u2019r Taliadau Uniongyrchol<\/li><li>Budd-daliadau cyflogaeth ac anabledd, treth, pensiynau, yswiriant<\/li><li>Iechyd a Diogelwch<\/li><li>Amrywiaeth o hyfforddiant penodol sy\u2019n ymwneud ag anghenion y defnyddwyr gwasanaethau<\/li><li>NVQ Lefel 2, Gweinyddu Busnes<\/li><li>QCF\/NVQ Lefel 4, Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center has-medium-font-size\"><strong>Y<\/strong><strong> <\/strong><strong>Ganolfan Byw\u2019n Annibynnol (CILC) &#8211; Logisteg a Gweithrediadau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae Logisteg a Gweithrediadau&#8217;r Ganolfan Byw&#8217;n Annibynnol (CILC) yn cydlynu a rheoli amrywiaeth o wasanaethau cymorth i gadw pobl yn fwy diogel a mwy annibynnol.&nbsp; Mae\u2019n helpu i leihau&#8217;r risg o dderbyniadau i&#8217;r ysbyty a chodymau, hwyluso i drosglwyddo gofal o&#8217;r ysbyty yn \u00f4l i&#8217;r gymuned, cefnogi rhaglenni gofal canolraddol a galluogi, a rheoli cyflyrau hirdymor mewn ffordd sy&#8217;n hyrwyddo annibyniaeth. Mae&#8217;r gwasanaeth yn cwmpasu Ceredigion gyfan gan gynnwys lleoliadau gydol oed, iechyd a gofal cymdeithasol, nyrsio a chymunedol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ein t\u00eem yn rhan hanfodol o broses y gadwyn gyflenwi gan dderbyn, didoli a dosbarthu nwyddau o&#8217;r warws, sicrhau bod cyfleusterau CILC yn cael eu cynnal ac yn ddiogel a chynnig amgylchedd gwaith hwylus ar gyfer Hwb Porth Gofal. Rydym yn cynnig wyneb cyhoeddus i&#8217;r gwasanaeth offer ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau a darparwyr gofal, gweithwyr proffesiynol, a chyflenwyr. Cefnogir amrywiaeth o wasanaethau drwy CILC:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Mae&#8217;r Gwasanaeth Offer Cymunedol Integredig (ICES) yn hyrwyddo byw&#8217;n annibynnol ar y cyd \u00e2 Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae ein hoffer cymunedol yn amrywio o fframiau cerdded syml a ffyn baglau i offer mwy cymhleth megis gwelyau, offer codi ac offer gofal pwysedd.&nbsp; Darperir, gosodir a chasglir offer cymunedol o gartrefi pobl a lleoliadau megis cartrefi gofal, ysbytai ac ysgolion, a chefnogir y gwaith o wasanaethu a thrwsio offer, glanhau, diheintio ac ailgylchu.<\/li><li>Mae&#8217;r Hwb Offer Diogelu Personol (PPE) yn cynnig porth i archebu a dosbarthu ledled yr awdurdod lleol, i ddefnyddwyr gwasanaethau bregus a phartneriaid, ac mae&#8217;n cynnwys darparu ar gyfer cadwyn gyflenwi Dyfeisiau Llif Unffordd (LFD).<\/li><li>Mae&#8217;r logisteg a&#8217;r dosbarthu yn rhoi cymorth cydlynus ar gyfer gwasanaethau cysylltiedig h.y. Gofal wedi\u2019i alluogi gan Dechnoleg a Gwasanaethau Synhwyraidd, Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol a&#8217;r Gwasanaethau Galluogi a Gofal Wedi&#8217;i Dargedu.<\/li><li>Hybiau Clyfar\/Cymorth Rhithiol a fydd wedi\u2019u lleoli yng nghyfleusterau eraill y cyngor i roi mynediad i wybodaeth ynghylch Gofal wedi\u2019i alluogi gan Dechnoleg\/ technoleg gynorthwyol (cymhorthion ar gyfer bywyd bob dydd, larymau, synhwyryddion, dyfeisiau i\u2019w gwisgo), technoleg cwsmeriaid (ffonau clyfar, llechenni, watshis clyfar, sain clyfar\/cymorth rhithiol, a rhaglenni realiti rhithwir) a rhaglenni gofal digidol.<\/li><li>Rheoli cyfleusterau adeilad Canolfan Byw&#8217;n Annibynnol Ceredigion a gofod swyddfa\u2019r desgiau poeth.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r T\u00eem yn cefnogi ystod eang o wasanaethau wedi&#8217;u targedu a thymor byr sy\u2019n gofyn am elfen o wybodaeth dechnegol. Mae\u2019r t\u00eem wedi cael eu hyfforddi yn y meysydd canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Deilydd Pasbort Cymru Gyfan &#8211; Codi a Chario<\/li><li>Asesydd Cymeradwy Lefel 2 a 3<\/li><li>Iechyd a Diogelwch\/ IOSH<\/li><li>Atal a Rheoli Heintiau<\/li><li>Hyfforddiant Cymorth Cyntaf yn y Gweithle<\/li><li>QCF Lefel 4, Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth<\/li><li>Gwaith warws, logisteg a dosbarthu, rheoli cyfleusterau<\/li><\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yng Nghyngor Sir Ceredigion rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn gallu cael cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt. Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pobl yn gallu cael gafael yn hwylus ar wasanaethau cyffredinol a phenodol i ddatblygu\u2019r sgiliau a\u2019r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddilyn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":22844,"parent":22370,"menu_order":7,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-templates\/template-featured-career.php","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-22847","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/22847","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=22847"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/22847\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":22857,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/22847\/revisions\/22857"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/22370"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/22844"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=22847"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=22847"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=22847"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}