{"id":22873,"date":"2022-08-22T17:39:51","date_gmt":"2022-08-22T16:39:51","guid":{"rendered":"http:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/?page_id=22873"},"modified":"2022-08-22T17:41:47","modified_gmt":"2022-08-22T16:41:47","slug":"gwasanaeth-gweithredwyr-a-darparwyr","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/bywyd-ceredigion\/ynglyn-ar-cyngor\/wellbeing-care-support-services-a-through-age-and-wellbeing-model\/gwasanaeth-gweithredwyr-a-darparwyr\/","title":{"rendered":"Gwasanaeth Gweithredwyr a Darparwyr"},"content":{"rendered":"\n<p>Yng Nghyngor Sir Ceredigion rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn gallu cael cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt.<\/p>\n\n\n\n<p>Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pobl yn gallu cael gafael yn hwylus ar wasanaethau cyffredinol a phenodol i ddatblygu\u2019r sgiliau a\u2019r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddilyn bywydau llawn ac i gyflawni eu nod.&nbsp; Rydym yn ceisio grymuso unigolion yn yr&nbsp;<em>hyn sy\u2019n bwysig iddyn nhw<\/em>&nbsp;a gweithio gydag asiantaethau partner i gryfhau annibyniaeth pobl, sicrhau diogelwch a hybu lles.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ein strategaeth Gydol Oes a Llesiant yn disgrifio sut y byddwn yn datblygu gweithlu medrus ac arloesol a fydd yn darparu gwasanaethau gydol oes sy\u2019n canolbwyntio ar gymorth ataliol ac ymyriadau cynnar gyda mynediad hwylus i wybodaeth, cyngor a chymorth. Hefyd, yn asesu angen a gofal yn briodol a darparu cynlluniau cymorth i\u2019r rheiny sydd angen cymorth mwy hirdymor.<\/p>\n\n\n\n<p>Dysgwch fwy am ein Model Gydol Oes a Llesiant a sut mae\u2019r timau wedi\u2019u strwythuro ynddo\u00a0<a href=\"http:\/\/careers.ceredigion.gov.uk\/cy\/bywyd-ceredigion\/ynglyn-ar-cyngor\/wellbeing-care-support-services-a-through-age-and-wellbeing-model\/\">yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"has-text-align-center wp-block-heading\"><strong>Braslun o\u2019r T\u00eem Gwasanaeth Gweithredwyr a Darparwyr<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center has-medium-font-size\"><strong>T\u00eem Gwasanaethau Maethu<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Fel gwasanaeth maethu awdurdod lleol, rydym yn darparu gwasanaeth i blant sy&#8217;n derbyn gofal ac sy\u2019n cael eu lleoli gyda gofalwyr maeth sydd wedi&#8217;u cymeradwyo gan Geredigion. Rydym yn rhan o fenter Maethu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru ac yn cyfrannu at waith y Fframwaith Maethu Cenedlaethol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Gwasanaeth Maethu yn cynnig gwasanaeth i blant Ceredigion. Hefyd rydym yn cynnig cymorth i ofalwyr a phlant yn enwedig perthnasau\/ffrindiau a gofalwyr yn y teulu sy\u2019n byw y tu fas i Geredigion ond sy\u2019n cydweithio ag awdurdod lleol Ceredigion.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Rydym hefyd yn darparu:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Lleoliadau Unigol a Lleoliadau i Frodyr a Chwiorydd<\/li><li>Pontio Lleoliadau: Gofalwyr maeth sy&#8217;n gallu paratoi plant i&#8217;w mabwysiadu neu ar gyfer gofal maeth hirdymor \/ parhaol<\/li><li>Lleoliadau Brys<\/li><li>Lleoliadau Tymor Byr a Hirdymor<\/li><li>Lleoliadau seibiant<\/li><li>Gwyliau Byr i blant ag anableddau<\/li><li>Lleoliadau i rieni a phlant<\/li><li>Gofal Dydd<\/li><li>Lleoliadau &#8216;Pan Fydda i&#8217;n Barod&#8217;<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Gwasanaethau eraill:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Hysbysebu a recriwtio darpar ofalwyr maeth<\/li><li>Cynnal asesiadau o ddarpar ofalwyr<\/li><li>Ymgynghori \u00e2 gweithwyr proffesiynol eraill, gofalwyr maeth a theuluoedd o ran sicrhau lleoliadau priodol i blant a pharu plant \u00e2 gofalwyr sy&#8217;n gallu diwallu eu hanghenion<\/li><li>Cefnogi a goruchwylio gofalwyr maeth yn eu gwaith gyda phlant, teuluoedd y plant, gweithwyr cymdeithasol yr adran a gweithwyr proffesiynol eraill<\/li><li>Ymwneud \u00e2 gweithwyr proffesiynol eraill a chyfarfodydd i sicrhau bod gofalwyr maeth yn cael cefnogaeth wrth gynnal cynllun gofal unigol plentyn<\/li><li>Cwblhau adolygiadau blynyddol o ofalwyr maeth<\/li><li>Darparu hyfforddiant &#8216;sgiliau i faethu&#8217; i ddarpar ofalwyr, gyda chymorth gofalwyr maeth profiadol a&#8217;r rhai sy&#8217;n gadael gofal<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Strwythur y T\u00eem<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Rhaid i bob aelod o staff feddu ar o leiaf tair blynedd o brofiad fel Gweithiwr Cymdeithasol<\/li><li>Panel Maethu Annibynnol gydag amrywiaeth o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad yn seiliedig ar ofynion y rheoliadau.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center has-medium-font-size\"><strong> Gwasanaethau Dydd<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Fel Awdurdod Lleol rydym yn cynnig cyfleoedd dydd i unigolion sy\u2019n byw gydag Anabledd Dysgu ynghyd ag Oedolion H\u0177n sydd ag anghenion asesedig.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn draddodiadol roedd y rhain wedi\u2019u lleoli yn y canolfannau canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Canolfan Steffan (Anabledd Dysgu)<\/li><li>Canolfan Padarn (Anabledd Dysgu)<\/li><li>Canolfan Meugan (Anabledd Dysgu ac Oedolion H\u0177n)<\/li><li>Canolfan Ddydd Aberystwyth (Oedolion H\u0177n)<\/li><li>Hafan Deg (Oedolion H\u0177n)<\/li><li>Bryntirion (Oedolion H\u0177n)<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r ddarpariaeth wedi newid ychydig dros gyfnod y pandemig gyda dim ond gwasanaethau Anabledd Dysgu yn cael eu darparu ar hyn o bryd yn rhithiol, mewn canolfannau ehangach ac yn y gymuned. Rydym wrthi\u2019n defnyddio\u2019r canolfannau drachefn ond mae hyn bellach yn wahanol iawn i&#8217;r ddarpariaeth cyn y pandemig.<\/p>\n\n\n\n<p>Elfen ychwanegol o&#8217;r gwasanaeth yw&#8217;r rhaglen bontio a Chamu &#8216;Mlaen. Mae hyn yn canolbwyntio ar ddarparu ar sail canlyniadau i blant 19+ oed ar y cyd ag Addysg, Cymorth Estynedig, Coleg Ceredigion, y Bwrdd Iechyd a Gofalwyr Cymru. Yn ganolog i&#8217;r ddarpariaeth hon y mae&#8217;r pwyslais ar gyflogadwyedd, sgiliau bywyd ac ati.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Fframwaith cynefino Cymru Gyfan<\/li><li>QCF Lefel 2,3,4 a 5 (Diploma) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol penodol (Oedolion\/ Plant a Phobl Ifanc)<\/li><li>Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol<\/li><li>Rheoli Ymddygiad Cadarnhaol<\/li><li>Hyfforddiant Iaith a Lleferydd<\/li><li>Cyfathrebu Cyfan<\/li><li>Iaith Arwyddion BSL<\/li><li>Deilydd Pasbort Cymru Gyfan &#8211; Codi a Chario<\/li><li>Rhoi meddyginiaeth<\/li><li>Anabledd Dysgu Dwys a Lluosog<\/li><li>Amrywiaeth o hyfforddiant penodol sy\u2019n ymwneud ag anghenion y defnyddwyr gwasanaethau a\u2019u lleoliadau.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center has-medium-font-size\"><strong>Gofal Preswyl<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Fel Awdurdod Lleol mae gennym ddarpariaeth gofal preswyl sy\u2019n cynnwys y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gofal Preswyl i Oedolion<\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Cartref Gofal Preswyl Hafan Deg, Llanbed<\/li><li>Cartref Gofal Preswyl yr Hafod, Aberteifi<\/li><li>Cartref Gofal Preswyl Bryntirion, Tregaron<\/li><li>Cartref Gofal Preswyl Tregerddan, Bow Street<\/li><li>Cartref Gofal Preswyl Min y M\u00f4r, Aberaeron.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r ddarpariaeth hon yn darparu gofal preswyl cofrestredig a chymorth i oedolion dros ddeunaw oed. Rydym yn darparu lleoliadau tymor byr, dros dro a pharhaol a gallwn gefnogi unigolion sy&#8217;n byw gydag ystod o anghenion gofal, gan gynnwys dementia (diffyg cerdded, ar sail asesu), anableddau dysgu ac iechyd meddwl. Mae&#8217;r ddarpariaeth hon yn ddarpariaeth drws agored, fodd bynnag mae Hafan Deg wrthi\u2019n datblygu uned ddiogel o bedair ystafell wely yn arbennig ar gyfer y rheiny sy\u2019n byw gyda dementia.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym yn cynnig prentisiaethau blynyddol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Llety Diogel i Blant<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ar hyn o bryd rydym wrthi\u2019n datblygu llety i hyd at dri phlentyn rhwng tair a deunaw oed yn Felinfach. Bydd y llety wedi&#8217;i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru. Ein nod yw agor y cyfleuster hwn ym mis Tachwedd\/Rhagfyr 2022.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gofynion Penodol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Fframwaith cynefino Cymru Gyfan<\/li><li>QCF Lefel 2,3,4 a 5 (Diploma) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol penodol (Oedolion\/ Plant a Phobl Ifanc)<\/li><li>Cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru &#8211; Plant yn gyfredol, Oedolion erbyn Hydref 2022<\/li><li>Deilydd Pasbort Cymru Gyfan &#8211; Codi a Chario<\/li><li>Rhoi meddyginiaeth<\/li><li>Amrywiaeth o hyfforddiant penodol sy\u2019n ymwneud ag anghenion y defnyddwyr gwasanaethau a\u2019u lleoliadau.<\/li><\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yng Nghyngor Sir Ceredigion rydym yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion, teuluoedd, cymunedau a gofalwyr yn gallu cael cymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt. Ein gweledigaeth yw sicrhau fod pobl yn gallu cael gafael yn hwylus ar wasanaethau cyffredinol a phenodol i ddatblygu\u2019r sgiliau a\u2019r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddilyn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":22862,"parent":22370,"menu_order":6,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-templates\/template-featured-career.php","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-22873","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/22873","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=22873"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/22873\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":22879,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/22873\/revisions\/22879"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/22370"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/22862"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=22873"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=22873"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=22873"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}