{"id":5906,"date":"2019-05-08T13:07:02","date_gmt":"2019-05-08T12:07:02","guid":{"rendered":"http:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/?page_id=5906"},"modified":"2019-10-28T08:55:41","modified_gmt":"2019-10-28T08:55:41","slug":"important-info-faqs","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/important-info-faqs\/","title":{"rendered":"Gwybodaeth Bwysig a Chwestiynau Cyffredin"},"content":{"rendered":"\n<p>Efallai bod gennych chi ambell gwestiwn neu efallai bod ychydig o bethau nad ydych chi&#8217;n si\u0175r ohonynt. Os felly, edrychwch isod. Os ydych chi&#8217;n dal yn ansicr ynghylch unrhyw beth, mae croeso i chi gysylltu \u00e2 ni.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut ydw i&#8217;n gwneud cais am swydd?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae ein proses recriwtio wedi&#8217;i chynllunio i fod yn deg ac yn ddigyfnewid. O ganlyniad, nid ydym yn derbyn CV nac unrhyw ddeunydd ategol arall oni bai y gofynnir yn benodol i chi ei ddarparu. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am swydd, mae\u2019n rhaid i chi gwblhau cais ar-lein.&nbsp;&nbsp; &nbsp; <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Llenwi ein ffurflen gais<\/h3>\n\n\n\n<p>Nid oes rhaid i chi gwblhau eich cais mewn un sesiwn. Os ydych chi am gymryd amser i feddwl am eich atebion, gallwch arbed eich cais ac allgofnodi. Gallwch ddod yn \u00f4l ar unrhyw adeg cyn y dyddiad cau i gwblhau eich cais.<\/p>\n\n\n\n<p>Cofiwch mai dim ond drwy gyfeirio at y wybodaeth a ddarparwyd yn eich cais y gall y panel benderfynu a ddylid eich gwahodd i gyfweliad, felly mae eich datganiad personol ategol yn rhan bwysig iawn o&#8217;ch cais. Wrth ysgrifennu eich datganiad personol ategol mae angen i chi ystyried y disgrifiad swydd a&#8217;r fanyleb person er mwyn i chi allu dangos sut yr ydych yn credu y gallwch fodloni gofynion y swydd.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">A allaf wneud cais am fwy nag un swydd ar y tro?<\/h3>\n\n\n\n<p>Nid oes dim i&#8217;ch atal rhag gwneud sawl cais. Sicrhewch fod eich datganiad personol wedi&#8217;i deilwra i adlewyrchu gofynion pob swydd.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwneud newidiadau<\/h3>\n\n\n\n<p>Gallwch wneud newidiadau i&#8217;ch cais os nad ydych wedi ei gyflwyno ac os nad yw&#8217;r dyddiad cau wedi mynd heibio.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych chi&#8217;n dymuno gwneud newidiadau i gais sydd eisoes wedi\u2019i gyflwyno, dim ond drwy ddileu eich cais a chyflwyno un newydd y gallwch wneud hynny. Ni fyddwch yn gallu gwneud hyn unwaith y bydd y dyddiad cau wedi mynd heibio.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut ydw i&#8217;n tynnu fy nghais yn \u00f4l?<\/h3>\n\n\n\n<p>Os ydych wedi cyflwyno cais ac nad ydych chi eisiau cael eich ystyried ar gyfer y swydd mwyach, anfonwch e-bost at <a href=\"mailto:adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk\">adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk<\/a> gan ddyfynnu&#8217;r cyfeirnod swydd.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Rwy&#8217;n cael anawsterau technegol wrth wneud fy nghais ar-lein.<\/h3>\n\n\n\n<p>Os ydych chi&#8217;n cael unrhyw anawsterau gyda&#8217;n system recriwtio, cysylltwch \u00e2 ni.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ymgeiswyr ag anabledd<\/h3>\n\n\n\n<p>Rydym yn sylweddoli y gall ymgeiswyr anabl wynebu heriau ychwanegol o ran cael gwaith ac rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfleoedd cyflogaeth i bobl ag anableddau. Yn rhan o&#8217;r ymrwymiad hwn rydym wedi ennill achrediad \u2018Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd\u2019. Mae mwy o wybodaeth yngl\u0177n \u00e2 hyn ar gael yma.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Safonau&#8217;r Gymraeg<\/h3>\n\n\n\n<p>Rydym yn sefydliad dwyieithog ac felly mae gan rai swyddi ofynion iaith Gymraeg. Os felly, caiff ei nodi yn y fanyleb person. Mae rhagor o fanylion am safonau\u2019r Gymraeg, gan gynnwys sut rydym yn cefnogi ein pobl i ddysgu Cymraeg, ar gael yma. <\/p>\n\n\n\n<p>O ganlyniad i&#8217;n hymrwymiad i drin y Gymraeg a&#8217;r Saesneg yn gyfartal, gellir cyflwyno ceisiadau am gyflogaeth gyda ni mewn unrhyw iaith. Ni fydd eich dewis iaith yn golygu bod eich cais yn cael ei drin yn llai ffafriol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gennych hawl hefyd i ddewis eich dewis iaith ar gyfer cyfweliad. Os oes gennych unrhyw bryderon, mae croeso i chi gysylltu \u00e2 ni.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ymgeiswyr dan 18 oed<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n rhaid i chi fod yn oedran gadael yr ysgol i gael eich ystyried am r\u00f4l gyda ni. Er gwybodaeth, yng Ngheredigion, gallwch adael yr ysgol ar ddydd Gwener olaf mis Mehefin, cyn belled ag y byddwch yn 16 oed erbyn diwedd gwyliau haf y flwyddyn academaidd honno. <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Dim mynediad at gyfrifiadur?<\/h3>\n\n\n\n<p>Os nad oes gennych fynediad at gyfrifiadur, gallwch gael mynediad at un yn unrhyw un o&#8217;n llyfrgelloedd.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yr hawl i weithio yn y DU<\/h3>\n\n\n\n<p>Ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod gan bawb yr ydym yn eu cyflogi hawl gyfreithiol i weithio yn y DU. Rhaid i ni felly ofyn i chi ddarparu tystiolaeth ddogfennol i ddangos hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Ewch i www.gov.uk\/legal-right-work-uk i ddarganfod pa ddogfennau y bydd angen i chi eu dangos i ni.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Euogfarnau Troseddol<\/h3>\n\n\n\n<p>Rydym yn ymfalch\u00efo yn y ffaith ein bod yn gyflogwr cynhwysol. Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano yw potensial. Nid ydym yn credu bod cofnod troseddol o reidrwydd yn rheswm dros wrthod eich cais. *** Polisi Troseddwyr ***<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">A fydd angen i mi ddangos unrhyw ddogfennau yn ystod y broses recriwtio?<\/h3>\n\n\n\n<p>Bydd angen i bawb ddangos prawf oedran a hawl i weithio yn y DU. Efallai y bydd angen i ni weld dogfennau eraill hefyd. Bydd hyn yn dibynnu ar y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani. Er enghraifft, cymwysterau, trwydded gyrrwr ac ati. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae gofyn am ddogfennau yn rhan o&#8217;r broses gwirio cyn cyflogi. Mae&#8217;n bwysig nad ydych yn ymddiswyddo o&#8217;ch swydd bresennol hyd nes y bydd y gwiriadau cyn cyflogi wedi&#8217;u cwblhau.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut fydda i&#8217;n gwybod bod fy nghais wedi bod yn llwyddiannus a\u2019m bod yn cael fy ngwahodd i gyfweliad?<\/h3>\n\n\n\n<p>Os yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus, byddwn yn anfon e-bost atoch i roi gwybod i chi. Ein nod yw gwneud hyn o fewn 14 diwrnod i&#8217;r dyddiad cau ond weithiau gall hyn gymryd ychydig yn hwy.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">A allaf ddewis yr amser a&#8217;r dyddiad ar gyfer fy nghyfweliad?<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn aml fe nodir dyddiadau cyfweld ar ein hysbysebion swyddi fel y gallwch gadw&#8217;r dyddiad yn rhydd. Ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi, anfonir e-bost at y rhai a wahoddir am gyfweliad. Mi fydd yr e-bost hwn yn cynnwys dolen i&#8217;n system recriwtio er mwyn i chi drefnu slot cyfweld sy&#8217;n addas i chi. Mae&#8217;n debygol mai nifer cyfyngedig o amseroedd fydd ar gael, felly ceisiwch ddewis amser cyn gynted \u00e2 phosib fel bod gennych fwy o ddewis!<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut ydw i&#8217;n newid amser fy nghyfweliad?<\/h3>\n\n\n\n<p>Os ydych eisoes wedi dewis eich slot amser ac os nad yw hyn yn gyfleus mwyach, cysylltwch \u00e2 ni.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut beth fydd y cyfweliad?<\/h3>\n\n\n\n<p>Gofynnir cwestiynau penodol i chi er mwyn darganfod os oes gennych y wybodaeth a&#8217;r sgiliau i wneud y gwaith. Efallai y gofynnir i chi hefyd roi cyflwyniad neu wneud tasg i gefnogi&#8217;ch cais ymhellach. Byddwch yn cael gwybod a oes angen gwneud hyn ai peidio yn yr e-bost sy\u2019n eich gwahodd i gyfweliad. Fel arfer bydd tri o weithwyr Ceredigion ar y panel cyfweld.  <\/p>\n\n\n\n<p>Cofiwch, rydym yn awyddus i ddod o hyd i&#8217;r bobl orau i wneud y gwaith. Byddwn yn deall os ydych chi&#8217;n teimlo\u2019n bryderus a byddwn yn gwneud ein gorau i dawelu eich meddwl. Nid eich baglu chi yw diben y broses gyfweld, ond rhoi cyfle i chi hyrwyddo&#8217;ch hun.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut ddylwn i baratoi ar gyfer y cyfweliad?<\/h3>\n\n\n\n<p>I baratoi ar gyfer y cyfweliad, dylech ail-ddarllen y disgrifiad swydd a&#8217;r fanyleb person. Bydd y panel cyfweld wedi dewis eu cwestiynau drwy gyfeirio at y rhain.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut fydda i&#8217;n gwybod os ydw i wedi bod yn llwyddiannus yn dilyn cyfweliad? &nbsp;&nbsp;<\/h3>\n\n\n\n<p>Os bydd eich cyfweliad yn llwyddiannus, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted \u00e2 phosibl, fel arfer dros y ff\u00f4n. Os nad ydych yn llwyddiannus, ac ni allwn gael gafael arnoch chi dros y ff\u00f4n, efallai y cewch eich hysbysu drwy e-bost neu\u2019n ysgrifenedig.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">A allaf gael adborth ar fy nghyfweliad?<\/h3>\n\n\n\n<p>Rydym yn gwerthfawrogi bod derbyn adborth ar \u00f4l cyfweliad yn ddefnyddiol. Gallwch gael adborth trwy gysylltu \u00e2&#8217;r rheolwr recriwtio. Fel arall, gallwch gysylltu \u00e2 ni a gallwn drefnu hyn ar eich rhan.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut fydd fy ngwybodaeth bersonol yn cael ei storio? <\/h3>\n\n\n\n<p>Caiff eich gwybodaeth ei chadw&#8217;n ddiogel a&#8217;i thrin yn gyfrinachol. Nes i chi gyflwyno cais, ni fydd y wybodaeth yr ydych yn ei darparu ar gael i&#8217;r rheolwr recriwtio. Pan fyddwch wedi cyflwyno cais, bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei defnyddio i asesu eich addasrwydd ar gyfer y swydd yn unol \u00e2&#8217;r gofynion a nodir yn y fanyleb person.<\/p>\n\n\n\n<p>Ni fydd ceisiadau yn cynnwys unrhyw wybodaeth cyfle cyfartal. <\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y wybodaeth a ddarparwch yn cael ei chadw am 12 mis ac yna&#8217;n cael ei dinistrio oni bai eich bod yn cael eich penodi. Os cewch eich penodi bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio yn rhan o&#8217;ch cofnod cyflogai. Bydd y wybodaeth yn cael ei chadw a&#8217;i defnyddio yn unol \u00e2 deddfwriaeth Diogelu Data.<br><br>Mae mwy o wybodaeth am sut rydym yn cadw ac yn defnyddio&#8217;ch gwybodaeth bersonol a sut i gysylltu \u00e2&#8217;r Swyddog Diogelu Data ar gael  <br><a href=\"http:\/\/www.ceredigion.gov.uk\/eich-cyngor\/diogelwch-data-a-rhyddid-gwybodaeth\/diogelwch-data\/hysbysiad-preifatrwydd\/\">yma<\/a> .<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth mae gwiriad DBS yn ei olygu?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae gwiriad y\nGwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad hanfodol os ydych chi&#8217;n gwneud\ncais i weithio gyda phlant neu oedolion agored i niwed (e.e. ym maes addysgu\nneu ofal). Bydd y gwiriad yn rhoi manylion i ni am euogfarnau troseddol\nperthnasol a rhybuddion. Mae mwy o wybodaeth am wiriadau DBS ar gael yma: <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/organisations\/disclosure-and-barring-service\/about\">https:\/\/www.gov.uk\/government\/organisations\/disclosure-and-barring-service\/about<\/a>\n<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r wybodaeth a geir\no&#8217;r gwiriad yn ein helpu i wneud penderfyniadau recriwtio mwy diogel.<\/p>\n\n\n\n<p>Efallai na fydd cael\neuogfarn neu rybudd troseddol yn eich atal rhag cael cynnig swydd. Gweler\n\u2018collfarnau troseddol\u2019 uchod.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylai\u2019r disgrifiad\nswydd neu\u2019r fanyleb person nodi a oes angen gwiriad DBS ar gyfer y swydd. Os\nhoffech wirio hyn, cysylltwch \u00e2 ni.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut ydw i&#8217;n rhoi adborth am y broses ymgeisio ar-lein?<\/h3>\n\n\n\n<p>Byddem yn croesawu eich sylwadau yngl\u0177n \u00e2\u2019r broses ymgeisio ar-lein. Cwblhewch ein harolwg ar-lein.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Efallai bod gennych chi ambell gwestiwn neu efallai bod ychydig o bethau nad ydych chi&#8217;n si\u0175r ohonynt. Os felly, edrychwch isod. Os ydych chi&#8217;n dal yn ansicr ynghylch unrhyw beth, mae croeso i chi gysylltu \u00e2 ni. Sut ydw i&#8217;n gwneud cais am swydd? Mae ein proses recriwtio wedi&#8217;i chynllunio i fod yn deg ac [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":2,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-templates\/template-faqs.php","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-5906","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5906","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5906"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5906\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6234,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/5906\/revisions\/6234"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5906"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5906"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/ceri.cerenet.org.uk\/careers\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5906"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}