Coronavirus: Please visit our Coronavirus FAQ page for the latest information.
Closing date: 22/04/2021
Reference: REQ102778
32.5 hours / Fixed-Term
61,166 - 67,364 *
Llandysul
The following is an advertisement for a Teacher where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Yn dilyn secondiad y Dirprwy Bennaeth presennol i Adran Addysg Cyngor Sir Ceredigion, mae Corff Llywodraethol Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi unigolyn ymroddedig a brwdfrydig gyda sgiliau rheoli ac arweinyddiaeth ragorol i ymgymryd â rôl Dirprwy Bennaeth hyd at ddiwedd Mawrth 2023. Mewn cydweithrediad â’r Pennaeth, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu arweinyddiaeth i’r ysgol gan sicrhau addysg o ansawdd uchel ar gyfer pob disgybl.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
Agorwyd Ysgol Bro Teifi ym Medi 2016, yn dilyn buddsoddiad o £30m gan Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru. Bro Teifi ydy’r ysgol pob-oed, cyfrwng Cymraeg cyntaf yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf ar gyfer yr holl ddisgyblion, o’r lleiaf i’r hynaf. Mewn arolwg Estyn (Chwefror 2019) nodwyd fod ‘Ysgol Bro Teifi yn gymuned gynhwysol iawn, hynod ofalgar a Chymreig. Yn greiddiol i’w gwaith mae ei darpariaeth arbennig ar gyfer gofal, cymorth ac arweiniad sy’n cydweddu ag arwyddair yr ysgol, oni heuir ni fedir.’ Ers iddi agor mae nifer y disgyblion wedi cynyddu’n sylweddol ac ar hyn o bryd, mae 926 o ddisgyblion yn yr ysgol gyda 369 o oedran cynradd a 557 o oedran uwchradd, gyda 93 o’r rhain yn y chweched dosbarth.
Mae gennym ddisgwyliadau uchel iawn o’n holl ddisgyblion, nid yn unig yn eu llwyddiant academaidd, ond hefyd yn foesol ac yn gymdeithasol. O ganlyniad, mae’r swydd hon yn un heriol a fydd yn gyfle euraidd i’r ymgeisydd llwyddiannus i ddatblygu ymhellach fel arweinydd ac addysgwr.
Mae’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.
Os am drafodaeth anffurfiol yngl”}n â’r swydd hon, cysylltwch â Phennaeth Ysgol Bro Teifi, Mr Robert Jenkins ar 01559 362503 neu drwy e-bost, robert.jenkins@broteifi.ceredigion.sch.uk.
Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc bregus er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym ni a’n sefydliadau addysgiadol yn cydnabod bod plant a phobl ifanc a’r hawl i gael eu hamddiffyn a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu’u lles. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn a byddwn yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sef y CRB gynt.
Work-life balance
Lifestyle savings scheme
Generous employer pension scheme
Cycle to work scheme
Learning and development
We offer appropriate challenge and support to our schools, to help them deliver first class education to all pupils, across the age and ability range. Our primary functions are as follows: