We operate a bilingual policy. All applicants are invited to apply in Welsh, any application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application made in English.
Closing date: 12/09/2022
Reference: REQ104080
32.5 hours / Permanent
27,491 - 42,333 *
Lampeter
The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
I ddechrau Ionawr 2023 – Prif raddfa cyflogau athrawon a ChAD 3e am y cyfrifoldeb o Arwain y Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg, 3 i 14.
Yn sgil datblygu medrau digidol disgyblion, mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Pedr yn awyddus i benodi Athro TGCh llawn amser, parhaol ymroddedig ac ysbrydoledig a fydd yn dysgu disgyblion Blynyddoedd 7 – 13. Croesawir ceisiadau gan ymarferwyr uwchradd ac ysgolion Gydol Oes ar gyfer y swydd yma.
Mae Ysgol Bro Pedr yn Ysgol Gydol Oes, 3-19, lwyddiannus, gyda nifer arwyddocaol o ddisgyblion ar y gofrestr â’r Saesneg yn Iaith Ychwanegol iddynt. Mae’r Ysgol yn ysgol categori melyn B (Ionawr 2020). Derbyniwyd cadarnhad wrth ALPS bod canlyniadau Safon Uwch Bro Pedr yn y 25% uchaf ym Mhrydain (tair blynedd ddiwethaf) yn Rhagfyr 2019. Dyfarnwyd yr Ysgol yn dda ym mhob agwedd yn dilyn ymweliad ESTYN yn Hydref 2016.
Adroddodd Estyn yn 2016: “Mae Ysgol Bro Pedr yn ysgol hapus sydd ag ethos gofalgar a chefnogol. Mae iddi gymeriad Cymreig naturiol ac mae hefyd yn adlewyrchu’r gymuned amlddiwylliannol. Mae’n gweithio’n llwyddiannus i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth disgyblion o amrywiaeth”.
Pwysleisiodd Estyn hefyd: “Mae’r staff yn cydweithio’n briodol fel tîm ac yn darparu cyfleoedd effeithiol i’r disgyblion ddysgu”, gan ddweud am arweinyddiaeth yr Ysgol: “Mae gan y pennaeth ddisgwyliadau uchel a gweledigaeth glir ar gyfer datblygu’r ysgol, sy’n seiliedig ar sicrhau safonau uchel a lles disgyblion. Mae’n llwyddo i gyfleu ei gweledigaeth yn effeithiol i’r staff, y disgyblion, y llywodraethwyr a’r rhieni. Caiff y pennaeth ei chefnogi’n effeithiol gan aelodau’r uwch dîm rheoli”.
Rydym yn awyddus i sicrhau bod yr ysgol yn parhau i ffynnu ac yn manteisio ar gyfleoedd y dyfodol. Rydym am benodi unigolyn medrus sy’n meddu ar nodweddion dysgu ac addysgu rhagorol ac a fydd yn:
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol:
Prif gyfrifoldebau’r swydd hon yw:
Mae croeso cynnes ichi i dderbyn gwybodaeth bellach am y swydd yma. Ffoniwch yr Ysgol ar 01570 422214.
Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu’u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.
Work-life balance
Lifestyle savings scheme
Generous employer pension scheme
Cycle to work scheme
Learning and development
We offer appropriate challenge and support to our schools, to help them deliver first class education to all pupils, across the age and ability range. Our primary functions are as follows: