We operate a bilingual policy. All applicants are invited to apply in Welsh, any application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application made in English.

Headteacher – Penparc Primary School

Closing date: 20/04/2025

Reference: REQ105913

32.5 hours / Permanent

60,203 - 69,787 *

Cardigan

*All salary values are pro-rata.

About the role

Please note that the advertised salary for this position is subject to a pending pay award. The final salary will be adjusted in line with the nationally agreed pay award.

The following is for an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.

Mae’r hysbyseb hon ar gyfer swydd Pennaeth yn Ysgol Penparc yn llawn amser lle mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol. Mae meddu ar y cymhwyster CPCP yn ddymunol.

Dyddiad dechrau: 1af o Fedi, 2025

Yn sgil penodiad ein Pennaeth presennol i ysgol uwchradd o fewn yr ardal, mae Llywodraethwyr Ysgol Gymunedol Penparc yn awyddus i benodi olynydd ymroddedig ac ysbrydoledig ar gyfer yr ysgol gynradd gymunedol boblogaidd hon. Lleolir Ysgol Gymunedol Penparc ar gyrion tref Aberteifi yng Ngheredigion. Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol.

Mae’r ysgol yn darparu amgylchedd gofalgar, cynhwysol, llawn parch o’r radd flaenaf. Dymuna’r Llywodraethwyr benodi Pennaeth newydd i arwain yr ysgol yn y cyfnod nesaf o’i datblygiad. Mi fydd gan y Pennaeth ymrwymiad dysgu o tua 0.5.

Mae rhyw 109 o ddisgyblion yn yr ysgol ac mae tîm effeithiol o athrawon a staff cefnogi yn cynorthwyo pob disgybl i ddysgu a datblygu i’w llawn botensial.  Mae’r Llywodraethwyr am benodi Pennaeth a all adeiladu ar y cryfderau presennol a bod yn agored i syniadau newydd a sicrhau bod yr ysgol yn paratoi ei disgyblion ar gyfer byd sy’n newid o’u cwmpas.

Rydym yn awyddus i sicrhau bod yr ysgol yn parhau i ffynnu ac yn manteisio ar gyfleoedd pellach i ragori yn y dyfodol.  Rydym am benodi unigolyn profiadol sy’n meddu ar nodweddion arweinyddiaeth a rheolaeth rhagorol ac a fydd yn:  

  • hyrwyddo safonau cyflawniad uchel i bawb tra’n hyrwyddo cymuned gefnogol a chynhwysol;
  • annog ac yn cefnogi disgyblion i fod yn ddysgwyr annibynnol ac uchelgeisiol;
  • ysbrydoli ac yn hybu datblygiad staff o ran addysgu a dysgu arloesol;
  • annog ymrwymiad rhieni a’r gymuned o fewn yr ysgol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol: 

  • gweledigaeth glir o ran datblygiad yr ysgol hon sydd wedi ei hen sefydlu ac sy’n rhoi lle canolog i’r Gymraeg yn y gymuned;
  • y gallu i annog disgyblion i gofleidio’r diwylliant a’r iaith Gymraeg yn llawn ac i annog rhieni i gefnogi’r Gymraeg adref;
  • dealltwriaeth o arferion dysgu effeithiol ac ymrwymiad cryf i barhau i’w datblygu drwy’r ysgol yn y dyfodol; 
  • medrau cadarn o ran cyfathrebu, ymwneud ag eraill, rheoli a threfnu; 
  • dealltwriaeth o bwysigrwydd datblygiad unigol pob disgybl er mwyn iddynt gyflawni ei lawn botensial; 
  • gwybodaeth gadarn am ddatblygiadau ac arferion addysgol cyfredol a gwir ddiddordeb yn y maes; 
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac i adeiladu tîm er mwyn sicrhau’r cyfleoedd gorau posib i bob disgybl;
  • ymrwymiad cryf i gyfoethogi’r cysylltiadau gyda’r Llywodraethwyr, y gymuned leol, ysgolion eraill a’r Urdd.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Mae croeso i ymgeiswyr ymweld â’r ysgol, os ydynt yn dymuno, cyn cyflwyno cais. Am fanylion pellach, cysylltwch ag Ymgynghorydd Her yr ysgol, Mr Dafydd Iolo Davies ar dafydd.iolo.davies@ceredigion.gov.uk (07812920421).

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.                             

What we offer

Work-life balance

Lifestyle savings scheme

Generous employer pension scheme

Cycle to work scheme

Learning and development

Where you'll work

Schools and Culture

We offer appropriate challenge and support to our schools, to help them deliver first class education to all pupils, across the age and ability range. Our primary functions are as follows: 

  • School Improvement: Leadership; Support and Challenge, Teaching and Learning; Digital Literacy; Literacy and Numeracy; Welsh in Education
  • Additional Learning Needs: Provision for pupils with Additional Learning Needs, Inclusion; Attendance; Educational Psychology
  • Pupil Wellbeing:Counselling; Welfare; Anti-Bullying, Pupil Voice
  • Education Governance: Data ; Governor Support, Policy support
  • School Admissions
  • Culture: Music Service; Cered; Felinfach Theatre; Museum
  • Infrastructure and Resources: Planning School Places; Modernisation and Twenty First Century Schools Programme; Buildings; Grants
  • Catering: Day Centres; Primary Schools; Residential homes.
  • Childcare Unit: Childcare Sufficiency Assessment; Childcare & Play Grant; Childcare Offer; Out of School (After School Clubs and Holiday Playschemes); Day Nursery, Cylch/Playgroup & Childminder business support and staff training
Cardigan
Cardigan is the historic gateway into Ceredigion from the south west.
Read more