We operate a bilingual policy. All applicants are invited to apply in Welsh, any application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application made in English.

Deputy Headteacher – Penparc Primary School

Closing date: 27/09/2026

Reference: REQ106846

37 hours / Permanent

52,680 - 58,136 *

Cardigan

*All salary values are pro-rata.

About the role

The following is an advert for a Deputy Headteacher where the ability to converse through the medium of Welsh and English is essential.

Yn eisiau o Ionawr 2027 neu cyn gynted â phosib – Swydd Llawn Amser, Parhaol.

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol Penparc yn awyddus i benodi Dirprwy Bennaeth brwdfrydig, angerddol a blaengar sydd yn barod i gefnogi a hyrwyddo gweledigaeth yr ysgol er mwyn sicrhau llwyddiant parhaus yr ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn aelod o dîm brwdfrydig a gweithgar, yn cydweithio’n agos i ddarparu cefnogaeth a chymorth i’r Pennaeth ac yn cynorthwyo i reoli’r ysgol yn effeithiol ac yn effeithlon yn absenoldeb y Pennaeth. Yn ogystal, bydd gan y Dirprwy Bennaeth ymrwymiad addysgu, a byddai arbenigedd ym maes ADY yn fanteisiol.

Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol ac ysgogol, ac arweinydd effeithiol, sy’n hyrwyddo addysgeg o’r radd flaenaf. Bydd yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg, ynghyd â sgiliau rheolaethol cadarn a phersonoliaeth gynnes a hawddgar.

Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle euraidd i unigolyn brwdfrydig ac uchelgeisiol weithio mewn ysgol gymunedol lwyddiannus sydd o fewn tafliad carreg i dref Aberteifi. Bydd yn cynnig profiad gwerthfawr i unigolyn sy’n awyddus i arwain, arloesi a chyfrannu’n gadarnhaol at ddatblygiad parhaus yr ysgol.

Fe fydd yr unigolyn yn:

  • dylanwadu ar gydweithwyr drwy osod esiampl fel model rôl trefnus a chydwybodol;
  • bod yn barod i weithio fel rhan o uwch dîm rheoli cadarn;
  • hyrwyddo safonau cyflawniad uchel i bawb;
  • ymgynghori â’r Pennaeth a chynnig cyngor adeiladol mewn meysydd a fyddai’n fanteisiol i’r ysgol;
  • cydweithio â staff, disgyblion a rhieni i hyrwyddo awyrgylch gynhwysol ac ethos gwaith effeithiol;
  • bod yn gymwys i ddirprwyo ar ran y Pennaeth mewn sefyllfaoedd sy’n codi o ganlyniad i absenoldebau neu gyfrifoldebau eraill y Pennaeth;
  • arwain ar faes arbenigedd o fewn cynlluniau strategol a phrosesau gwerthuso a gwella’r ysgol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol:

  • gweledigaeth glir ar gyfer llwyddiant a datblygiad parhaus yr ysgol, gan wreiddio ei rôl ganolog o fewn y gymuned leol;
  • dealltwriaeth o arferion dysgu ac addysgu effeithiol, ac ymrwymiad cryf i barhau i’w datblygu ar draws yr ysgol gyfan;
  • medrau cyfathrebu, rhyngbersonol, rheoli a threfnu cadarn;
  • angerdd dros hyrwyddo’r Gymraeg fel rhan ganolog o fywyd a gwaith yr ysgol;
  • gwybodaeth gadarn am ddatblygiadau ac arferion addysgol cyfredol sy’n seiliedig ar ymchwil;
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac i adeiladu tîm effeithiol;
  • ymrwymiad cryf i gryfhau’r cysylltiadau â’r Llywodraethwyr, y gymuned leol, ysgolion lleol a phartneriaid ehangach.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Dyddiad cau: Canol nos Sul, 27 Medi 2026 am 11:59yh

Dyddiad cyfweld: Dydd Llun 5 Hydref 2026

Gwahoddir unigolion sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i gysylltu â’r Pennaeth, Bethan Morgan-Jenkins, am drafodaeth anffurfiol ar prif@penparc.ceredigion.sch.uk neu drwy ffonio 01239 810586.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

What we offer

Work-life balance

Lifestyle savings scheme

Generous employer pension scheme

Cycle to work scheme

Learning and development

Where you'll work

Schools and Culture

We offer appropriate challenge and support to our schools, to help them deliver first class education to all pupils, across the age and ability range. Our primary functions are as follows: 

  • School Improvement: Leadership; Support and Challenge, Teaching and Learning; Digital Literacy; Literacy and Numeracy; Welsh in Education
  • Additional Learning Needs: Provision for pupils with Additional Learning Needs, Inclusion; Attendance; Educational Psychology
  • Pupil Wellbeing:Counselling; Welfare; Anti-Bullying, Pupil Voice
  • Education Governance: Data ; Governor Support, Policy support
  • School Admissions
  • Culture: Music Service; Cered; Felinfach Theatre; Museum
  • Infrastructure and Resources: Planning School Places; Modernisation and Twenty First Century Schools Programme; Buildings; Grants
  • Catering: Day Centres; Primary Schools; Residential homes.
  • Childcare Unit: Childcare Sufficiency Assessment; Childcare & Play Grant; Childcare Offer; Out of School (After School Clubs and Holiday Playschemes); Day Nursery, Cylch/Playgroup & Childminder business support and staff training
Cardigan
Cardigan is the historic gateway into Ceredigion from the south west.
Read more