Ceri Anne Hughes
Cynorthwyydd Gofal dan Brentisiaeth

Gall y swydd fod yn heriol ar adegau, ond gall unrhyw swydd arall fod yn heriol hefyd. Mae mwy o foddhad i’w gael nag sydd yna o heriau. Rwy’n hoffi’r amrywiaeth o dasgau, ac nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath!

Fy Stori:

Mae Ceri yn Gynorthwyydd Gofal dan Brentisiaeth sy’n gweithio gydag oedolion yng Nghartref Gofal Preswyl Tregerddan ger Aberystwyth

C: Sut wnes di gael y Brentisiaeth?

Gwelais y Brentisiaeth ar gyfryngau cymdeithasol y Cyngor ac roedd yn apelio’n fawr ataf.

Penderfynais ymgeisio, cefais fy nghyfweld ac yna cefais gynnig y swydd. Roeddwn yn edrych ymlaen at gael y cyfle i ddechrau gyrfa newydd.

Roeddwn yn credu y byddai’n ffordd dda o symud o’r coleg i fyd gwaith. Yn ogystal, gallwch ddysgu ac ennill arian ar yr un pryd.

C: Pam wnes di ddewis prentisiaeth ym maes gofal cymdeithasol?

Mi wnes i gwblhau cymhwyster Gofal Anifeiliaid yn y coleg, ac roeddwn yn pendroni ynglŷn â beth i’w wneud nesaf. Roedd gweithio mewn swydd lle gallwn ddefnyddio fy mhersonoliaeth ofalgar yn rhywbeth oedd yn bwysig iawn i mi. Mae fy mam yn gweithio fel Cynorthwyydd Gofal, felly roeddwn yn ffodus o allu cael mwy o wybodaeth ganddi hi.

C: Sut mae wedi bod o fudd i ti?

Roedd yr wythnosau a’r misoedd cyntaf ychydig yn heriol oherwydd roedd popeth yn hollol newydd imi. Rwyf wedi cymryd fy amser i ddysgu’r tasgau sydd angen eu gwneud o ddydd i ddydd a dod i adnabod y staff a’r preswylwyr, felly mae fy hyder wedi gwella gydag amser. Un o’r pethau wnaeth fy helpu’n fawr oedd y ffaith fod pawb sy’n gweithio gyda mi yn hapus i rannu eu profiadau. Mae’n wych hefyd gallu defnyddio’r hyn yr wyf wedi’i ddysgu o’r cymhwyser yn y gweithle.

C: Pa foddhad sydd i’w gael o wneud prentisiaeth ym maes gofal cymdeithasol?

Mae dod i adnabod pob preswylydd, a chael gwybod beth maent yn ei hoffi a beth maent wedi’i wneud yn ystod eu bywydau yn hynod ysbrydoledig. Rwy’n mwynhau gwneud eu bywydau bob dydd mor gyfforddus â phosib.

Ar ddiwedd y dydd, eu gwneud nhw’n hapus sy’n fy ngwneud i’n hapus.

C: Beth yw dy gynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Rwyf bron â chwblhau fy mhrentisiaeth a’r cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2, ac rwy’n gobeithio parhau i weithio yn Nhregerddan. Rwyf wedi cyflawni cymaint mwy nag ennill cymhwyster yn unig oherwydd rwyf wedi magu llawer o hyder ers imi ddod yn rhan o’r tîm yn Nhregerddan. Rydym i gyd yn cefnogi ein gilydd ac rwyf wedi dysgu pob math o wahanol sgiliau.

C: Oes gen ti unrhyw gyngor i bobl ifanc sy’n ystyried gweithio ym maes gofal cymdeithasol?

Gall y swydd fod yn heriol ar adegau, ond gall unrhyw swydd arall fod yn heriol hefyd. Mae mwy o foddhad i’w gael nag sydd yna o heriau. Rwy’n hoffi’r amrywiaeth o dasgau, ac nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath! Rwyf hefyd yn cael cyfle i fod yn greadigol a threfnu gweithgareddau ar gyfer y preswylwyr. Os ydych yn ystyried gweithio ym maes gofal cymdeithasol, byddwn yn argymell i chi siarad â chartrefi gofal lleol, gan fod y mwyafrif ohonynt yn croesawu gwirfoddolwyr i helpu gyda gweithgareddau. Mae hon yn ffordd wych o gael profiad a gweld a ydych chi’n mwynhau gwaith yn y maes hwnnw.