Gyrfaoedd Cynnar

Yng Ngheredigion rydym yn cydnabod manteision meithrin ein talent ein hunain ac felly rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i’r rhai a hoffai ddechrau gyrfa gyda ni.

Bydd cychwyn ar un o’n rhaglenni gyrfaoedd cynnar yn cynnig cyfle i chi ennill profiad gwerthfawr o ganlyniad i weithio mewn sefydliad uchelgeisiol.

Prentisiaethau

Mae prentisiaeth gyda ni yn cynnig cyfle gwych i ddysgu sgiliau newydd a datblygu eich gyrfa wrth ennill cyflog.

Cymunedau am Waith a Mwy a Gweithffyrdd+

A ydych chi'n profi tlodi mewn gwaith, diweithdra, yn byw ar isafswm cyflog neu'n ei chael hi'n anodd talu treuliau misol sylfaenol ar gontractau sero awr achlysurol? Efallai y bydd Cymunedau ar gyfer Gwaith a Mwy yn gallu'ch cefnogi chi.

Gweithffyrdd+

Ydych chi’n 25 oed+? Ydych chi’n chwilio am waith, hyfforddiant neu gyfle i wirfoddoli? Mi allwn ni eich cynorthwyo!