Prentisiaethau

Mae prentisiaeth gyda ni yn cynnig cyfle gwych i ddysgu sgiliau newydd a datblygu eich gyrfa wrth ennill cyflog.

Amdan ein Swyddi Prentisiaethau

Rydym yn cynnig ystod o gyfleoedd prentisiaeth sy’n cyfuno gweithio mewn swydd wych, ennill cymhwyster ac ennill cyflog cystadleuol.

Mae croeso i unrhyw un o unrhyw oed ymgeisio am brentisiaeth (16 oed a throsodd). P’un a ydych yn dechrau ym myd gwaith, eisiau newid eich gyrfa neu ddychwelyd i’r gwaith yn dilyn diweithdra neu seibiant yn eich gyrfa, byddwn yn eich cefnogi ar hyd y daith.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â phrentisiaethau a chymhwysedd, gwelwch ein fideos a darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin.

Buddion

  • Cyflog prentis cystadleuol
  • Mentor i gynnig cymorth i chi wrth i chi weithio
  • Hanner diwrnod yr wythnos o amser astudio personol
  • Bod yn aelod o Gynllun Pensiwn y Cyngor
  • Gwyliau da
  • Cyfleoedd dysgu a datblygu
  • Gallu ymaelodi â’r gampfa am bris gostyngedig
  • Mynediad at gynlluniau llesiant megis cwnsela

Cwestiynau Cyffredin

Os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â phrentisiaethau, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy anfon e-bost at apprentice@ceredigion.gov.uk

Mae tri phrif fath o brentisiaeth:

  • Prentisiaeth Sylfaen
  • Prentisiaeth Canolradd
  • Prentisiaeth Uwch

Mae gwahanol lefelau o brentisiaethau sy’n cyd-fynd â rolau penodol, ac mae rhai rolau yn gofyn am gymwysterau ar lefel uwch na rolau eraill.

Mae’n rhaid i brentisiaeth bara am o leiaf 12 mis.

Mae hyd prentisiaeth yn amrywio gan ddibynnu ar lefel y brentisiaeth a rôl y swydd. Nodir hyd pob prentisiaeth ar bob disgrifiad swydd.

Mae hyn yn amrywio gan ddibynnu ar fath y brentisiaeth. Gellir cwblhau rhai cymwysterau prentisiaeth yn y gweithle drwy gyfuniad o hyfforddiant ac asesiadau wrth i chi weithio. Gall rhai cymwysterau prentisiaeth lefel uwch olygu y bydd angen teithio i goleg neu brifysgol am ddiwrnod yr wythnos. Darperir manylion llawn ar bob disgrifiad swydd.

Gallwch. Gallwch ddysgu, cyflwyno eich gwaith a chael eich asesu yn Gymraeg, Saesneg, neu’n ddwyieithog.

  • Mae’n rhaid i chi fod yn 16 oed neu’n hŷn, nid oes unrhyw derfyn oedran fel arall.
  • Pobl nad ydynt mewn addysg amser llawn (gallwch ymgeisio tra rydych yn dal i fynychu’r ysgol/coleg, ond rhaid eich bod wedi gorffen eich astudiaethau erbyn yr adeg y bydd eich prentisiaeth yn dechrau).
  • Rhaid gwirio pob cais er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni meini prawf cymhwysedd Llywodraeth Cymru.

Yn rhan o’r broses o lunio rhestr fer, mae’n rhaid i ni wirio cymwysterau cyfredol yr ymgeiswyr yn unol â rheolau cymhwysedd diweddaraf Llywodraeth Cymru.

Gall hyn gynnwys rhannu gwybodaeth, megis manylion ynghylch cymwysterau’r ymgeiswyr, gyda darparwyr hyfforddiant prentisiaeth trydydd parti.

Yn anffodus, mae’n bosib na fyddwn yn gallu cynnwys rhai ymgeiswyr ar y rhestr fer os nad ydynt yn bodloni rheolau cymhwysedd Llywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaethau.

Byddwn yn gwneud ein gorau glas i nodi’r meini prawf yn y disgrifiadau swydd pan fo hynny’n bosib.

 

Ar ôl cwblhau eich prentisiaeth, byddwch wedi ennill profiad gwaith gwerthfawr a chymhwyster cymeradwy. Bydd hyn yn gwella eich siawns o ddod o hyd i waith naill ai gyda’r Cyngor neu gyda chyflogwr arall. Gall hefyd eich helpu i symud ymlaen i gymhwyster neu brentisiaeth lefel uwch.

Swydd gyda hyfforddiant. Mae hyn yn golygu y byddwch yn ennill sgiliau newydd a chymhwyster cymeradwy wrth i chi weithio ac ennill arian.

Straeon Gweithwyr

Gall y swydd fod yn heriol ar adegau, ond gall unrhyw swydd arall fod yn heriol hefyd. Mae mwy o foddhad i’w gael nag sydd yna o heriau. Rwy’n hoffi’r amrywiaeth o dasgau, ac nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath!

Ceri Anne Hughes, Cynorthwyydd Gofal dan Brentisiaeth
Darllenwch y stori lawn