Dilys Megicks
Rheolwr, Cartref Preswyl Hafan Deg

Er gwaethaf yr holl heriau, mae’n swydd sy’n rhoi’r fath foddhad, y nod yw gwneud bywydau pobl yn hapus ac yn rhydd o boen wrth iddynt heneiddio ac mae gweld yr hapusrwydd ar wynebau’r preswylwyr pan fônt allan neu wrth gymryd rhan mewn gweithgaredd yn gwneud y cyfan yn werth chweil.

Fy Stori:

Dydd Sadwrn, 14 Chwefror 1981 oedd fy niwrnod gwaith cyntaf yma yn Hafan Deg ac rwy’n dal yma 38 o flynyddoedd yn ddiweddarach! Dechreuais fel Metron Gynorthwyol, yna fe’m dyrchafwyd yn Rheolwraig (Metron oedd y term ar y pryd) ym 1983, ac rwy’n Rheolwraig oddi ar hynny.

Roeddwn yn nyrs gyffredinol cyn hynny a dyma oedd y cam cyntaf ar y pryd tuag at yrfa ym maes gofal preswyl.

Hyfforddais fel Nyrs Gyffredinol Gofrestredig gan fy mod yn hoffi’r syniad o helpu pobl a gwneud yn siŵr eu bod yn cael gofal da; dydw i ddim yn hoffi gweld pobl yn dioddef neu mewn poen.

Dilyniant gyrfa

Os oes gan unigolyn y cymhelliant, y profiad a’r awydd i symud yn ei flaen, fe fydd rheolwr da yn adnabod hyn mewn unigolyn ac yn rhoi’r cyfleoedd i’r unigolyn hwnnw ddatblygu ymhellach.
Dechreuodd Rachael, fy Nirprwy Reolwraig yma fel swyddog clerigol. Cyn hynny, roedd hi wedi gwneud peth gwaith gofal mewn cartref arall ac mae ganddi gymhwyster mewn Seicoleg. Ar hyn o bryd, hi yw ein Dirprwy Reolwraig ac mae hi bellach wedi llwyddo i gael swydd Rheolwraig yma, pan fyddaf i’n ymddeol ym mis Mehefin!

Staff Gofal
Mae’r staff yn wych yma; y staff sy’n gwneud y cartref yn lle mor arbennig. Ar hyn o bryd, mae gennym tua 30 aelod o staff, yn amrywio o staff gofal i staff glanhau a staff cegin. Cofiwch, rydym yn wasanaeth 24 awr, felly mae angen digon o staff ar gyfer sifftiau dydd a nos.

Mae’n rhaid cael unigolyn arbennig gyda’r rhinweddau priodol i gyflawni dyletswyddau staff gofal. Mae’n swydd ddwys a does dim amser i sefyllian; mae’n rôl sy’n gofyn am lawer o ynni, mae’r cyfrifoldebau’n amrywiol a’r gofynion yn gyson. Serch hynny, mae’n swydd a ddaw â llawer o foddhad ac rydych yn gwybod eich bod yn y swydd iawn pan welwch y llawenydd ar wynebau preswylwyr ar ôl i chi eu helpu a gwneud yn siŵr eu bod yn gyfforddus, yn rhydd o boen ac wedi cael y cyfle i gymdeithasu a pharhau i fwynhau bywyd.

Mae gennym swyddi sy’n rhan amser neu rai sy’n cynnig patrymau gwaith hyblyg. Mae rhai pobl yn gweithio o wyth y bore hyd at bump yr hwyr, eraill yn gweithio gyda’r nos, rhai yn gweithio siffitiau nos neu ar benwythnosau yn unig. Rydym yn ceisio sicrhau bod staff yn dilyn patrwm gwaith y maent yn ei ddymuno ond mae’n rhaid i bob aelod o staff fod yn hyblyg pe bai rhywbeth yn codi – yn y pen draw, mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn bodloni anghenion ein preswylwyr a bod lefel y gofal yn gyson uchel.

Mae dros 1.45 miliwn o bobl yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol ar hyn o bryd, ond yn ôl Gweinidogion, bydd angen 650,000 o weithwyr ychwanegol erbyn 2035 o ganlyniad i boblogaeth sy’n heneiddio.

Os teimlwch mai swydd ym maes gofal yw’r swydd briodol i chi, beth am edrych i weld a oes swyddi gwag ar wefan y Cyngor.

Does dim sut beth â diwrnod cyffredin!

Ar ddechrau pob dydd, ceir cyfnod trosglwyddo; bydd staff y sifft nos yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am bob preswylydd i staff y sifft ddydd ac yn trafod unrhyw sefyllfa a fydd wedi codi. Efallai y bydd materion penodol y bydd angen i ni ddelio â nhw – cysylltu gyda meddygon teulu neu nyrsys o’r feddygfa leol neu gysylltu â theuluoedd. Mae llawer o’r gwaith ar ddechrau’r bore yn deillio o’r hyn sydd wedi digwydd yn ystod y nos.

Mae staff yn gorfod ysgrifennu cynlluniau gofal ac asesiadau risg yn ystod eu sifftiau. Mae’n rhaid i bob aelod o staff gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth a gofynion statudol.

Yna, mae’n rhaid sicrhau bod y feddyginiaeth gywir wedi ei rhoi i’r preswylwyr – y dogn cywir ar yr amser cywir – mae hon yn rhan annatod a digyfnewid o’r drefn ac wedi ei gwreiddio yn nhrefn gyffredinol y dydd.

Er gwaethaf yr holl heriau, mae’n swydd sy’n rhoi’r fath foddhad, y nod yw gwneud bywydau pobl yn hapus ac yn rhydd o boen wrth iddynt heneiddio ac mae gweld yr hapusrwydd ar wynebau’r preswylwyr pan fônt allan neu wrth gymryd rhan mewn gweithgaredd yn gwneud y cyfan yn werth chweil.

Os ydych yn edrych am yrfa am oes, gyrfa sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, yna efallai mai swydd mewn gofal cymdeithasol yw’r swydd ar eich cyfer chi.

Rôl y Rheolwr

Mae rôl rheolwr mor amrywiol – fyddwch chi byth yn diflasu oherwydd mae rhywbeth yn newid drwy’r amser. Gall y newidiadau fod o safbwynt rheoliadau, neu o ran y ffordd rydym yn gweithio, mae’n rhaid i ni fod yn hyblyg iawn, gan addasu’n hawdd i newid ac mae honno’n her rwy’n ei mwynhau.

Un o’r heriau sy’n ein hwynebu yw cyllid. Rydym yn darparu lefel uchel o ofal yn ôl angen pob preswylydd, gan sicrhau bod gennym yr adnoddau digonol. Mae cost ynghlwm wrth hyn i gyd. Rydym yn ceisio cael arian gan amryw sefydliadau, mewn ymgais i gyfrannu at gyllid sy’n prinhau ac sydd wedi lleihau dros y blynyddoedd oherwydd bod cynghorau’n derbyn llai o arian o law’r Llywodraeth.
Rydym wedi bod yn ffodus dros y blynyddoedd ac wedi llwyddo i gael arian ychwanegol, er enghraifft rydym wedi derbyn arian yn ddiweddar oddi wrth Age Concern er mwyn cynnal sesiynau o weithgareddau amrywiol er budd y preswylwyr.

Rydym yn cydweithio’n agos gydag eraill ac yn croesawu cynigion o gefnogaeth gan sefydliadau allanol.

Rydym hefyd yn ffodus o gael ‘Cynghrair y Cyfeillion’; grŵp gwirfoddol sy’n cyfarfod sawl gwaith y flwyddyn. Maent yn trefnu ffeiriau, digwyddiadau codi arian, er enghraifft nosweithiau Chwist ac yn codi arian ar gyfer pethau amrywiol i’r preswylwyr, megis teithiau, wyau Pasg, anrhegion Nadolig, hyd yn oed setiau teledu. Mae Cynghrair y Cyfeillion wedi bod yn hynod gefnogol dros y blynyddoedd, maent yn aml yn gofyn i ni beth sydd ei angen arnom, ac maen nhw’n mynd ati i godi’r arian. Mae Cynghrair y Cyfeillion yn croesawu aelodau newydd, cysylltwch â Hafan Deg am fwy o wybodaeth.

Newidiadau i Hafan Deg dros y blynyddoedd

Ers i mi ddechrau yma, rwyf wedi gweld llawer o newidiadau. Pan ddechreuais yma roedd 50 gwely, gydag ystafelloedd gwely lle’r oedd nifer o bobl yn rhannu. Erbyn hyn, mae gennym 20 gwely. Mae pob ystafell yn ystafell sengl, gyda phump o’r ystafelloedd yn rhai gydag ystafell ymolchi ynghlwm. Gallwn addasu ar gyfer eithriadau, er enghraifft cyplau neu frodyr/chwiorydd sydd am rannu ystafell wely.
I ddechrau, byddai’r Cartref wedi bod yn sefydliad tebycach i westy, gyda’r preswylwyr yn rhydd i fynd a dod fel y mynnent a byddent wedi dod i fyw yn y cartref pan oeddent yn gymharol ifanc, rhai mor ifanc ag yn eu chwedegau cynnar.

Y dyddiau hyn, mae angen cymorth y staff ar bron pob un o’r preswylwyr i fynd allan o’r cartref, er enghraifft, i fynd i’r dref. Mae hyn oherwydd y tuedd i’n preswylwyr ddod yma pan fônt dipyn yn hŷn ac yn gyffredinol, mae ganddynt gyflyrau cymhleth sy’n golygu bod angen cymorth ein staff arnynt. Gall pobl fod yn fwy annibynnol wrth iddynt heneiddio, gan fyw yn eu cartrefi eu hunain am fwy o amser nag yn y gorffennol.

Ychwanegwyd y ganolfan ddydd at y cartref ym 1987. Mae hi’n gysylltiedig â’r cartref ond yn cael ei rhedeg ychydig yn wahanol i’r Cartref. Gall ein preswylwyr dreulio hyd at ddiwrnod cyfan yn y ganolfan ddydd cyn dychwelyd i’r cartref. Mae’r trefniant yn cynnig newid i’r preswylwyr ac yn rhoi cyfle iddynt brofi gweithgareddau gwahanol i’r hyn sy’n digwydd yn y Cartref.

Lles Preswylwyr
Rydym yn darparu amrywiaeth o weithgareddau a sesiynau adloniant, o addurno cacennau, sesiynau canu a theithiau dydd neu dro bach i’r dref.

Mae gennym system gymharol newydd o’r enw RITA. Mae RITA yn sefyll am Reminiscence Interactive Therapy Activities (Gweithgareddau Therapi Rhyngweithiol Atgofion) ac mae’n offeryn gwerthfawr i’w ddefnyddio gyda phobl sy’n dioddef o ddementia yn ogystal â phreswylwyr sydd heb gael diagnosis o ddementia. Gall y preswylydd ei hun ddefnyddio’r system neu gellir defnyddio’r system gyda gofalwr wrth law i gynnwys y preswylydd mewn ystod o weithgareddau. Mae’r rhain yn cynnwys gwrando ar gerddoriaeth, dangos lluniau, gemau rhyngweithiol a hyd yn oed ail-chwarae areithiau y bydd y preswylydd efallai yn ymgysylltu â nhw.

Mae preswylwyr hefyd yn derbyn papur newydd hel atgofion, o’r enw ‘The Daily Sparkle’ sy’n cynnwys newyddion ac erthyglau diddorol o’r ganrif ddiwethaf, 50 mlynedd yn ôl neu fwy efallai, gyda’r nod o helpu’r preswylwyr i ymgysylltu â’r erthyglau neu i brocio’r cof.

Bob yn ail wythnos, bydd offeiriad neu weinidog o addoldy lleol yn cynnal gwasanaeth crefyddol. Syniad dan drafodaeth ar hyn o bryd yw’r syniad o drefnu i’r offeiriaid/gweinidogion yma ddod ar ymweliadau bugeiliol er mwyn rhoi cyfleoedd cyson i’r preswylwyr siarad yn gyfrinachol am faterion nad ydynt o bosibl yn teimlo’n gyfforddus yn eu trafod gydag unrhyw un arall, er enghraifft materion diwedd oes. Rwy’n credu y bydd hon yn nodwedd newydd gadarnhaol a fydd yn rhoi cyfle ychwanegol i breswylwyr fynegi eu teimladau a’u meddyliau mewn ffordd ddiduedd.

Yr hen a’r ifanc yn rhyngweithio ac yn cael hwyl gyda’i gilydd

Ymwelwyr eraill a ddaw i’r cartref yn rheolaidd yw aelodau cangen leol Merched y Wawr a phlant o Ganolfan Deuluol Llambed. Un tro daeth y plant ag oen gyda nhw hyd yn oed, ac roedd y preswylwyr wrth eu bodd gyda’r arwydd caredig hwn a oedd yn eu galluogi i ailgysylltu gyda byd natur. Roedden nhw’n wên o glust i glust.

Mae ysgolion yn dod ar ymweliad hefyd – mae llawer o weithgareddau rhwng y cenedlaethau sy’n ein cysylltu gyda phlant lleol, gan ein gwneud yn rhan gydlynus o’r gymuned yn Llanbedr Pont Steffan.
Daw disgyblion ysgol neu fyfyrwyr coleg sy’n astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol atom yn eu tro ar leoliad neu fel rhan o’u profiad gwaith.

Bob blwyddyn, rydym yn cymryd rhan yng ngharnifal Llanbedr Pont Steffan ac mae hi’n amser cyffrous i staff a phreswylwyr ar hyn o bryd, wrth i ni gydweithio i rannu syniadau a dewis y celfi a’r gwisgoedd sydd eu hangen ar gyfer y fflôt. Y thema eleni yw ‘Diwrnod Cenedlaethol y Llyfr’ felly mae’r posibiliadau yn ddiddiwedd! Rwy’n edrych ymlaen at glywed syniadau’r preswylwyr. Ar ddiwrnod y carnifal bydd y preswylwyr yn teithio mewn bws mini wedi ei addurno ac yn ymuno yn yr orymdaith o gwmpas y dref. Caiff y preswylwyr gyfle i fwynhau hufen iâ gyda gweddill y gymuned yng Nghlwb Rygbi Llambed, sef cyrchfan yr orymdaith.