Donna Hughes
Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol

Mae cymaint o gyfleoedd o fewn y sefydliad.

Fy Stori:

Rydw i wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion ers dros 18 mlynedd. Drwy ymgymryd ag amryw gyrsiau hyfforddi a chymwysterau ffurfiol a ariannwyd gan y Cyngor dros y blynyddoedd, rwyf wedi cael cyfle nid yn unig i weithio mewn ychydig o swyddi gwahanol a diddorol, ond swyddi a gyfrannodd hefyd at fy nyrchafiad dros y blynyddoedd, i’r fan lle’r wyf yn awr.

Mae gwaith Cyngor Sir Ceredigion yn cwmpasu cymaint o wasanaethau, o weithio gyda phlant, oedolion sy’n agored i niwed, gweithio gydag ysgolion, adeiladau, technoleg, digwyddiadau lleol, cynllunio, peiriannau trwm… mae’r rhestr yn ddiddiwedd.