Catryn Lawrence
Pennaeth

Rwyf wedi bod yn ffodus tu hwnt o dderbyn cyngor, anogaeth a chymorth gan fentoriaid ymroddgar a deallus sy’n fy ysbrydoli.

Fy Stori:

Ar ôl arallgyfeirio o astudio’r Gyfraith a mentro i fyd addysg, bûm yn ddigon ffodus i gael fy swydd addysgu cyntaf yn Ysgol Aberaeron, cyn symud ymlaen i addysgu yn Ygsol Plascrug. Ar ôl cael blas ar arwain agweddau o’r cwricwlwm yno, cefais fy annog gan Swyddogion Addysg Ceredigion i ymgymryd â rôl arweinydd ysgol.  Llwyddais i gael swydd Pennaeth Dros Dro ysgol Cei Newydd a Llanarth, cyn cael fy mhenodi yn Bennaeth Ysgol Penrhyn-coch ac Ysgol Penllwyn, lle rwyf bellach wedi ymgartrefi ers oddeutu 3 blynedd.

Trwy gydol fy ngyrfa yma yng Ngheredigion, rwyf wedi bod yn ffodus tu hwnt o dderbyn cyngor, anogaeth a chymorth gan fentoriaid ymroddgar a deallus sy’n fy ysbrydoli. Mentoriaid a oedd yn dangos y ffordd ac hefyd yn fy annog i fod yn arloesol er mwyn cael y gorau o’r disgyblion yr wyf yn eu gwasanaethu.

Ar ôl 10 mlynedd o weithio yng Ngheredigion, rwyf yn parhau i fod yn falch fy mod wedi penderfynu aros yma ar ôl graddio.