Paul Williams
Rheolwr Cyfleusterau

Rwy'n mwynhau fy swydd, ac mae gen i dîm gwych o'm cwmpas. Nid oes dau ddiwrnod yr un fath, mae'n rhaid i mi feddwl mewn ffordd ddeinamig oherwydd y gall blaenoriaethau newid drwy gydol y dydd, ac mae hyn i gyd yn rhan o'r her.

Fy Stori:

Rwyf wedi gweithio i’r Cyngor ers mis Rhagfyr 2002. Dechreuais weithio yn yr Adran Cynnal Adeiladau fel Trydanwr. O’r swydd hon, symudais ymlaen i fod yn is-fforman y Depo,  yna’n Fforman y Depo, ac yna’n Swyddog Cynnal a Chadw Tai.

Yn 2005 rhoddodd fy rheolwyr llinell gyfle i mi astudio ar gyfer BSc mewn Rheoli Prosiectau ac Adeiladu; cwblhawyd hyn yn 2008 ac fe’m galluogodd i ymgeisio am swydd Rheolwr Cyfleusterau Canolfan Rheidol.

Rwyf wedi bod yn fy swydd ers 2008, mae’r swydd wedi newid yn sylweddol ers i mi ddechrau, rhwng Gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau a Glanhau mae gennyf bellach gyfrifoldeb rheoli dros 161 o swyddi, 5 adeilad gweinyddol, 2 system wresogi, a 36 o gyfleusterau cyhoeddus.

Rwy’n aelod gwirfoddol o griw’r bad achub ac mae’r Cyngor wedi fy nghefnogi yn llawn yn y rôl hon yn ystod cyfnodau o hyfforddiant, a galwadau brys.