Y peth gorau am y swydd yw bod allan yn yr awyr agored, a chael gweithio yng nghefn gwlad hyfryd Ceredigion.
Fel llwythwr, rwy’n mynd i mewn ac allan o’r lori wastraff, gan gasglu gwastraff pobl. Ers dechrau yn y rôl, rwyf wedi cwblhau NVQ mewn LGV. Oeddech chi’n gwybod bod y timau casglu yn casglu tua 65 tunnell o wastraff bob dydd? Mae hynny’n gyfwerth â 54 o geir. Mae’n sicr yn ein cadw cyn iached â’r gneuen – nid oes angen i ni fynd i’r gampfa!