P’un a ydych am werthu, coginio neu weini bwyd mae gennym gyfleoedd arlwyo i chi mewn lleoliadau ar draws Ceredigion. Mae llawer o’n swyddi arlwyo naill ai yn ein hysgolion neu yn ein cartrefi gofal preswyl. Mae gweithio mewn ysgolion yn wych i’r rheini sydd am weithio yn ystod y tymor yn unig.

Cynorthwyydd arlwyo yw ein swydd lefel mynediad. Mae cynorthwywyr arlwyo yn cynorthwyo ein cogyddion ac yn gyfrifol am lendid y gegin. I gael eich ystyried ar gyfer swydd cynorthwy-ydd arlwyo, mae’n rhaid i chi naill ai feddu ar dystysgrif hylendid bwyd sylfaenol neu fod yn barod i’w chwblhau.

Swyddi Gwag Cyfredol

Cynorthwyydd Arlwyo – Cartref Gofal Preswyl Yr Hafod

Aberteifi

25,614

10 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 22/11/2026
Cynorthwyydd Arlwyo – Gogledd Ceredigion (Symudol)

Aberystwyth

25,614

15 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 15/11/2026
Cogydd Mewn Gofal – Ysgol Gynradd Plascrug

Ysgol Gynradd Plascrug, Aberystwyth

27,274 - 28,608

30.5 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 11/11/2026
Cynorthwyydd Arlwyo – Ysgol Gynradd T. Llew Jones

Aberteifi

25,614

16.5 awr / Cyfnod Penodedig

Dyddiad Cau: 10/11/2026