Rydym wedi ymrwymo i fabwysiadu ffyrdd modern o weithio i wella effeithlonrwydd a darparu gwasanaethau arloesol, o ansawdd uchel a chost-effeithiol i’n dinasyddion. Mae ein gwasanaeth TGCh wrth wraidd yr ymdrech hon. Gan ganolbwyntio ar ffyrdd ystwyth o weithio a buddsoddi’n helaeth mewn datblygu datrysiadau blaengar, mae ein gwasanaeth TGCh yn cynnal tîm o’r ansawdd orau sy’n gallu cefnogi pob maes o ddarpariaeth gwasanaeth.

 Mae’r gwasanaeth yn cynnwys y timau canlynol:

Seilwaith – yn canolbwyntio ar rwydweithiau, cyfathrebu, seilwaith gweinyddwr a chwmwl

Datblygu Meddalwedd – adeiladu cymwysiadau blaengar yn bennaf yn C#, MVC, Apps Gwe ac apiau symudol

Cydlynu Technegol – desgiau cymorth a rheoli prosiectau

Cymorth TGCh – rheoli cefnogaeth ar gyfer 7000 o ddyfeisiau ac 20,000 o ddefnyddwyr ledled Cymru

Cymorth Busnes – gweithio gyda defnyddwyr i ddatblygu a rheoli cymwysiadau

Mae’r timau hyn yn darparu ystod eang o gyfleoedd i staff ddysgu, arbenigo a chymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau cyffrous. Wrth ymuno â’n tîm TGCh byddwch yn cael eich herio ac yn cael cyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau a’ch gyrfa.

Mae ein gwasanaeth TGCh yn herio’u hunain i fod y gwasanaeth TGCh mwyaf arloesol yng Nghymru sy’n canolbwyntio llwyr ar y cwsmer.    Os yw hyn yn swnio’n dda i chi yna  ein gwasanaeth TGCh yw’r lle i chi.

Swyddi Gwag Cyfredol

Swyddog Datrysiadau Digidol

Canolfan Rheidol, Aberystwyth

37,938 - 39,513

37 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 10/12/2024