Gwybodaeth Bwysig a Chwestiynau Cyffredin

Nid oes rhaid i chi gwblhau eich cais mewn un sesiwn. Os ydych chi am gymryd amser i feddwl am eich atebion, gallwch arbed eich cais ac allgofnodi. Gallwch ddod yn ôl ar unrhyw adeg cyn y dyddiad cau i gwblhau eich cais.

Cofiwch oherwydd ein hymrwymiad i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn y naill iaith neu’r llall. Ni fydd eich dewis iaith yn arwain at drin eich cais yn llai ffafriol.

Dim ond drwy gyfeirio at y wybodaeth a ddarparwyd yn eich cais y gall y panel benderfynu a ddylid eich gwahodd i gyfweliad, felly mae eich datganiad personol ategol yn rhan bwysig iawn o’ch cais. Wrth ysgrifennu eich datganiad personol ategol mae angen i chi ystyried y disgrifiad swydd a’r fanyleb person er mwyn i chi allu dangos sut yr ydych yn credu y gallwch fodloni gofynion y swydd.

Mae ein proses recriwtio wedi’i chynllunio i fod yn deg ac yn ddigyfnewid. O ganlyniad, nid ydym yn derbyn CV nac unrhyw ddeunydd ategol arall oni bai y gofynnir yn benodol i chi ei ddarparu. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am swydd, mae’n rhaid i chi gwblhau cais ar-lein.

Nid oes dim i’ch atal rhag gwneud sawl cais. Sicrhewch fod eich datganiad personol wedi’i deilwra i adlewyrchu gofynion pob swydd.

Gallwch wneud newidiadau i’ch cais os nad ydych wedi ei gyflwyno ac os nad yw’r dyddiad cau wedi mynd heibio.

Os ydych chi’n dymuno gwneud newidiadau i gais sydd eisoes wedi’i gyflwyno, dim ond drwy ddileu eich cais a chyflwyno un newydd y gallwch wneud hynny. Ni fyddwch yn gallu gwneud hyn unwaith y bydd y dyddiad cau wedi mynd heibio.

Os ydych wedi cyflwyno cais ac nad ydych chi eisiau cael eich ystyried ar gyfer y swydd mwyach, anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk gan ddyfynnu’r cyfeirnod swydd.

Os ydych chi’n cael unrhyw anawsterau gyda’n system recriwtio, cysylltwch â ni.

Rydym yn sylweddoli y gall ymgeiswyr anabl wynebu heriau ychwanegol o ran cael gwaith ac rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfleoedd cyflogaeth i bobl ag anableddau. Yn rhan o’r ymrwymiad hwn rydym wedi ennill achrediad ‘Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd’. Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â hyn ar gael yma.

Rydym yn sefydliad dwyieithog ac felly mae gan rai swyddi ofynion iaith Gymraeg. Os felly, caiff ei nodi yn y fanyleb person. Mae rhagor o fanylion am safonau’r Gymraeg, gan gynnwys sut rydym yn cefnogi ein pobl i ddysgu Cymraeg, ar gael yma.

O ganlyniad i’n hymrwymiad i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal, gellir cyflwyno ceisiadau am gyflogaeth gyda ni mewn unrhyw iaith. Ni fydd eich dewis iaith yn golygu bod eich cais yn cael ei drin yn llai ffafriol.

Mae gennych hawl hefyd i ddewis eich dewis iaith ar gyfer cyfweliad. Os oes gennych unrhyw bryderon, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi mabwysiadu fframwaith ALTE i asesu sgiliau iaith ymgeiswyr. Aseswch eich galluoedd yn erbyn y Fframwaith ALTE “Datganiadau gallu gwneud” a restrir isod.

Gwrando a Siarad

Lefel 1
Medru ynganu enwau llefydd ac enwau personol yn gywir.Medru cyfarch cwsmeriaid mewn derbynfa neu ary ffon.Medru agor a chloi sgwrs.

Lefel 2
Medru deall craidd sgwrs. Medru derbyn a deall negeseuon syml ar batrymau arferol, e.e. amser a lleoliad cyfarfod, cais am siarad gyda rhywun. Medru cyfleu gwybodaeth elfennol a chyfarwyddiadau syml. Medru agor a chau.

Lefel 3
Medru deall a chymryd rhan yn y rhan fwyaf o sgyrsiau arferol o ddydd i ddydd yn y swyddfa. Medru cynnig cyngor i’r cyhoedd ar faterion cyffredinol mewn perthynas a’r swydd, er yn gorfod troi i Saesneg ar gyfer termau technegol neu arbenigol. Medru cyfrannu i gyfarfod neu gyflwyniad ar faterion cyffredinol mewn perthynas a’r swydd, er yn gorfod troi i Saesneg ar gyfer termau technegol neu arbenigol.

Lefel 4
Medru cyfrannu’n effeithiol mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol yng nghyd-destun y pwnc gwaith. Medru deall gwahaniaethau cywair a thafodiaith. Medru dadlau o blaid ac yn erbyn achos penodol. Medru cadeirio cyfarfodydd ac ateb cwestiynau o’r Gadair yn hyderus. Medru rhoi cyflwyniadau yn rhugl ac yn hyderus yng nghyd-destun y pwnc gwaith.

Lefel 5
Medru cyfrannu’n rhugl a hyderus yng nghyswllt pob agwedd ar y gwaith beunyddiol, gan gynnwys trafod a chynghori ar faterion technegol, arbenigol neu sensitif.

Sgiliau Darllen

Lefel 1
Gallu deall adroddiadau byr ar faterion syml, os ydynt wedi’u mynegi mewn iaith syml, fel arwyddion elfennol, cyfarwyddiadau symla a chynnwys agenda.

Lefel 2
Gallu deall y rhan fwyaf o adroddiadau byr a chyfarwyddiadau arferol o fewn arbenigedd y gwaith, a bod digon o amser wedi ei ganiatIgu.

Lefel 3
Gallu deall y rhan fwyaf o adroddiadau, dogfennau a gohebiaeth y mae’n debygol o ddod ar eu traws yn ystod y gwaith.

Lefel 4
Gallu deall gohebiaeth ac adroddiadau wedi’u mynegi mewn iaith safonol.

Lefel 5
Gallu deall adroddiadau, dogfennau ac erthyglau y mae’n debygol o ddod ar eu traws yn ystod y gwaith, gan gynnwys cysyniadau cymhleth wedi’u mynegi yn nhermau astrus.

Sgiliau Ysgrifennu

Lefel 1
Medru ysgrifennu enwau personol, enwau llefydd, teitlau swyddi ac enwau adrannau’r Cyngor. Medru ysgrifennu cais syml i gydweithiwr, e.e. hwn a hon wedi galw.

Lefel 2
Medru llunio neges fer syml ar bapur neu e-bost i gydweithiwr o fewn y Cyngor neu gyswllt cyfarwydd y tu allan i’r Cyngor.

Lefel 3
Medru llunio negeseuon ac adroddiadau anffurfiol at ddefnydd mewnol.

Lefel 4
Medru llunio gohebiaeth fusnes, adroddiadau byr, negeseuon e-bost a llenyddiaeth hysbysrwydd gyda chymorth golygyddol.

Lefel 5
Medru llunio gohebiaeth fusnes, adroddiadau byr, negeseuon e-bost a llenyddiaeth hysbysrwydd i safon dderbyniol gyda chymorth cymhorthion iaith. Medru llunio nodiadau manwl tra’n cymryd rhan lawn mewn cyfarfod.

Mae’n rhaid i chi fod yn oedran gadael yr ysgol i gael eich ystyried am rôl gyda ni. Er gwybodaeth, yng Ngheredigion, gallwch adael yr ysgol ar ddydd Gwener olaf mis Mehefin, cyn belled ag y byddwch yn 16 oed erbyn diwedd gwyliau haf y flwyddyn academaidd honno.

Os nad oes gennych fynediad at gyfrifiadur, gallwch gael mynediad at un yn unrhyw un o’n llyfrgelloedd.

Ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod gan bawb yr ydym yn eu cyflogi hawl gyfreithiol i weithio yn y DU. Rhaid i ni felly ofyn i chi ddarparu tystiolaeth ddogfennol i ddangos hyn. Ewch i www.gov.uk/legal-right-work-uk i ddarganfod pa ddogfennau y bydd angen i chi eu dangos i ni.

Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gyflogwr cynhwysol. Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano yw potensial. Nid ydym yn credu bod cofnod troseddol o reidrwydd yn rheswm dros wrthod eich cais.

Bydd angen i bawb ddangos prawf oedran a hawl i weithio yn y DU. Efallai y bydd angen i ni weld dogfennau eraill hefyd. Bydd hyn yn dibynnu ar y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani. Er enghraifft, cymwysterau, trwydded gyrrwr ac ati. Mae gofyn am ddogfennau yn rhan o’r broses gwirio cyn cyflogi. Mae’n bwysig nad ydych yn ymddiswyddo o’ch swydd bresennol hyd nes y bydd y gwiriadau cyn cyflogi wedi’u cwblhau.

Os yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus, byddwn yn anfon e-bost atoch i roi gwybod i chi. Ein nod yw gwneud hyn o fewn 14 diwrnod i’r dyddiad cau ond weithiau gall hyn gymryd ychydig yn hwy.

Yn aml fe nodir dyddiadau cyfweld ar ein hysbysebion swyddi fel y gallwch gadw’r dyddiad yn rhydd. Ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi, anfonir e-bost at y rhai a wahoddir am gyfweliad. Mi fydd yr e-bost hwn yn cynnwys dolen i’n system recriwtio er mwyn i chi drefnu slot cyfweld sy’n addas i chi. Mae’n debygol mai nifer cyfyngedig o amseroedd fydd ar gael, felly ceisiwch ddewis amser cyn gynted â phosib fel bod gennych fwy o ddewis!

Os ydych eisoes wedi dewis eich slot amser ac os nad yw hyn yn gyfleus mwyach, cysylltwch â ni.

Gofynnir cwestiynau penodol i chi er mwyn darganfod os oes gennych y wybodaeth a’r sgiliau i wneud y gwaith. Efallai y gofynnir i chi hefyd roi cyflwyniad neu wneud tasg i gefnogi’ch cais ymhellach. Byddwch yn cael gwybod a oes angen gwneud hyn ai peidio yn yr e-bost sy’n eich gwahodd i gyfweliad. Fel arfer bydd tri o weithwyr Ceredigion ar y panel cyfweld.

Cofiwch, rydym yn awyddus i ddod o hyd i’r bobl orau i wneud y gwaith. Byddwn yn deall os ydych chi’n teimlo’n bryderus a byddwn yn gwneud ein gorau i dawelu eich meddwl. Nid eich baglu chi yw diben y broses gyfweld, ond rhoi cyfle i chi hyrwyddo’ch hun.

I baratoi ar gyfer y cyfweliad, dylech ail-ddarllen y disgrifiad swydd a’r fanyleb person. Bydd y panel cyfweld wedi dewis eu cwestiynau drwy gyfeirio at y rhain.

Os bydd eich cyfweliad yn llwyddiannus, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl, fel arfer dros y ffôn. Os nad ydych yn llwyddiannus, ac ni allwn gael gafael arnoch chi dros y ffôn, efallai y cewch eich hysbysu drwy e-bost neu’n ysgrifenedig.

Caiff eich gwybodaeth ei chadw’n ddiogel a’i thrin yn gyfrinachol. Nes i chi gyflwyno cais, ni fydd y wybodaeth yr ydych yn ei darparu ar gael i’r rheolwr recriwtio. Pan fyddwch wedi cyflwyno cais, bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei defnyddio i asesu eich addasrwydd ar gyfer y swydd yn unol â’r gofynion a nodir yn y fanyleb person. Ni fydd ceisiadau yn cynnwys unrhyw wybodaeth cyfle cyfartal. Bydd y wybodaeth a ddarparwch yn cael ei chadw am 12 mis ac yna’n cael ei dinistrio oni bai eich bod yn cael eich penodi. Os cewch eich penodi bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio yn rhan o’ch cofnod cyflogai. Bydd y wybodaeth yn cael ei chadw a’i defnyddio yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data. Mae mwy o wybodaeth am sut rydym yn cadw ac yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol a sut i gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gael yma .

Mae gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad hanfodol os ydych chi’n gwneud cais i weithio gyda phlant neu oedolion agored i niwed (e.e. ym maes addysgu neu ofal). Bydd y gwiriad yn rhoi manylion i ni am euogfarnau troseddol perthnasol a rhybuddion. Mae mwy o wybodaeth am wiriadau DBS ar gael yma: https://www.gov.uk/government/organisations/disclosure-and-barring-service/about Mae’r wybodaeth a geir o’r gwiriad yn ein helpu i wneud penderfyniadau recriwtio mwy diogel. Efallai na fydd cael euogfarn neu rybudd troseddol yn eich atal rhag cael cynnig swydd. Gweler ‘collfarnau troseddol’ uchod. Dylai’r disgrifiad swydd neu’r fanyleb person nodi a oes angen gwiriad DBS ar gyfer y swydd. Os hoffech wirio hyn, cysylltwch â ni.

Rydym yn gwerthfawrogi bod derbyn adborth ar ôl cyfweliad yn ddefnyddiol. Gallwch gael adborth trwy gysylltu â’r rheolwr recriwtio. Fel arall, gallwch gysylltu â ni a gallwn drefnu hyn ar eich rhan.