Mae Llanbedr Pont Steffan yn gyrchfan fasnachol leol brysur sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer ardal eang, gyda nifer o siopau annibynnol sy’n arbenigo mewn dodrefn cartref, llyfrau, recordiau, celf a chrefft, dillad, bwyd a diod.  Yn y dref brifysgol hon mae marchnad ffermwr reolaidd, yn ogystal â chaffis rhagorol sy’n gweini cacennau cartref, hufen iâ Eidalaidd a bwydydd eraill wedi’u paratoi’n ffres.

Mae gan Lanbed gymuned  fywiog, ac mae ganddi hyd yn oed ei cherdyn teyrngarwch ei hun ar gyfer siopa.  Yn ogystal, ceir archfarchnadoedd, canolfan hamdden a phwll nofio, amgueddfa leol a rhwydwaith gwych o deithiau cerdded i’w mwynhau.