Yn hanesyddol, Llandysul oedd canolbwynt diwydiant gwlân Cymru, lle cyflogid miloedd o bobl yn ystod y chwyldro diwydiannol – yn wehyddion, nyddwyr, lliwyr, gweuwyr, llieinwyr a theilwriaid. Yr adeilad hynaf yn y dref fechan hon yw Eglwys Sant Tysul, sy’n dyddio’n ôl i’r 13eg ganrif.
Mae afon Teifi yn Llandysul yn enwog drwy’r byd fel lle i bysgota am frithyll, sewin ac eogiaid. Mae’r afon hefyd yn ganolfan canŵio dŵr gwyn mewn dyfroedd geirwon ac mae’r clwb canŵio lleol yn cynnig cyrsiau canŵio. Yn ogystal, mae Llandysul yn dref ‘Croeso i Gerddwyr’ hefyd a’r ardal o gwmpas yn cynnig llwybrau cerdded bendigedig i’w dilyn.
Llandysul
22,366
30 awr / Parhaol