Gemma Cook
Swyddog Adnoddau Dynol

Mae fy rôl fel Uwch Gynorthwyydd Adnoddau Dynol yng Nghyngor Sir Ceredigion yn rhoi boddhad mawr imi, nid yn unig o ganlyniad i'r pecyn buddion rhagorol sy’n rhan o’r cynlluniau Ceri+,ond hefyd oherwydd rwy'n medru gweithio'n hyblyg i gyd-fynd â gofal plant. Mae'r swydd hefyd yn fy ngalluogi i gael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.

Fy Stori:

Dechreuais fel Cynorthwyydd Gweinyddol Adnoddau Dynol ac rwyf wedi gallu symud ymlaen i fy rôl gyfredol fel Uwch Gynorthwyydd Adnoddau Dynol yn ddidrafferth, ac mae digonedd o gyfleoedd eraill ar gael i ddatblygu fy ngyrfa yn y dyfodol. Mae fy rheolwr yn gefnogol iawn o ran datblygu gyrfa ac mae llawer o gyrsiau ar gael am ddim yn y cyngor yr wyf yn cael fy annog i gymryd rhan ynddynt er lles fy ngyrfa ac fy natblygiad proffesiynol fy hun. Mae fy swydd yn un heriol sy’n cadw fy meddwl yn brysur, ac mae’n fy ngalluogi i ddefnyddio a datblygu fy sgiliau datrys problemau ac fy sgiliau cyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac mae gwybod eich bod wedi cyflawni’r holl dasgau erbyn y terfyn amser yn deimlad gwerth chweil. Rwy’n rhan o dîm deinamig a gweithgar sy’n golygu ei bod hi’n bleser dod i mewn i’r gwaith bob dydd.