Janette Dixon
Rheolwr Tîm - Derbyn a Chydlynu Gweithrediadau Integredig

Mae'r Cyngor wedi bod yn gefnogol iawn ac wedi fy helpu i ddatblygu fy addysg a chael gradd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, NVQ mewn Rheoli ac Arwain yn ogystal â dysgu Cymraeg!

Fy Stori:

Symudais i Geredigion o Orllewin Canolbarth Lloegr yn 2001 a dechreuais weithio gyda Chyngor Sir Ceredigion fel clerc yn yr Adran Gyllid. Cefais fy nyrchafu’n gynorthwyydd gweinyddol ar gyfer 3 Uwch Reolwr ac ym mis Tachwedd 2002 cefais ddyrchafiad pellach i fy rôl bresennol fel Rheolwr Tîm – Derbyn a Chydlynu Gweithrediadau Integredig.

Mae’r tîm yn delio ag ymholiadau ac atgyfeiriadau at ofal cymdeithasol gan gynnwys amddiffyn oedolion a phlant, felly mae’r gwaith yn amrywiol ac yn ddiddorol iawn ac nid oes dau ddiwrnod yr un fath.