Mewn awdurdod bach mae rhywun yn dod i adnabod nifer o gydweithwyr ac mae perthynas waith dda yn cael ei chreu. Yn fy mhrofiad i, nid yw fel rhyw fusnes mawr ac amhersonol – mae’n gymuned o unigolion sy’n defnyddio eu sgiliau a’u hintegriti i ddarparu gwasanaethau da i bobl y sir hon.
Dewch o ‘na, fyddech chi ddim yn darllen hwn oni bai eich bod yn meddwl y gallai Cyngor Sir Ceredigion gynnig yr amgylchedd gwaith iawn i chi. Dyma’r gwirionedd plaen, felly, am brofiad un o’n gweithwyr.
Dechreuais weithio’r i’r awdurdod yn 1996 (ydw, rydw i yn fy mhumdegau nawr!) a does dim rheswm wedi bod i symud i rywle arall. Mae fy swydd yn hynod ddiddorol, rwy’n aelod o dîm da ac mae gen i reolwyr cefnogol. Fe wnes i ddatblygu a symud ymlaen i fy rôl bresennol fel Archifydd y Sir a Rheolwr Gwybodaeth a Chofnodion. Mae fy ngwaith yn golygu fy mod yn goruchwylio’r gofal o gofnodion hanesyddol y sir gan gynnwys dogfennau memrwn hyd at bum can mlwydd oed ac rwyf hefyd, gyda fy nhîm, yn rheoli gweinyddiaeth yr holl ddogfennau a gynhyrchir yn sgil gwaith y Sir. Mae’n waith enfawr a gall fod yn frawychus am fod gwneud y penderfyniadau cywir yn bwysig iawn. Ond y mae hefyd yn hynod ddiddorol ac mae cael tîm cefnogol a dibynadwy yn gwneud y cyfan yn bosibl.
Mae gan y Cyngor bolisïau da o ran cydbwysedd bywyd a gwaith sy’n caniatáu i fi reoli fy amser mewn ffordd sy’n gweddu i fi ac i’r swydd. Mae mynd i ddosbarthiadau ymarfer corff yn ystod fy amser cinio yn golygu fy mod yn well yn fy swydd am fy mod i’n fwy ffit ac wedi ymlacio – ac rydw i’n cael cyfraddau arbennig fel gweithiwr y Cyngor – hwrê.
Rwy’n gweithio gydag aelodau o’r cyhoedd sy’n defnyddio Archifau’r Sir ar gyfer ymchwil, ac mae hyn yn rhoi cyfle gwych i fi gwrdd â phobl newydd a throsglwyddo rhai o’m sgiliau. Does dim curo ar y teimlad o roi sgwrs am hanes y sir i gymdeithas bentref ar noson o haf a gyrru adref drwy wyrddni a harddwch y sir hon wrth iddi nosi.