Rydym yn falch o’r ddarpariaeth addysg o safon uchel a ddarperir yn ein hysgolion. Mae gennym 39 ysgol gynradd, 4 ysgol gyfun, un ysgol 3-16 a 2 ysgol 3-19. Mae ein hysgolion yn cynnig ystod o gyfleoedd sy’n amrywio o swyddi staff cynorthwyol, addysgu a swyddi arweinyddol.

Er mwyn adeiladu ar y safonau rhagorol yn ein hysgolion mae angen pobl eithriadol arnom i feithrin ac ysbrydoli ein disgyblion i gyflawni eu huchelgeisiau. Os hoffech chi wneud gwahaniaeth cadarnhaol a chael effaith wirioneddol ar fywydau ein disgyblion, yna addysg yw’r yrfa i chi, a hoffem glywed gennych.

Athro newydd?

Os ydych yn athro newydd sydd am gychwyn eich cyfnod sefydlu fel athro newydd gymhwyso yma yng Nghymru beth am ddod i Geredigion i addysgu mewn un o’n ysgolion? Cewch y cyfleoedd a’r her i fod yr athro gorau y gallech fod. Ysgolion lle gallwch ysbrydoli, creu cyfleoedd ac arwain y disgyblion yr ydych yn addysgu tuag at wir lwyddiant. Fe fydd y cymorth a’r arweiniad mewn ysgolion ynghyd a’r cyfleoedd datblygiad proffesiynol sydd ar gael i athrawon Ceredigion yn eich cefnogi i wireddu hyn.

Mae egwyddorion Cwricwlwm i Gymru yn reiddiol i fywyd nod pob ysgol ym yng Ngheredigion. Wrth gydweithio mewn partneriaethau gyda disgyblion, rhieni, athrawon a staff ysgolion a’r awdurdod lleol rydym yn sicrhau fod y pedwar diben yn cael eu hyrwyddo ym mhob agwedd o fywyd ysgolion y Sir.

Wrth weithio yn agos gyda partneriaethau addysg gynnar athrawon rydym yn sicrhau fod y broses trosglwyddo o fod yn athro o dan hyfforddiant i fod yn athro newydd gymhwyso yn un cefnogol, effeithiol sydd yn cynnig profiadau gwerthfawr ac addysgiadol i bawb.

Swyddi Gwag Cyfredol

Athro/Athrawes (Addysg Gorfforol) – Ysgol Bro Pedr

Llanbedr Pont Steffan

30,742 - 47,340

32.5 awr / Dros Dro

Dyddiad Cau: 01/05/2024
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 – Ysgol Gynradd Aberporth

Aberteifi

23,114

32.5 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 02/05/2024
Pennaeth Cyfadran Saesneg a Ieithoedd Byd Eang – Ysgol Gyfun Penweddig

Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth

30,742 - 57,713

32.5 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 28/04/2024
Athro/Athrawes Gwyddorau Cymdeithasol – Ysgol Gyfun Penglais

Aberystwyth

30,742 - 47,340

16.3 awr / Dros Dro

Dyddiad Cau: 25/04/2024
Athro/Athrawes Mathemateg a Gwyddoniaeth – Ysgol Gyfun Penglais

Aberystwyth

30,742 - 47,340

26 awr / Dros Dro

Dyddiad Cau: 25/04/2024
Athro/Athrawes Saesneg a’r Cyfryngau – Ysgol Gyfun Penglais

Aberystwyth

30,742 - 47,340

16.3 awr / Dros Dro

Dyddiad Cau: 25/04/2024
Clerc Y Corff Llywodraethol – Ysgol Gyfun Penweddig

Aberystwyth

23,500 - 23,893

10 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 28/04/2024
Pennaeth – Ysgol Gynradd Plascrug

Ysgol Gynradd Plascrug, Aberystwyth

64,540 - 74,796

32.5 awr / Parhaol

Dyddiad Cau: 05/05/2024
Addysgwyr Carlam Cymru

Canolfan Rheidol, Aberystwyth

30,742 - 47,340

Achlysurol

Dyddiad Cau: 07/05/2024

Straeon Gweithwyr

Rwyf wedi bod yn ffodus tu hwnt o dderbyn cyngor, anogaeth a chymorth gan fentoriaid ymroddgar a deallus sy’n fy ysbrydoli.

Catryn Lawrence, Pennaeth
Darllenwch y stori lawn