Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2 (Nos) – Cartref Gofal Preswyl Hafan Deg

Dyddiad Cau: 05/05/2024

Cyfeirnod: REQ105174

21 awr / Parhaol

23,500 - 23,983 *

Llanbedr Pont Steffan

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Rydym am recriwtio gweithiwr Gofal a Chymorth i ymuno â’n Tîm yn barhaol.

Dyletswyddau gofalu a chynorthwyo

  • rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn i ddefnyddwyr gwasanaeth gan gynnwys cyffuriau rheoledig
  • cyflawni dyletswyddau fel y nodir mewn cynlluniau gofal a chymorth, bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth sydd ag anghenion cymhleth neu ddwys
  • cynnal rhaglenni gwaith penodol yn uniongyrchol ac yn rhithwir gydag oedolion a hynny un-i-un neu mewn grup, gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill i gefnogi cynlluniau gofal a chymorth unigol
  • sicrhau y cedwir at systemau gweithio diogel o ddydd i ddydd er mwyn galluogi’r gwasanaeth i fodloni gofynion RIDDOR, COSHH, codi a chario, cymorth cyntaf a meddyginiaeth
  • ymateb i unrhyw sefyllfaoedd brys drwy gymryd y camau priodol e.e. cysylltu â meddyg, gwasanaeth ambiwlans, gwasanaeth tân, gwasanaeth heddlu ac ati
  • bod yn gyfrifol am drin yn ddiogel eiddo ac offer sy’n perthyn i’r defnyddiwr gwasanaeth
  • meithrin perthynas waith effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth, a chyfathrebu’n dda â nhw
  • adnabod a rheoli risgiau yn y byrdymor a’r tymor canolig i sicrhau bod defnyddwyr y gwasanaeth yn ddiogel a nodi risgiau y mae’n rhaid eu huwchgyfeirio i’r gweithiwr proffesiynol
  • bod yn gyfrifol am gynnal gwaith ymyriadau ac atal, gan gynnwys achosion cymhleth, a fydd yn cefnogi unigolion â’u lles meddyliol, cymdeithasol a chorfforol a cheisio gwella eu canlyniadau tymor hir
  • gweithio mewn partneriaeth gydag unigolion, eu teuluoedd ac asiantaethau eraill mewn ffordd gyson a rhagweithiol, gan ddefnyddio dull Arwyddion Diogelwch sy’n rhoi pwyslais ar gryfderau, gan gynnwys mewn amgylchiadau pan fo’r berthynas yn anodd
  • rhoi gofal personol yn unol â’r cynllun gofal a chymorth ac yn cynnwys y technegau codi a chario cywir
  • defnyddio technegau Rheoli Ymddygiad Cadarnhaol neu Team Teach yn ôl cyfarwyddiadau’r cynllun gofal a chymorth
  • rhoi datganiad llygad-dyst ar gyfer achosion cyfreithiol lle bo angen
  • diweddaru systemau cofnodi yn ôl y galw i gadw cofnod o’ch gwaith
  • gweithio yn ystod y dydd a’r nos ar rota dreigl. Bydd disgwyl i staff nos weithio yn ystod y dydd ar adegau i gyflenwi, hyfforddi neu oruchwylio. Bydd gofyn i staff dydd gyflenwi shifft nos fel rhan o hyfforddiant neu i gyflenwi
  • gwneud unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n gymesur â lefel a disgwyliad y swydd, gan gynnwys pan fydd angen gweithio mewn Tîm ac/neu leoliad arall

Sicrhau Ansawdd

  • rhoi gwybod i’r Tîm Rheoli am bob cwyn a chanmoliaeth
  • trafod ac eirioli dros ddefnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd ac eraill, yn ogystal â gyda nhw
  • trefnu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd defnyddwyr gwasanaeth rheolaidd
  • cadw cofnodion priodol yn unol â gofynion y Cyngor neu’r Gwasanaeth a darparu data pan fo hynny’n berthnasol

Cyfrifoldebau Cyffredinol

  • hyrwyddo’r Gymraeg a dewis iaith defnyddwyr gwasanaeth yn ôl gofynion safonau’r Gymraeg a fframwaith Mwy na Geiriau
  • hyrwyddo cyfle cyfartal wrth ddarparu gwasanaethau
  • gweithio fel tîm a deall eich rôl a’ch cyfrifoldebau chi ynddo
  • cadw gwybodaeth sy’n ymwneud â defnyddwyr gwasanaeth, ymwelwyr a staff yn gyfrinachol
  • sicrhau bod yr holl gofnodion Iechyd a Diogelwch a goruchwylio gofynnol yn cael eu cwblhau yn unol â pholisïau a systemau perthnasol
  • hyrwyddo a pharchu hawliau defnyddwyr gwasanaeth i breifatrwydd, urddas a dewis
  • hebrwng defnyddwyr gwasanaeth i fynd allan er mwyn iddynt gadw cysylltiadau cymunedol
  • datblygu gwaith partneriaeth effeithiol gyda chydweithwyr mewnol ac allanol ac asiantaethau eraill
  • cadw at ddeddfwriaeth a chanllawiau statudol perthnasol, polisïau a gweithdrefnau mewnol mewn perthynas â materion proffesiynol a gweinyddol
  • bod yn ymwybodol a gwybod am Strategaethau Cenedlaethol a Lleol perthnasol gan gynnwys y Strategaeth Integredig Gydol Oes a Lles
  • mynychu cyfarfodydd tîm, sesiynau goruchwylio a chyrsiau hyfforddiant pan fydd yn briodol ac yn unol â chyfarwyddyd y Rheolwr Llinell, ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol

Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â: Matthew Parry trwy ebostio: Matthew.parry@ceredigion.gov.uk

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Gofal – Gwasanaethau Ymyrraeth wedi’u Targedu

Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol. Ein prif swyddogaethau yw:

  • Tîm Derbyn a Brysbennu Porth Ceredigion
  • Gwasanaethau Ymyrraeth wedi’i Thargedu
  • Gwasanaethau Maethu
  • Gwasanaethau Preswyl a Gofal Dydd
  • Gwasanaethau Tai
  • Storfeydd Cyfarpar Cymunedol Integredig
  • Tîm Dyletswydd Argyfwng